23/12/2005

'Dolig Llawen



Wel ma'r twrci di cyrraedd o fferm gyfagos, y tatws, panas a'r moron o'r ardd, y winwns a'r perlysiau o'r ardd i wneud stwffin a'r seidr, gwin cartre a chwrw cartre'n oeri yn yr oergell. Ein Nadolig lled-hunan gynhaliol cynta ni(a hyn oll gyda fi a nghariad yn gweithio'n llawn amser ac yn adeiladu tŷ) . Gobeithio flwyddyn nesa fydd twrciod ein hunain i gael da ni hefyd, bwciwch nawr os ych chi am un ych hun. Dwi'm yn rhyw deimlo'n rhy Nadoligaidd eto, cwpla gwaith am hanner dydd heddi, angladd prynhawn ma a wedyn cwpwl o ddiwrnode o loddesta cyn mynd yn ôl i'r gwaith. Gallai'm aros tan i fi ennill y loteri a chael byw adre a chael gwireddu'r freuddwyd o fod yn ffermwr/garddwr/cogydd a.y.y.b. Enjoiwch eich hunan bobols, a wela i chi yn y flwyddyn newydd, ta ta tan toc.

01/12/2005

Diogu



Dwi'n wael iawn yn cadw lan da'r blogio ma ond dwi di bod yn brysur. Ma'n moch ni di'n gadael ni wedi'n hen adael ni am y lladd-dŷ a ma nhw bellach yn y rhewgell. Dwi di bod y brysur da pob math o goncocsiyns - ma dwy ystlys, y ddau ben(yn barod i wneud brawn) a ham yn halltu, darn bach o borc y bola mewn dŵr a halen a darn o'r collar mewn gwin coch i wneud ham Caerfyrddin. Defnyddiwyd yr afu i wneud pate a ffagots, halltes i ddarn o'r afu 'fyd mewn siwgr brown a halen a'i ffrio'n denau a'i fwyta gyda finegr balsamic a diwedd ein llysie salad ni am eleni (gobeithio y bydd llysie 'da ni drwy'r flwyddyn wedi i fi gwpla adeiladu'r polytunnel). Y prif arbrawf wnes i oedd defnyddio gwaed y moch i wneud boudin noir/pwdin gwaed, mi oedd y canlyniadau'n ffein dros ben ond ddim byd tebyg i'r pwdin sydd ar werth yn y bwtsiwr, mi fydd rhaid arbrofi'n bellach (rysait o lyfr Hugh Fernley/River Cottage ddefnyddies i). Fuon ni'n ddigon ffodus o gael dwy afar ifanc gan gymydog hefyd, felly ma'n rhewgell ni'n reit llawn (fues i'n lladd ein hwyaid ni hefyd cwpwl o wsnose nôl felly ma digon o gig da ni nawr). Do ni erioed di cael cig gafar o'r blaen heblaw am mewn cyrri felly wnes i dreual rysait dwi di ddefnyddio cwpwl o weithie i goginio cig oen. Fe ges i'r rysait o bapur yr Observer, 'Roman Spring Lamb', ma'r rysait wreiddiol o'r llyfr coginio Silver Spoon, anrheg Nadolig bach neis i unrhywun sydd a diddordeb mewn coginio. Ac oedd mi oedd y cig gafar yn hyfryd.

10/11/2005

Sialens Starbucks



Ddydd Sul diwetha fe bendyrfynes i gefnogi globaleiddio a mynd am dro i'r siôp goffi Starbucks agosa yn Abertawe. Ma'n rhaid cyfadde y mod i'n mynd o ngwirfodd ambell waith (ma'r teisenne bach oreo's yn arallfydol), ond Ddydd Sul mi oedd na bwrpas i'r ymweliad. Wedi darllen am Sialens Starbucks ar flog Hippi'r Ddinas fe benderfynes i weld os oedd ein cornel bach ni o'r byd yn gwneud bach yn well na'r dinasoedd mawr drwg. Pwrpas y sialens yw i weld os oes modd cael paned o goffi 'masnach deg' o Starbucks, ma nhw di bod yn gwerthu coffi rhydd ers amser i chi gael prynu a ma na lwyth o daflenni 'fyd yn y siôp yn sôn yn union beth yw coffi masnach deg. Ma'n bleser da fi ddweud y gwnath Abertawe'n dda iawn, mi oedd na goffi du masnach deg ar gael(a mi oedd e'n ffein iawn 'fyd). Pam na wnewch chi dreual hyn yn ych siôp goffi leol.

Fideo Morningwood



Dim byd gwreiddiol gwaetha'r modd ond linc bach at flog arall a ddath a'n sylw i. Sôn ma'r linc am fideo cerddoriaeth gan y band Morningwood (falle bo fi'n dangos pa mor 'uncool' dwi ond do ni'm di clywed amdanyn nhw o'r blaen) ond nath i fideo bach nhw fy niddanu am rhyw ddwy funud bore 'ma oleua.

09/11/2005

Celf Canol Wsnos.



Newydd ffeindio'r blog ma am arddangosfa yn San Francisco oddi ar Boing Boing, arrdangosfa o waith Eric Kroll (ddim yn saff i'r gwaith), Charles Krafft, Winston Smith a Robert Williams. Dwi'n gyfarwydd 'da gwaith Kroll (ffotograffiaeth 'arty-fetish') a Smith (fe wnath e glawr un o albwm's Green Day) ond do ni'm di clywed am stwff Krafft o'r blaen. Cerwch am bip ar i wefan e, ma peth o'r gwaith jest yn hollol wych (fe wnath y tepot yn y llun uwch). Joiwch, bach o gelfyddyd ganol wsnos.

07/11/2005

Tân Gwyllt



Wel na flwyddyn arall drosto, agos at 40 o westeion da ni eleni ar noson Guto Ffowc gan gynnwys cwpwl o dramorwyr (wel llond dwrned o Saeson, un Almaenes ag un o Ganada). Mi oedd nosweth tân gwyllt yn draddodiad ar y fferm cyn i ni symud i'r ardal, ac er taw y fi a nghariad oedd yn cynnal y nosweth do ni'm yn nabod hanner y bobol oedd na (mi o ni'n nabod y Cymry Cymraeg i gyd ond neb o'r 'bobol ddwad', er ein bod ni yn rhai 'fyd). Gwariwyd dros £100 ar dân gwyllt(mond rhyw £20 ddath o mhoced i) a ma rhyw £80 o dân gwyllt ar ôl da ni heb i defnyddio, cymysgwch o dywydd diflas a phlant oedd di hen ddiflasu ar 'roman candles' a mond isie sparklers neu cael cyfle i chwarae da'r tân. Ond ar y cyfan mi oedd hi'n nosweth dda iawn, mi oedd holl bobol ifanc yr ardal yn feddw rhacs ar gans o woodpecker a'i rhieni'n cymryd dim sylw tan i ddau dechre ymladd ac i un arall gwympo dros ben cadair (fuodd un yn sic bedair gwaith, o am fod yn ifanc unwaith eto!). Mi o ni'n reit rhacs erbyn diwedd y nosweth 'fyd, ac yn wlyb trwy nghroen, aros nawr am flwyddyn nesa - a mi fyddwn ni yn y tŷ erbyn hynny gobeithio.

03/11/2005

Scary Dylan




Ma hwn bach yn od i ddweud y gwir, prosiect yn Abertawe i ail-greu Dylan Thomas yn ffurf digidol. Ar un adeg mi o ni'n reit hoff o Dylan Thomas ond dwi di hen ddiflasu arno erbyn hyn (gormod o Americanwyr tew yn gofyn i fi yn Abertawe os o ni'n i nabod e, 'aye, he iwst to play skittles with my uncle Terry down the Legion, byt'). Ta beth, os oes isie rhywbeth i roi ofn ar rywun arnoch chi cerwch draw i gael pip ar y wefan, sceri.

31/10/2005

Blogio sloppy.



Flin da fi, ma llwyth o esgusodion da fi am beidio blogio ond dwi'm am ych diflasu chi da nhw, ma'n ddigon i ddweud y mod i'n brysur eithriadol. Ynghanol darllen llyfr Truman Capote 'In Cold Blood' a'n gobeithio i gwpla fe cyn ddeith y ffilm Capote allan, ma'r wefan 'offisial' yn werth i gweld. PSH (un o'm hoff actorion) yn chwarae rhan Capote, ma'r llais ar y wefan/cart(trailer) yn hala iasau oer lawr y nghefn.

