25/10/2004

Tawelwch Llethol.

Heb flogio am wsnos a dos braidd dim gen i ddweud. Ers ein bod ni yn y garafan ma'r hen deli bocs di bod yn ddistaw er bod bocs digidol da ni'n gwmni bellach. Mi dapes i ffilm dros y penwythnos ond heb i gweld hi 'to felly mi fydd amser tan i fi flogio am Gummo. Dwi'n troi'n rel ffarmwr, fe fues yn y gerddi Botaneg dros wythnos yn ol i ddiwrnod afale, a fe ddwedodd y dyn bach neis wrtha i fod gen i afal seidr prin yn tyfu'n yr ardd. Dwi di bod yn brysur yn casglu afale drw'r wsnos a mi fydd y batsh cynta yn cal i wneud ddydd Sadwrn nesa. Pawb draw i'r garafan i yfed scrympi a seithi wiwerod!

18/10/2004

Blogio Llunie

Blantos bach peidiwch a phoeni, dwi'n fyw. Wedi wsnos brysur i ffwrdd o'r gwaith dwi bellach yn ol ym myd y gwifrau a'r linell ffon ac yn medru blogio unweth yn rhagor. Diolch i Rhys Wynne am y syniad o flogio llunie o'r gwaith adeiladu, dwi'n meddwl y mod i di gweithio mas fel i ychwanegu llun, fe gawn ni weld pan wasga i'r botwm postio. Wel co ni te...






10/10/2004

White Trash.

Dwi ffwrdd am wsnos, yn symud ty i ddweud y gwir, wel ddim cweit, dwi'n symud i garafan statig. Am ddechre y gwaith o ail adeiladu 'sgubor ymhen rhai wsnose felly ma wsnos gen i i dacluso'r hen dy dwi di bod ynddo am flwyddyn ac i wneud y garafan yn gartrefol glyd am y flwyddyn nesa. Dim gwe yn y cartre newydd gwaetha'r modd, wel ddim yn syth ta beth. Bydd yn rhaid i mi ddidanu fy hun da dwy dvd newydd La Haine a Goonies er dwi di cal e-bost i ddweud bod problem da'r dvd Goonies, rhaid i hanfon nol at Warner Bros i gal y disg iawn, bygyr, rhaid aros am rhai wsnose 'to cyn gwylio. Dim yn ffer! Galla i'm aros am biti fan hyn, ma wiwerod da fi saethu a ma'n rhaid i fi gysgu gyda'm chwaer ddwyweth heno, ma repiwtesiwn trailer trash da fi gadw fyny!

08/10/2004

Kitchen Confidential - Anthony Bourdain

Llyfyr gwych. Dwi'n itha un am y mwyd felly dodd e ddim yn gyment a ni o sioc y mod i di enjoio'r llyfyr hyn mas draw. Pan o ni'n blentyn tase rhywun di gofyn i fi beth fyse fi pan yn henach Chef neu Ffarmwr byse fi di dweud, maes o law nath y ddau ddewis newid i Bensaer neu Ffotograffydd a er y mod i di gwireddu un o'r breuddwydion ma hi'n anodd gadael fynd o'r breuddwydion eraill. Ffotogfraffyd ydw i jyst er mwyn i chi gal gwbod, a dwi di gwireddu y mreuddwydion Pensaerniol wrth gynllunio'r ysgubor dwi ar fin ei adnewyddu, ond er y mod i'n hen law ar fyta bwyd, megis dechre ma'n sgilie culinaria. Olrhain hanes Tony Bourdain ma'r llyfyr, i fywyd e fel