Welodd rhywun raglen newydd Gordon Ramsey (F-Word)? Wel os do fe, drues i wneud y gymysgedd yna o friwsion bara, parsley, a llwyth o berlysie ond doedd y mriwsion i ddim tebyg i'r lliw gwyrdd 'radioactive' oedd da fe. Nodyn i'r plantos: ma teledu'n dweud celwydd (dyw nghwcan i byth yn edrych yr un peth a'r teledu ta beth). Meddwl cadw twrciod flwyddyn nesa.

Ma pum hwyaden newydd da ni fyd. Cywiriad, mi oedd na bum, ma un yn y mola i. Fuon ni'n ddigon ffodus i gael pum hwyaden gan gymydog, mi fydd y pedwar arall yn y rhewgell penwythnos nesa.



Dwi'n addicted i More4, sianel newydd ddigidol Ch4. Yn yr wsnose diwetha dwi di cael bloneg o raglenni dogfennol, dramau ond yn bwysicach cyfle i ail wylio'r cyfresi o Grand Designs. Ma'n rhaid dweud y mod i di bod yn wyliwr ffyddlon o'r gyfres yma o'r dechre, un o'm hoff raglenni (dwi'm cweit mor wael a phrynu'r cylchgronne a ballu a'r holl spin offs, ond dwi'n reit addicted), gwrddes i Kevin McCloud llynedd yn Llandeilo (mi o ni fel merch ysgol yn cwrdd a Take That), ma fe'n lot talach yn y cig-fyd ond yn foi reit neis. Ma siop newydd da fe, gwefan bach yn gach gan feddwl taw stwff 'designer' ma nhw'n werthu, yma.

Os ych chi di cyrraedd gwaelod y postyn bach 'ma, ma hi'n amlwg taw 'bod yn brysur' yn gwylio'r telly-bocs dwi di bod yr wysnose diwetha, ffor shem.

17/10/2005

Dim gayers os gwelwch yn dda.

Mi oedd na stori ddiddorol am 'hotel homophobia' ym mhapur yr Independent ddoe, yma. Son ma nhw sut ma gwestai yn aml yn gwrthod i gyple hoyw i aros mewn gwestai. Yn anffodus ma nhw di pigo ar westy o Gymru i wneud ffug fwciad am ystafell. Co'r dyfyniad islaw:

The Independent on Sunday' last week tried to book a room for a gay couple at Maesyllan, Boncath, Pembrokeshire. This is what happened...

IoS: "I wondered if you had a double room available for any two nights, from the 14 November onwards?"

OWNER, LIZ BOLDERSTON: "The 14 November, for two nights?"

IoS: "Yes."

MRS BOLDERSTON: "Yes. Hold on for a second, I'll go and get our book ... So it was for a double ensuite room?"

IoS: "Yes."

MRS BOLDERSTON: "OK. Would you prefer a double ensuite bathroom or shower? I'll give you the choice because we haven't got anybody staying that week."

IoS: "OK, probably the bathroom. Can I just check - it would be for my partner, Tom, and me. Is that OK?"

MRS BOLDERSTON: "Your partner, Tom. Right. So, do you want a twin, would you like a twin room?"

IoS: "A double if possible."

MRS BOLDERSTON: "A double. Right. OK. Hmm, we'll see ... I'll just check a minute about the whole thing. We're actually doing big alterations at the moment." (Long pause.) "I'm sure you can hear all the bangings and things that are going on in the background. I don't think we're going to be able to manage that."

IoS: "Ah. OK."

MRS BOLDERSTON: "OK?"

IoS: "OK. Thank you for your time anyway."

MRS BOLDERSTON: "Bye."

IoS: "Bye."


Dwi'n deall bod homophobia yn bodoli (er bod dim esgus amdano) ond ma hyn hyd yn oed yn waeth wrth i chi edrych ar wefan Gwesty Maesyllan, mewn dyfyniade ma nhw'n datgan "Croeso cynnes i bawb" a lli o wobre am i 'gwesty croesawgar'. Pan ddechreues i ddarllen yr erthygl mi o ni'n rhyw ddisgwyl gwesty o Gymru yn i chanol hi'n rhywle, dwi'm yn cael dig at Westy Maesyllan (ma nhw'n siwr di cael digon o gyhoeddusrwydd gwael ynglyn a hyn) ond yn hytrach y diwydiant cyfan yng Nghymru.

04/10/2005

Pinky a Perky



Fore Sul pan ddihunes i, mi oedd na ddau wyneb bach yn edrych arna i o gornel y cae. Dau fochyn. Ma plant y cymdogion di galw nhw'n Pinky a Perky ond dwi'm am fod yn rhy agos atyn nhw oherwydd taw'r rhewgell fydd i tynged nhw. Dwi di bod yn pori drwy'r llyfre coginio am ryseitie sy'n defnyddio porc, hyd yn hyn dwi am wneud brawn o'r pen, pwdin gwaed da'r gwaed a braster, cig moch wedi i halltu o gig y bola, pate, selsig, ham di bobi o un o'r coese a ham 'cured' o un o'r coese eraill. Mi fydda i'n bwyta cig mochyn am fisoedd ar y rat yma.



Ges i benwythnos reit weithgar, codwyd yr holl datws a'r winwns a ma nhw bellach ar ben hen sache reis(am ddim o'r têc awe Tseiniaidd) yn sychu yn barod i'w bagio. Mi dyfon ni 11 math gwahanol o datws eleni y gore o bell ffordd oedd Pink Fir Apple (crop salad), Romano(taten goch) a Cara (taten wen da llygaid pink). Dos dim rhyw lawer ar ôl yn yr ardd heblaw am foron a phanas ac ambell i frassica nad yw'r malwod di bwyta. Ma na lwyth o waith clirio i'w wneud cyn flwyddyn nesa. Tase fod na dô uwch ein pennau ni a stafell spar mi fuasen ni'n ymuno da'r Woofers ac yn câl cwpwl o bobol i aros i weithio ar y fferm. Ma na gymaint o waith i'w wneud a byth digon o help llaw.
Os oes na unrhywun am wylie yng Ngorllewin Cymru dewch yn lli (ond dewch ach wellies da chi 'fyd).

29/09/2005

Llunden, amser braf am change.



Fues i Lunden penwythnos diwetha, dwi'm yn un sy'n or hoff o'r ddinas fawr - gormod o bobol, pawb yn rhy frysiog a neb yn siarad â'i gilydd. Ond, ges i benwythnos reit ddifyr. Fues i a nghariad i weld Belle & Sebastian nos Sul yn y Barbican. Cyngherdd hollol wych, ma'r erthygl o'r Guardian yn spot on.

Gyda'r beudy'n dod yn i flaen fuon ni'n trampio rownd Llunden i bob siôp dosbarth canol oedd yn gwerthu nwydde i'r tŷ - Habitat, Heal's, Purves & Purves a'r Conran Shop. Brynes i ddim byd diolch byth. Trip i farchnad ffermwyr Chelsea, wyau Organig o Aberystwyth yn £4.48 y dwsin!

Wedi mynd am wac rownd marchnad gig Smithfield fe aethon ni am frecwast i fwyty John Torode Smiths of Smithfield(bwyd afiach), ac yna elevenses o fwyty GWYCH Fergus Henderson, St John a chinio hwyr mewn bwyty gwych arall, Maggie Jones's. Fuon ni am drip i siôp Sally Clarke's ac i fewn i fwyty Bibendum i weld y ffenestri lliw hyfryd. Yr unig beth brynes drwy gydol y penwythnos (heblaw am y mwyd) oedd copi o lyfr coginio Fergus Henderson - Nose to Tail Eating, ma fe'n werth i gael, ryseitie lled draddodiadol Brydeinig (dwi di dilyn i rysait e i biclo shallots yn barod), y pryd mwya enwog sydd ar i fwydlen e yw 'Roast Bone Marrow and Parsley Salad' a ma fe'n enwog am ddefnyddio offal fel un o'i brif gynhwysion. Gobeithio gaf i'r pleser o gael pryd cyfan y tro nesa dwi yn Llundain.

Cân y Jac Codi Baw.



Cân y Jac Codi Baw

Newydd ddod ar draws darn bach gwych o animeiddio - rhyw fideo cerddoriaeth i gân Jac Codi Baw. Ma'r awdur/animeiddiwr di gwneud cwpwl arall dwi di gweld yn y gorffennol, y gore o bell ffordd yw i fersiwn e o Creep gan Radiohead. Rhywbeth bach perffaith i godi calon ar ddiwrnod araf yn y gweithle.

20/09/2005

Celfyddyd Gain



Dwi di bod mas amser cinio yn gwario mwy o'n arian prin i ar stwff dos dim rhaid i fi gael ond mi o ni isie. Dwi di prynu darlun gan Beth Marsden, artist ifanc o Dregaron, fe weles i gwaith hi am y tro cynta rhyw flwyddyn a hanner yn ôl mewn arddangosfa yng Ngholeg Sir Gâr. Ma hi'n dod o deulu talentog eithriadol, dwi bron a phrynu paentiad gan i thad fwy nag unweth - ma gwefan newydd da'r teulu yma, ond dyw e'm di cwpla. Diolch byth am gynllun cyngor y celfyddydau - Collectorplan sy'n cynnig cynllun i dalu dros ddeng mis am ddarne celfyddydol heb log. Dwi'n sgint nawr am y deg mis nesa, ond ma fe e werth e, teitl y darn yw Red Head.

A rhywbeth bach ysgafn am bnawn Mawrth diflas, gwefan Beedogs.

08/09/2005

Malls of America



Malls of America

Newydd ddod ar draws blog - Malls of America, 'casgliad o lunie o'r malls coll o'r 60'au ar 70'au' yw'r wefan yn ôl disgrifiad yr awdur. Ma'r llunie'n wych - dwi'n hoff iawn o hen gardie post, yn enwedig rhai diflas. Yr un math o lunie i nhw a sydd yn y llyfre Boring Postcards a olygwyd gan y ffotograffydd Martin Parr. Mi oedd Parr yn bach o arwr i mi pan o ni'n dechre mas fel ffotograffydd, ond wedi i gyfarfod e cwpwl o weithie a chal trafod i waith ffotograffiaeth e ma fe'n llai o Dduw ffotograffig bellach. Ma'n werth cal pip ar i wefan e - ddechreuodd e fel ffotograffydd yn Butlin's yn i arddege a ma fe bellach yn agos at y ffotograffydd mwya cyfoethog ym Mhrydain. Fe guradodd e arddangosfa o gardie post o Butlins 'fyd gan y ffotograffydd John Hinde, sy'n werth i gweld.

Gol: Clicwch ar links y boi ar i flog - Old Haunts a Santa & Me, hen lunie o 'Dolig a Nos Galan Gaeaf - dwi'n ffan mawr o ffotograffiaeth bersonol, y syniad o'r snapshot ac o 'found photographs', ma gen i gasgliad reit fawr fy hun o lunie dwi di prynu mewn siope ail law. Pan fydd cartref solid gen i, yn hytrach na'r garafan dwi'n siwr o ddechre gwefan i bostio llunie felly.

01/09/2005

Dwi'n wir 'white trash' nawr.



Neithiwr fues i mas yn saethu, dwi'm yn rhy hoff o ynne o gwbl, ma nhw mor beryglus. Ma dryll .22 da fi, anrheg 'Dolig yn bymtheg mlwydd oed ond dyw hwnna ddim yn yr un cae a shotgun. Mi oedd cymydog di bod ar spending spree bach wsnos hyn, mi oedd e di prynu dau ddryll - Beretta twelve bore newydd(gweler y llun) a hen wn double barrel four-ten. Er y mod i'm yn hoff o saethu fues i allan am awr fach yn saethu dau llond bocs o getrys at hen dins paent, bwcedi a hen ddrws. Ma'n rhaid dweud y mod i'n teimlo'n rêl hic nawr, mi oedd y nghymydog hyd yn oed di bod allan yn saethu wiwerod yr un dydd. Bob diwrnod, dwi'n cymryd cam yn nes at fod yn rhan o fywyd run fath a'r ffilm Deliverance. Ma tymor saethu hwyaid yn dechre mis hyn...

31/08/2005

Pan dwi'n tyfu fynny, dwi isio bod...



McRorie

Pan dwi'n tyfu fynny, dwi isio bod mor cŵl a'r dyn yma. Dos fawr ddim o'i hanes e ar y wefan - ond ma na ddigon o ffilmie bychan difyr a thudalen o mp3's o'i ganeuon gwreiddiol e (dwi'n gwrando ar Cowboys Take Drugs Too ar hyn o bryd). Rhyw fath o 'one man band' i'r mileniwm newydd - keyboard, drum sensors ar i chest e, rhywbeth tebyg ar i arddyne fe a rhyw beiriant air-guitaraidd 'fyd. O am fod mor rock and roll a McRorie.

26/08/2005

MOBA



Dreulies i flynyddoedd yn astudio celf a dwi'n reit wael yn tynnu llun i ddweud y gwir. Gwneud Celf er mwyn cael gwneud ffotograffiaeth wnes i fwya a gan i fod e'n cael i gyfri fel bach o bwnc hawdd. Newydd ddod ar draws gwefan MOBA - Museum of Bad Art. Gobeithio y byddai byth cynddrwg a rhain, be ffwc ma pobol yn wneud yn gwastraffu i hamser a'i harian yn cynhyrchu'r hyllderau 'ma!

MOBA

25/08/2005

Tegan bach newydd - Google Earth

Google Earth



Falle fod hwn yn hen beth ond heddi wnes i lawrlwytho Google Earth i'w ddefnyddio i'r gwaith - teclyn bach gret i gael llunie o'r awyr o leoliade. Ond mi ffindes i'n hun yn trial gweithio allan lle'r oedd y fferm ar y llun. Ma siape'r caeau yn edrych gymaint gwahanol o'r awyr nag i nhw pan ych chi ar y ddaear. Ta beth, os wnewch chi hanner cau un llygad, sgwinto a edrych tua chanol y llun mi ddysle chi gal cip o fi'n bolaheulo ti fas i'r garafan.

18/08/2005

Cymydog da ydyw clawdd.



Wedi prynu Martha, Jac a Sianco o'r diwedd. Lwyddes i ddarllen e dros y penwythnos a mi oedd e'n ddifyr iawn. Iaith raenus dafodiaethol, disgrifiade gwych o fywyd fferm Gorllewin Cymru a stori syml oedd yn apelio. Do ni'm yn gwbod dim am yr awdures, ma na beth gwybodaeth ar wefan BBC Cymru'r Byd, beth nath ddal fy sylw fwyaf oedd i hoff ddywediad/dihareb - Cymydog da ydyw clawdd. Gwych, heb i glywed o'r blaen ond ma fe mor wir, mi fydd yn rhaid i fi gofio hwnna.

Ar nodyn arall mi oedd na gân da fi'n styc yn y mhen drwy'r wsnos ma(heblaw am un newydd KT(ynte Katie?) Tunstall), Hope There's Someone gan Antony & The Johnsons, edit mp3 ar gael yma.

17/08/2005

Madonna a'i ffowls.



Dwi'm cweit yn siwr pam ond mi o ni'n hollol fascinated pan weles i'r llun ma yn y Western Mail heddi. Es i bant i chwilio o ble oedd e'n dod - mi wnath Madonna gyfres o lunie i US Vogue, a ma nhw i gyd bach yn gyfoglyd. Hwn yw'n hoff lun i o'r gyfres, dwi'm cweit yn siwr pam. Ma fe i gyd bach yn od i ddweud y lleia, mi oedd Madonna yn gyment o bersonoliaeth am gy-hyd, canu gwael, actio gwael, porno gwael a nawr Lady of the Manor? Dwi'n gwbod bod e'n ddim byd newydd iddi ond ma'r gyfres ma o lunie mor afreal, y faux good life mewn tŷ hiwj, popeth mor berffaith a wholesome. Dwi jyst isio rhoi wad i'r teulu cyfan am fod mor smyg.

Ac i chi ffermwyr mas na, ma sens yn dweud bo chi ddim yn gwisgo gwyn pan chi'n ffarmo.

o.n. ta pwy wnath adeiladu i thŷ hi ma'n amlwg bod dim lefel i gal da fe, £9m am hwna, mi oedd hi'n cond.

12/08/2005

Milltir Sgwar

Ges i bip bore 'ma ar Maes-e ar 'pump am y penwythnos', ma cwestiwn rhif 5 islaw. Wnes i wneud gwgl bach o'r ardal dwi nawr yn byw ynddo i gael gweld beth yn union sydd o fewn fy milltir sgwar i. Co be ges i fel atebion. (Ma fe'n eithriadol o ddiddorol i fi ond ma'n siwr yn ddiflastod llwyr i bawb arall).

5. Disgrifiwch eich hanner milltir sgwar ar y funud (sdim rhaid i chi roi enw lle)?


Bwthyn Pontnewydd

Ein cymydog agosa(ar ein hochor ni o'r heol), ma golygfa o'r bwthyn bach yma da ni o'n beudy drwy Weun Fach(enw'r cae). Boi lleol sydd bia'r bwthyn a'n ei renti fe mas i ymwelwyr - i ddweud y gwir ma fe'n gweithio mas yn dda i fi. Ma na deulu o ymwelwyr newydd bron i bob wsnos yn galw i brynu wyau ac i borri dros yr arlwy o blanhigion sydd gen i ar werth.

Fferm Glyn Fach

Fferm gyfagos sydd bellach yn cynnig gwely a brecwast. Ma rhyw chwe polytunnel mawr da nhw, rhyw 'farm co-operative' o nhw i ddechre ond bellach pâr canol oed sy'n rhedeg y lle - ma Rick Stein yn galw ma i brynu llysie pan ar i dravels i nôl pysgod o Borth Tywyn.

Clwb Golff Abaty'r Glyn

Ma'n fferm ni'n rhan o hen stad y Glyn, mi oedd na Abaty ar un adeg(sydd bellach yn adfael) ond ma'r hen dŷ yn dal yn sefyll a ma na 'country folk co-operative' o bobol yn byw yn y plas, coachhouse, bythynod ac ati. Ma nhw di bod yna ers y '70 au a ma nhw'n bobol ffein. Partion Mai a Flwyddyn Newydd chwedlonol. Ma cwrs gollf sydd ochor draw'r dyffryn(wedi i adeiladu ar hen waith glo) wedi cymryd yr enw. Clwb Golff Pontnewydd oedd e i ddechre ond ma fe fel tase fe'n ffynnu wedi iddo fe newid i enw. Ma'n rhaid dweud er mod i heb rhyw ormod o ddiddordeb yn y golff i hun fod y lle'n baradwys i natur. Ma lli o bili palas prin a 'dragonflies' yno, a digon o wair hir yn gartref i nadredd a chwnigod.

John Bilsbrough

Methu ffeindio unrhyw wybodaeth am stad y Glyn i hun ond co chi un o'r trigolion. Er taw mewnfudwyr yw'r mwyafrif sy'n byw yn y Glyn ma na nifer 'di dysgu Cymraeg a ma nhw oll yn cyfrannu'n enfawr i'r gymuned leol. Ma John yn ymddiddoru yn yr hanes lleol, a ma ganddo gwpwl o lyfrynne bach yn olrhain hanes yr ardal - piti garw i bo nhw ddim ar gael ar y we. Yn ôl yr hanes yng nghoed y Glyn (sy'n rhedeg o'r plas i lawr at y fferm da ni) y bu i nhw golli'r Twrch Trwyth yn straeon y Mabinogi. Ac ar ben mynydd Pembrey gyferbyn yn ôl y chwedl ma'r fynedfa i Annwn. Diolch hefyd i'r ffaith y bu mynachod yn byw yn y Glyn fod gen i berllan o goed afalau seidr.

Llwybr Treftadaeth Mwyngloddio Pontiets

Yn rhedeg ar hyd ffin y fferm ar un ochor ma'r afon Gwendraeth Fawr ac yn rhedeg da'r afon ma llwybr treftadaeth Pontiets sy'n rhedeg o bentre Pontiets rhyw ddwy filltir i ffwrdd i lawr at Bont yr Ysbryd Gwyn ger Cydweli. Lle hyfryd i gerdded ond anaml iawn dwi'n cael amser i wneud - y tro diwetha fues i oedd yn ystod gwylie'r 'Dolig. Fuodd y nghariad a'i chwaer yn cerdded yno penwythnos diwetha ond mi oedd na lwyth o waith yn galw 'da fi.

Penllwynteg

Co chi gartre fy Mamgu a Tadcu, fuodd ein teulu ni'n byw ma (fel tenantied) am ganrifoedd, ma'r hen fwthyn gwreiddiol un stafell yn adfael yn y coed gerllaw hefyd. Bellach ma'r lle'n gwbl wahanol i beth dwi'n i gofio fe, ma gran dda ar yr adeiladau a theulu hyfryd yn byw yno. Ond ma hi'n drist mynd yno gan gofio yr holl atgofion melys.

Ma'n siwr eich bod chi di diflasu'n gyfan gwbl erbyn hyn, flin da fi.

Ypdet.


Ein cegin ni.


Ffenestri'r ystafell wely sbar, yr ystafell ymolchi a'r brif ystafell wely.


Wal allanol y gegin.

Ma gwaith ar y beudy yn mynd yn i flaen, cwpwl mwy o groncrete blocks nag o ni di disgwyl yn ambell fan (gwelir un o'r llunie) ond ma na ddigon o walydd cerrig ar ôl i gadw'r cymeriad. Yr adeiladwr ar i wylie wsnos ma (co'r ail wylie dramor eleni - hmmm dwi'n talu gormod ma'n siwr) ond ma'n cartre newydd yn siapio. Y ffenestri i gyd fewn bellach a'r dryse ar i ffordd. Y tô newydd di gynllunio ac i fod yma ymhen 3 wsnos!!! Amser prysur o beintio ffenestri, fframie'r dryse a ballu wedi dechre, llwythi o 'quarry tiles' i'w glanhau (rhai Cymreig ail-law), llechi Cymreig i'w torri i wneud sills ffenest tu fewn a chant a mil o jobsys bach arall. Ar y cyfan dwi'n eithriadol o hapus da'n cartref newydd, tase fi'n ennill y loteri mi fuase'r jobyn bach yn wahanol - adeiladu a cherrig i gyd, mortar calch, ffenestri derw (er taw ffenestri pren caled sydd da ni ma'n siwr taw o ben draw'r byd ma'r pren yn dod ohono), llechen Gymraeg ar y tô (dwi di ordro rhai Tseiniaidd rhag fy nghywilydd - 82c yr un yn hytrach na £4 am rhai Cymraeg o'r un safon), tô derw yn hytrach na pine a.y.y.b. ma'r rhestr yn hirfaeth. Ar ddiwedd y dydd tŷ i fyw ynddo fe fydd y beudy, ein cartre ni a nid 'showhome' am y deunyddie gore sydd ar gael. Edrych ymlaen yn fawr i gael symud i fewn(ry ni'n gobeithio cyn Nadolig ond da dim ond dau yn gweithio ar yr adeilad yn rhan amser dwi'm yn gweld hynny'n digwydd), wedi dechre meddwl yn barod am yr 'interiors' ond dwi'n siwr erbyn i ni dalu am lorie a pheintio fydd dim arian ar ôl da ni i brynu unrhyw gelfi. Gobeithio bod digon ar ôl i brynu bath, na beth dwi di golli fwya, wedi diwrnod caled o waith does dim gwell i esmwytho'r cyhyre. Pan ddeith y tô mi wnai bostio mwy o lunie, www dwi'n ecseited jyst yn meddwl amdano fe!

10/08/2005

Danteithion o'r ardd



Yn dilyn
postiad Rhys Wynne
am i domatos dwi'n meddwl i bod hi'n amser i fi bostio rhyw bwt bach am ddanteithion yr ardd. Er fod gwaith yn brysur, yr adeiladu ar y beudy yn dod yn i flaen mi dwi di cael rhyw awr fach rydd fan hyn a fan draw i dendio'r ardd. Co ni fasged o gynhyrch a biges un nosweth wsnos diwetha. Ma'n deiet ni di gwella dros yr haf gyda'r holl lysie ffres a ry ni di bod yn lwcus iawn yn cael pysgod o Fae Caerfyrddin a ma na ambell i ffesant a chwningen a ddales yn y gaeaf di dod o'r rhewgell i greu pryde cartref cyfan gwbl. Dwi'n byw mewn gobeth y byddwn ni un dydd yn hunan gynhaliol, neithiwr mi ddarllenes i erthygl ddiddorol iawn yng nghylchgrawn Country Smallholding gan bar a fuodd yn denantiaid ar Ynys Enlli ers 1994. Yn anffodus dyw'r erthygl ddim ar gael ar i gwefan.

25/07/2005

NO TV



Ddoe fe wnath mellten fwrw ein hannwyl gartref (wel yr aerial teledu) a dwi nawr bron i bedair awr ar hugain yn ddiweddarach yn dal i alaru colli ein teledu. Ma'n teledu a'n bocs digidol ni'n hollol ffaliwch. Ma fe'n fy atgoffa i o'r ffilm Beavis & Butthead Do America (I am the great Cornholio. I need T.P. for my bunghole.), y stori o be dwi'n gofio yw bod i set deledu nhw'n cael i ddwyn ar ddechre'r ffilm, ac yna... dwi'n cofio bod llond bys o bensiynwyr... hoover dam... oh bygyr ma blynyddoedd ers i fi weld e. Ta beth ma'r teledu 'di mynd ffwt a dim byd i chwarae radio/cd's/dvd's bellach (odyn ma nhw i gyd yn dod drwy'r chwaraewr dvd, digi box neu deledu). Dwi a'r wedjen di penderfynnu mynd heb deledu nawr, ond am faint y galla i bara? Di dechre darllen mwy yn barod ond ma'r garafan yn eithriadol o dawel heb gerddoriaeth neu sŵn cefndirol. Help...

15/07/2005

Blogshares



Blogshares

Be ffwc di hwn? Newydd fod yn edrych ar pwy sy di bod i ymweld â'r hen flog 'ma wsnos hyn. (Mi wnaeth un person fy ffeindio drwy deipio 'edrych am gariad caerfyddin' i fewn i gwgl - fi di canlyniad rhif 8 yn ôl gwgl!!!). Ymysg popeth mi oedd na linc hefyd i blogshares, erioed di clywed am hwn ond yn ôl y wefan ma bob 'share' yn fy ngwefan yn 5.06 Blog Dollar!

14/07/2005

Y Rhifau Hud



Dwi'n siwr bod pawb yn mynd drwy 'phases' o wrando ar albwms gwahanol yn non-stop, wel ers i nghariad brynu'r Rhifau Hud(The Magic Numbers) i mi ma fe di bod yn chwarae ar y chwaraewr CD yn y gwaith/car/caravan yn ddi-stop. Rhyw gymysgedd jangly o gerddoriaeth hapus retro-chwedegau (croesiad hapus o Belle & Sebastian, riffs Razorlight a twtsh o folk/country). Mi oedd i sengl diwethaf nhw Forever Lost yn hyfryd ond ma'r gân gynta ar yr albwm, Mornings Eleven yn hyfrytach.

13/07/2005

[Peidiwch] Drink Coca Cola



Ma ffotograffydd o India yn gwynebu achos llys wedi iddo arddangos un o'i lunie sy'n codi ymwybyddiaeth o brinder dŵr yn yr ardal lle ma ffatri Coca Cola yn Chennai, India. Ma'r byd ma'n crackers, na'i gyd y galla i ddweud. Ma gwefan y ffotograffydd, Sharad Haskar yn werth i'w weld, ma'r llun Coke yn rhan o gyfres, ma'r un Nike a'r un Colgate yn wych.

Ers blynyddoedd dwi di bod yn gaeth i Coke, ma nanedd i a mola i di i heffeithio'n arw ond rhyw ddeufis yn ôl mi gwples i yfed diodydd 'fizzy' yn gyfan gwbwl (heblaw am lemonade yn ambell shandy). I ddweud y gwir dwi'm yn i colli rhyw lawer a di dechre cael mwy o flas ar ffrwythe yn enwedig ers i mi gwpla'i hyfed nhw.

Stori Yma

Gwefan Sharad Haskar

Trydan Gwyrdd

Newydd ddarllen blog bach da ar Adventures in Ethical Consumerism ynglyn â thrydan gwyrdd. Ma newid eich cyflenwad i Ecotricity yn rhoi'r cyfle i chi gefnogi egni gwyrdd am yr un pris a thrydan gan eich cyflenwr rhanbarthol. Unweth y bydd y trydan mewn yn y tŷ newydd dwi'n siwr o roi tro ar rhain.

Ecotricity

Feed Lindsay



Dwi'n gwbod fod Lindsay Lohan bach yn ifanc i fi ond mi o ni'n meddwl i bod hi'n reit boeth, tan i fi weld y wefan yma... Feed Lindsay. Beth sydd di digwydd i'r gochen fach hyn, bwydwch hi myn diain i.

Ma na wefan fach arall 'fyd gan yr un bobol, ymgais i ryddhai Katie Holmes o grafangai Tom Cruise Free Katie.

Not that I'm racist

Wedi ngwylltio bore 'ma. Fues i i siopa yn PC World yng Nghaerfyrddin, mi o ni yna cyn i'r siôp agor a phenderfynnu mynd am frechdan gig moch yn y fan yn y maes parcio. Na'i gyd ges i oedd rant gan y perchenog ynglyn â Mwslemiaid a phobol groenddu(mi oedd e'n darllen y Sun pan gyrhaeddes i, nuff said), 'send the buggers back 'ome, that's what I'd do, not that I'm racist mind you', Eh? What ddy ffyc? Dwi'n deall bod na atgasedd tuag at y rheini nath fomio Llundain ond does dim isie dweud fod pawb sy'n Fwslim neu o dras arbennig am wneud yr un peth, calliwch bobol. (Mi oedd y frechdan yn ffein gyda llaw).

Blogydy blog

Er mod i di bod yn dawel dros y mis diwetha dwi di cael cyfle i ail-gydio mewn ambell lyfyr a dechre un neu ddau o rai eraill. Dwi'm yn gweld fi'n blogio amdanyn nhw oll felly man a man y mod i'n i rhestri nhw ta beth.



The Pedant in The Kitchen - Julian Barnes



The Valley - Barry Pilton



Johnny Cash: He Walked the Line - 1932-2003 - Garth Campbell

29/06/2005

Tom Baker - The Boy Who Kicked Pigs



Yep, Tom Baker y Dr Who gore sy dy bod yw awdur y llyfr. Un arall o'r llyfre dwi di brynu o MVC Caerfyrddin yn ddiweddar (ma fe'n wych bo chi'n gallu cael copi newydd o 1984, Catch 22, Lolita neu Animal Farm am £3, mwy o lyfre da plis Mistar MVC). O ran y llyfyr, eithriadol o dywyll, tebyg iawn i lyfyr Tim Burton, The Melancholy Death of Oyster Boy. Stori fer yw hi am Robert Caligari sy'n grwtyn 13eg sy'n casau pobol. Ma hanner cynta'r llyfyr yn sôn am i antics yn cicio moch o bob math, o facwn at gadw-migei(sillafu?) ei chwaer Nerys. Ma'r ail hanner yn troi'n lot mwy tywyll, ma dychymyg Tom Baker yn amlwg yn ddu fel y fagddu. Jyst er mwyn dweud ma Robert yn marw yn y diwedd, ond dyw hynny ddim yn *spoiler* gan fod Baker yn dweud hyn wrthoch chi ar dudalen gynta'r llyfyr. Llunie/illustrations hyfryd gan David Roberts, werth y £3 yn rhwydd.

27/06/2005

Crug, Chelsea a Mwy o Blanhigion.

Dwi'n fyw, odw ond dwi di bod yn alltud o'r blog ers peth amser. Wsnos o wylie, tywydd da a gormod o waith yn fy nghadw i ffwrdd o'r hen gyfrifiadur. Ond wedi penwythnos bach hyfryd yn y Gogledd mi odd yn rhaid i mi bostio rhywbeth. Pinagl y penwythnos oedd ymweld a Fferm Blanhigion Crug ger Caernarfon, falle'ch bod chi'n gyfarwydd â'r perchnogion - Hydref diwethaf fuon nhw'n destyn rhaglen ddogfen 'Helwyr Planhigion' ar S4C. Pâr hyfryd sy'n crwydro pedwar ban byd yn hel planhigion a hade. Nhw hefyd fuodd yn darparu planhigion i Diarmuid Gavin y llynedd i'w ardd yn Chelsea. Er i fod e rai wsnose nôl mi ddylse fi roi pwt am Sioe Flodau Chelsea, fues i'n lwcus i gael tocyn am ddim. Dwi'm erioed di bod a do ni'm yn meddwl y byse fi'n rhyw hoff o'r lle ond ges i fy siomi ar yr ochr ore. Uchafbwynt y dydd i mi oedd gweld Kim Wilde (trist iawn, dwi'n gwbod, ond pan o ni'n ifanc mi o ni'n arfer meddwl i bod hi'n reit ffit).



Meddwl hefyd y dylse fi gynnwys llun o stondin un o'r Cymry oedd yno (Medwyn of Anglesey(enw barddol? piti i fod e'n uniaith Saesneg)). Mi brynes i gatalog 'fyd ganddo fe a ma hi'n ymddangos fod yna jigsaw ar gael o lun a dynwyd o un o'i 'displays' e yn y gorffennol, ond dwi'n methu ffeindio linc ar t'internet.

01/06/2005

Dim post

Heb bostio ers oes pys - a dim lot a amser gen i ar hyn o bryd i sgwennu rhyw lawer. Di bod yn eithriadol o brysur yr wsnose diwetha. Wedi ymweld â Sioe Flode Chelsea, Sioe Tyddyn a Gardd Cymru yn Llanelwedd a di bod yn 'entertainio' yn y garafan nawr fod y tywydd poeth wedi dod. Wedi bod i ddwy neu dair sioe gelf dda yn yr wsnose diwetha yn enwedig ail ymnweliad da Zen Gardener gan Peter Finnemore yn Oriel Glyn Vivian, Abertawe. Edrych ymlaen i ymweld â sioeiau Celf graddedigion unweth yn rhagor - cyfle i gal bargen (dwi'n dal yn dyfaru peidio prynu un o lunie Beth Marsden llynedd yng Nghaerfyrddin - ma nhw's codi mewn pris yn reit gyflym erbyn hyn). Hwyl am y tro, bant i Lunden fory am dridie.

16/05/2005

Tim Burton's: The Melancholy Death of Oyster Boy



Brynes i gopi bach o'r llyfyr difyr yma rhai misoedd nôl yn MVC yng Nghaerfyrddin. Newydd gwglio'r teitl a di ffeindio gwefan fach sydd yn dangos holl benillion a storie ma Burton di sgwennu a'r llunie bach tywyll sy'n myn 'da nhw. Ma'r stwff yn eithriadol o dywyll debyg i'r stwff Edward Gorey wnes i bostion rhai misoedd nôl. Mwynhewch.

Y Ffliwt Hud



Nos Sadwrn fues i a'r missus lawr i'r Bae yn ein posh-ffrocs i agoriad Y Ffliwt Hud gan Mozart wedi i berfformio gan Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru. I fod yn hollol onest mi oedd y perfformiad yn reit fflat a bach yn ddiflas - y cynllunio yn rhyw groesiad rhwng paentiade Magritte a'r ffilm A Clockwork Orange y canu ar adege yn wael (yn enwedig aria Queen of the Night) a i ddweud y gwir do ni'm yn rhy impressed da Chanolfan y Mileniwm i hunan. Dwi di bod yna ar gwpwl o adege i'r theatr fach, weles i Paul Robeson Knew My Father oedd yn hollol hollol wych, a cwpwl o gomedis ond ddydd Sadwrn oedd y tro cynta i mi fod i'r auditorium fawr. Mi o ni ar y tier top (cheap seats wrth gwrs), a mi o ni filltiroedd uwchlaw'r llwyfan a'r bobol bwysigs islaw. Mi oedd y lle'n weddol dwym, y perffomiad yn hir a finne'n gysglyd. Mi o ni'n reit ddiolchgar pan ddaeth yr egwyl, ond dyma fwy o siom, cal llond ceg o Saesneg gan bob aelod o staff ar y bar yn enwedig rhyw bwrsyn mewn siwt(supervisor siwr o fod) oedd yn treual gwerthu i Pinot drud i mi yn i acen home counties gore a finne ond isie peint. Aaaaagggghhhh! Ai dyma be yw tynged Caerdydd fel un o Brifddinasoedd Ewrop? Ble mae'r Gymraeg? (Does dim hyd yn oed galwad - Boneddigion a Boniddigesau mi fydd y perfformaid yn dechre ymhen .... - jyst rhyw byzzyr swnllyd yn ych galw nôl i'ch sedd). Diwedd rant.

03/05/2005

Golosg neu Ludw?



Pan o ni'n arfer gweithio mewn tafarn mi o ni'n casau penwythnose gwŷl y banc. Llond tafarn a gardd gwrw o chafs yn yfed gormod, gloddesta ac yn gadael i'w chafs a'i chafets bach i redeg reiat. Ymlacio yw pwrpas y penwythnos ond dodd dim ymlacio i fod y penwythnos 'ma. Gwaith plymio, aredig, garddio, paentio... (ma'r rhestr yn faith). Ond bnawn Sul am gwpwl o orie mi fues i a chymydog yn adeiladu llosgwr golosg (gweler yr instrycsions). Dodd y deunydd crai oedd da ni ddim yn rhy dda - dwy gasgen da tylle enfawr ynddyn nhw (a ma isie casgen sy'n aer-dynn) felly wedi peth stryffaglo, greindio a wado mi oedd llosgwr weddol dda gyda cwpwl o dylle bach 'da ni. Awr fach yn torri boncyffion da'r fwyell a co ni'n dechre ar y llosgi, mi oedd y tân tamed bach yn rhy ffyrnig ond wedi peth amser mi lwyddon ni i gau'r gasgen a llanw unrhyw dwlle i fyny gyda chlai o'r pridd. Dyna'i gyd oedd i'w wneud oedd i adael y gasgen i losgi'n dawel. Neithiwr wedi pedair awr ar hugain es i gael pip ar y gampwaith, mi odd y clawr wedi dymchwel i mewn i'r gasgen a'r pren wedi llosgi'n ilw. Bygyr, mi fydd yn rhaid trio 'to.

29/04/2005

£34m i $4C

Erthygl icWales

Ma'n ymddangos fod S4C wedi gwerthu i rhan hwy o'r cwmni SDN, y nhw yn ôl be dwi'n ddeall yw'r cwmni sy'n rheoli/gweithredu teledu digidol (os dwi'n anghywir plis gadewch sylw). Ma'r arian (£34miliwn) ar gael nawr i S4C wneud fel a fynno, yn wahanol i'r arian ma nhw'n dderbyn yn flynyddol gan y llywodraeth (rhyw £85miliwn) sy'n gorfod cael i ddefnyddio i dalu am raglenni a ballu. Felly beth ma S4C am wneud da'r arian? Wel ma un peth yn siwr gan i bod nhw di gwerthu i siar yn SDN mi fydd yn rhaid iddyn nhw dalu SDN o hyn ymlaen er mwyn parhau i gael gwasanaeth digidol. Ma hi'n gyfnod reit ecseiting mewn ffordd, dos neb yn rhyw siwr be di dyfodol S4C, ond nawr ma na gyllid ganddyn nhw i wneud gwahaniaeth i'w dyfodol - budsoddi mewn cynhyrchu rhaglenni arloesol o safon, ffilmie/sinema deallus a pharhau gyda'i ymroddiad tuag at animeiddio. Ond ai budsoddi neu gadw'r arian (neu gwario'r arian i gyd ar gyfres arall o Procar Pinc) y gwna nhw, mond aros y gallwn ni wneud.

28/04/2005

Gwen ac Augustus



Arddangosfa Gwen ag Augustus John, Caerdydd
Arddangosfa Gwen ag Augustus, Tate Prydain

Ddydd Sul fe ges i ddiwrnod eithriadol o bleserus yng Nghaerdydd. Treulio'r bore yn y sioe flode ger y Castell(dos dim byd yn bod ar bobol yn i hugeinie yn mynd i sioe flode, wir yr). Cinio gwych, unweth yn rhagor yn y Tenkaichi Noodle Bar ar City Rd(be di'r enw Cymraeg bobols?) ac yna i weld arddangosfa Gwen ag Augustus John yn yr Amgueddfa. Mi odd hi'n werth i'w gweld, dwi di hen arfer ar beintiade Augustus ond mi oedd e'n grêt cael gweld casgliad mor eang o beintiadau'r ddau artist gyda'i gilydd. Os ych chi yng Nghaerdydd da hanner awr i'w spario cerwch i'w gweld. Ma na wahaniaeth enfawr yng ngwaith y ddau - mi oedd Augutus yn rêl boi, yn byw gyda dwy fenyw yn gloddesta ac yn yfed a ma hyn fel petai yn amlwg yn y paentiade. Ma cyferbyniad llwyr yng ngwaith Gwen, yn lot fwy tawel, syml, ma lliw a ffurf yn fwy pwysig na manylder a ma gweld i phaentiade o'r lleianod yn agoriad llygad - sawl paentiad tebyg i'w gilydd. Diddorol hefyd i ddysgu fod Gwen di bod yn ysbrydolaeth, yn fodel ac yn gariad i'r cerflunydd Auguste Rodin. Ma na arddangosfa arall lan stâr 'fyd o gasgliad Galleri Gendelaethol yr Alban, peintiade gan Degas, Van Gogh, Monet a Gaugin. Fe'i casglwyd oll gan un casglwr a'i rhoi fel rhodd i'r Galeri yng nghanol yr 20fed Ganrif, tebyg iawn i beth wnath y Chwiorydd Davies yng Nghymru (ma rhan o'i casgliad hwy i fyny yng Nghaeredin). Dwi di gweld y paentiade unwaith o'r blaen yng Nghaeredin ond mi oedd e'n bleser cal gweld paentiad Gaugin unweth yn rhagor. Cerwch da chi!

The Unsung Heroes of American Industry - Mark Poirier



Ddarllenes i'r llyfyr bach hyn wsnos diwetha, mi oedd e'n eithriadol o rwydd iw ddarllen a i fod yn onest dwi'm yn cofio rhyw lawer ohono fe. Casgliad bach difyr o storie byrion yw'r llyfyr, oll yn delio gyda rhyw rhan o ddiwydiant Americanaidd - ffermio mwydod, cynhyrchu botyme, pasiantri(pageantry) a blingo crocodeilod. Dy nhw'm y diwydianne mwya amlwg! Storie bach tywyll yw bob un, ma nhw'n delio da marwolaeth neu wallgofrwydd ond ma na lwyth o hiwmor tywyll yn perthyn iddyn nhw 'fyd. Dos dim lot mwy da fi ddweud i fod yn onest, dwi'n siwr o edrych am lyfre eraill yr awdur gan fod i steil e mor rhwydd a'r hiwmor mor dywyll, ond benthyg nhw o'r llyfrgell dwi'n meddwl wna i yn hytrach na'i prynu.

26/04/2005

Bandeang a'r lecsiwn

Erthygl ddiddorol iawn yn edrych ar faint o ddefnyddwyr bandeang sydd 'na yn y DU yn ôl eich hetholaeth. Diddorol i weld bod pob sedd sydd gan Blaid Cymru ar hyn o bryd yn y deg gwaelod. Ma hyn yn bwynt sylweddol, dwi'n byw mewn ardal wledig ac er fod yr exchange lleol yn 'broadband ready', gan y mod i'n byw gyment o bellter oddi wrtho fe dos dim modd i mi gael cysylltiad bandeang.

Diolch i LoopDiLoop am yr erthygl.

20/04/2005

Bonjour Tristesse - Francoise Sagan



I fod yn hollol onest mi o ni'n bored senseless yn darllen y llyfyr bach yma. Sgwenwyd y llyfyr yn ystod y pumdege gan Sagan, mi oedd hi'n 18 mlwydd oed a newydd ffaelu'i haroliade yn y Sorbonne. Mi dreuliodd hi ei haf gyda'i Thad ar y Riviera Frengig. A dyna yn fyr yw testun y llyfyr hefyd. Stori am ferch dwy ar bymtheg mlwydd oed, yn aros gyda'i Thad sy'n bach o foi gyda'r menywod a'i hanturiaethe yn ystod yr haf. Pan gyhoeddwyd y llyfyr mi oedd na bach o gyffyffl ynglŷn a natur rywiol y llyfyr, ond yn nherme heddi dyw e'm yn ddim byd. Fe brynes i fe wedi cwpla darllen Le Grand Meaulnes yn sgil rhyw bwt gan rhywun ar Amazon, dyna'r tro diwetha dwi'n gwrando ar bobol eraill.

19/04/2005

Naomi Harris



Naomi Harris

Dwi di bod yn darllen blog Saesneg Chris Cope yn ddiweddar, a ma'n rhaid i fi ddweud bod na li o stwff diddorol draw na. Rhyw wsnos a mwy yn ôl mi wnath e dynnu fy sylw at wefan Naomi Harris - ffotograffydd ifanc o'r Amerig sy'n tynnu llunie newyddiadurol traddodiadol. Ma nhw'n wych, cerwch am bip ond watsiwch os ych chi'n y gwaith peidiwch a chlicio ar y linc >Dirty Pictures.

14/04/2005

Lolita - Vladimir Nabokov



Newydd gwpla'r llyfyr 'ma. Ma fe di bod ar i hanner da fi ers oes pys a ma fe di profi'n galed i ddyfalbarhau gyda'r darllen, ond mi oedd e werth e yn y diwedd. Os nag ych chi di ddarllen e, anghofiwch am unrhyw 'pre-conceptions' sydd da chi ynglyn a'r llyfyr - odi ma'r stori yn ymdrin gyda pherthynas gyda merch 12 mlwydd oed, odi ma fe'n eithriadol o dywyll ond ma fe'n ddarn anhygoel o ysgrifennu. Ma na gyment o sôn am bedopheils(yn enwedig da Meical bach yn y cwrt ar hyn o bryd) ond ma gen i bictiwr meddyliol o be ma nhw'n edrych fel - cot law hir, bach yn dew, unig, salw ac yn sefyllian o amgylch ysgolion - nid co'r math o stori yw hi. Stori gariad yw hi yn y bôn, ond nid stori gariad draddodiadol - ma'r llyfyr yn estyn y ddiffiniad o stori gariad. Ma'r stori di sgwennu o safbwynt Humbert Humbert, darlithydd ail-radd sy'n rhentu ystafell yng nghartref Mrs Haze a'i merch Dolores. Ymhen wthnose ma'r fam yn gelain a'r ferch(y nymphet fel y disgrifir) wedi cael ei heriwgipio. Wnai'm dweud mwy, ma fe'n werth darllen y llyfyr i wybod y gweddill. Ma'r ffilm a wnaed yn 1997 yn werth i'w gweld 'fyd, er bod Melanie Griffith yn mynd ar fy nhits. Dwi'm di gweld fersiwn Kubrick felly gallai'm rhoi unrhyw gyngor ond o weld gweddill i ffilmie ma'n siwr i fod e'n reit dda.

11/04/2005

Le Grand Meaulnes - Alain-Fournier



Bob hyn a hyn ry chi'n dod o hyd i lyfr bach gwych ar hap, co'n union beth ddiwgyddodd i mi da'r llyfyr hyn. Mi odd e yn y llyfrgell ynghanol llwyth o lyfre Mills & Boon (dwi'm yn i darllen nhw, does dim syniad da fi pam o ni'n edrych ar y silff heblaw falle fod na bwer hudol yn fy neni i at y llyfyr? dwi'm hyd yn oed yn siwr beth oedd y llyfr yn gwneud yng nghanol llyfre Mills & Boon chwaith). Ffrainc, diwedd y 19eg yw lleoliad y llyfr ac arwr y stori yw Augustin Meaulnes. Hanes i fywyd rhwng llencyndod a'i ugeinie cynnar drwy lyged i ffrind Francois Seurel, mab yr ysgolfeistr yw'r stori. Ma fe'n llawn rhamant, cymysgwch o antur/stori gariad/a thrasiedi yw hi. Ma'r prif gymeriad yn cwympo mewn cariad gyda merch brydferth a ma mwyafrif o weddill y stori yn dilyn i drywydd e yn ffindo'r ferch 'ma 'to. Cerwch mas i'ch llyfrgell/amazon/siop lyfre leola mynwch gopi! 10 allan o 10.

01/04/2005

Graffiti



Newydd fod yn trawlio drwy'r llunie ar http://www.picturesofwalls.com, cerwch am bip ma na graffiti hyfryd yna. Ma fe'n atgoffa fi o erthygl ddiweddar ddarllenes i yng nghylchgrawn Fforwm Celf Abertawe ynglyn a cwpwl o artistied sydd yn y cwrt o fewn y Mis am 'ddifrodu' seddi yn Oystermouth/Mwmbwls pan wnaethon nhw roi placie bach bras ar y seddi yn deud pethe fel 'That seat is taken' ac 'In memory of Angharad who could never sit still'.

Erthygl ar y we, yma.

30/03/2005

Country Wisdom Almanac and Know-how: Everything You Need to Know to Live Off the Land



Fe lwyddes i fynd am drip bach cloi lan i Mach wsnos diwetha a chal treulio diwrnod da yn ymweld â'r Ganolfan Decholeg Amgen. Trip reit bleserus, y peth ddysges i fwyaf oedd i fynd wedi penwythnos y Pasg pan ma'r tren bach yn cludo pobl i fyny i'r safle yn hytrach na cherdded i fyny'r heol fach serth y gorfu i mi a Nhad wneud (wedi dau ddiwrnod o balu mi wnath y bryn bron a'm lladd i). Dysges i ddigon am sut i gynhyrchu compost da, sut i dorri lawr a'r wastraffu egni a cwpwl o dips ynglyn ag ail-gylchu ond siom oedd y ganolfan yn rhannol - mi oedd na li o wybodaeth ynglyn â thechnoleg wyrdd (solar, gwynt, dwr ac ati) ond doedd fawr iawn oedd yn berthnasol i fi fel rhywun oedd yn edrych am dips i'r cartre (h.y. ma isie agor ffynnon newydd arna i a mi fyse fe'n dda gallu defnyddio dull gwyrdd o gynhyrchu trydan/pwmpio'r dwr ond mi oedd y rhan fwyaf o'r wybodaeth ar raddfa oedd lot yn rhy fawr i fi). Ond, y peth gore ges i mas o'r diwrnod oedd llyfyr yn y siop(siop dda iawn i ddweud y gwir, yn enwedig o ran llyfre). Brynes i gopi o Country Wisdom Almanac and Know-how: Everything You Need to Know to Live Off the Land, cyhoeddiad gwreiddiol gan Lyfre Storey o daflenni gwybodaeth yn sôn am bopeth o flingo cwningen i sbaddu mochyn, o blannu gardd at goginio risotto pwmpen. Ma fe'n debyg iawn i'r beibl hunan gynhaliol gan John Seymour ond taw amalgam o erthygle Americanaidd i nhw yn hytrach na gwaith a gwybodaeth/profiad gan un awdur. Os oes twtsh o'r Good Life yn perthyn i'ch bywyd ma'r llyfyr yma'n hanfodol. Rhaid i fi fynd, dwi bant i bractisio sut i sbaddu mochyn.

29/03/2005

Ffans yn Unig - Belle and Sebastian



Ges i'm wy pasg eleni(dyw Cadbury's Creme Egg ddim yn cyfri) felly yn lle 'ny fe ges i rywbeth o ni wir eisie, DVD Belle and Sebastian, Fans Only. Rhyw rhaglen ddogfen/ffilm/hoitshpotsh o gyfweliade, fideo's a llunie o gyfnod Belle and Bebastian gyda chmwni recordie Jeepster. Mi odd hi'n werth i weld. Dwi'n hollol hwcd ar ganeuon B & S, a dwi di bod ers blynyddoedd, os nag ych chi'n gyfarwydd a nhw cerwch mas a phrynwch The Boy With the Arab Strap, Fold Your Hands Child, You Walk Like A Peasant neu Dear Catastrophe Waitress, wel i ddweud y gwir unrhywbeth ma nhw di gynhyrchu(ma'r EP's cynnar yn dda iawn 'fyd). Dwi erioed di cal y cyfle i fynd i'w gweld nhw'n chwarae'n fyw ond o wylio'r DVD, nhw di'r band mwya 'uncool' yn y byd o ran 'u gwedd(ma nhw'n edrych fel band Cristnogol), ond ma'r gerddoriaeth yn hyfryd, hyfryd, hyfryd. Do ni'm yn gwbod rhyw lawer am y band cyn gwylio'r DVD, er bod llwyth o'i cd's gen i, ac i fod yn hollol onest er mod i di mwynhau'r ffilmie, dodd dim lot o syniad gen i ynglyn a'i hanes nhw wedi gwylio'r DVD. Goffes i i 'googlio' nhw er mwyn cal gwybod mwy(linc ar y gwaelod), ma na rhyw 7 aelod(ma ambell un di gadael ag ambell un dy ymaelodi ers y '90'au cynnar), oll o Glasgow. Ma nhw oll yn eithriadol o dalentog, pob un yn chwarae sawl offeryn ac yn cynhyrchu miwsig melfedaidd. Well i fi stopio nawr, dwi di dweud digon. DVD i ffans yw hon i ddweud y gwir (Fans Only - does what it says on the tin) ond dwi'n dweud bod yn rhaid i BAWB gael oleua un CD B&S yn i cartre.

Gwefan Belle & Sebastian
Co bach o'i hanes nhw...

Dwi'n stiff.

Dwi nôl o ngwylie bach byr o waith caled a ma nwylo bach i'n llawn rhychie tywyll o bridd bellach. Dwi'n temimlo'n reit stiff wedi wsnos o balu ond ma na rhyw sbonc yn fy ngherddediad am y mod i di bod yn fachgen da yn gwneud gyment o waith caled. Tatws, moron, panas a radish bellach wedi plannu a borderi di agor yn barod i ddal mefus, mafon, cwsberis, pys, ffa, winwns a llwyth o ddanteithion eraill. Dwi di bod yn gloddesta ar ein 'rocket' ni drw'r wsnos a mi gaetho ni'n barbeciw cynta neithiwr, noson hyfryd yn gwrando ar y radio, yfed seidr a gwylio'r sêr, ma hi'n mynd i fod yn haf i'w gofio.

18/03/2005

Tamed i aros pryd.

Dwi ffwrdd ar y ngwylie tan wedi Pasg felly mi fydd y blog yn reit dawel am rhai wsnose. Dwi'm i ffwrdd yn unman egsotig, y pella dwi'n meddwl yr af i yw Machynlleth ar ymweliad â'r Ganolfan Dechnoleg Amgen. Ma gen i lwyth o waith i'w wneud - ffensio, aredig, codi ffram y polytunnel, plannu tatws a dechre ar blannu hade llysie. Ma'r ffa llydan(?) eisoes yn tyfu'n bert a'r panas di blannu, y tomatos yn nhy gwydr fy nhad gyda'r asparagus, riwbob a'r winwns. Mi fydd y rocket sydd yn y ffram oer yn barod i'w bigo wsnos yma, felly salad cartref cynta'r flwyddyn gyda dail dant y llew gwyllt ifanc o'r caeau i mi! Llwyth o lyfre gen i i ddarllen, felly gobeithio fydd na gyfle i sgwennu am gwpwl ohonyn nhw ar y blog. Gobeithio 'fyd cal gwylio cwpwl o ffilmie a chal llond col o syniade er mwyn sgwennu fy erthygl gyntaf i Pictiwrs.

14/03/2005

Travels With Charley In Search of America - John Steinbeck



Ma'r gwanwyn yma o'r diwedd, a dwi'n falch fod y dydd yn hirach a bod y tywydd yn gwella ond ma na un peth drwg, dwi'n darllen lot llai. Ma'r llyfyr yma di bod ar i hanner da fi ers amser, a rhag y nghywilydd i. Dwi'n hoff iawn o lyfre Steinbeck (y ffefryn 'di Cannery Row) ac os nag ych chi di darllen unrhyw un o'i lyfre fe ma fe'n werth prynu un mewn siop elusen neu fenthyg un o'r llyfrgell. Ges i nghyflwyno i Steinbeck fel lot o bobol eraill o'm nghenhedlaeth drwy TGAU Saesneg, mi oedd Of Mice and Men ar y rhestr ddarllen. Ar y pryd mi odd y llyfyr yn ddiflas tost, 30+ o blant mewn dosbarth ynghanol tywydd gwlyb/oer/poeth yn darllen, dyw e byth yn eich cyfareddu chi i wneud rhyw ddim. Ond flynyddoedd wedyn mi wnes i ail ddarllen y llyfyr a cal blas arno fe. Nawr te, o ran Travels With Charley, dwi di bod yn meddwl mynd am 'heol-daith' ar draws yr Amerig ers amser a dyna beth yw testun y llyfyr, ond ma fe'n fwy na hynny, bwriad Steinbeck oedd i ail-ddarganfod i wlad i hun wedi bod yn alltud yn Lloegr a Ffrainc am flynyddoedd. Felly yn 1960, gyda'i 'boodle' Ffrengig Charley yn gwmni co Steinbeck yn dechre ar y daith, ma hi'n syfrdanol sut ma'r llyfyr hyn bron i hanner canrif yn ddiweddarach yn dal i fod yn teimlo'n fodern iawn. Bwriad Steinbeck oedd i ddefnyddio'r heolydd bychain gan alw yn y caffi's bychain er mwyn siarad gyda'r werin bobol yn hytrach na ddefnyddio'r traffyrdd a'r siope/bwytai 'franchise' cyfarwydd. Ma fe'n trafod pob agwedd ar ddiwylliant America - hanes, diwylliant lleol, dirywiad cymdeithasol, dirywiad yn safon bwyd, dirywiad yn niddordeb gwleidyddol - popeth sydd dal yn berthnasol i ni fel Cymry a fel trigolion y byd. Ma'r llyfyr ar adegau yn gallu bod yn ffwndrus, ma na rant ynglyn a Texas tuag at ddiwedd y llyfr ond gan amlaf hanes onest i daith o amgylch i wlad i hun yw hi. Darllenwch hi.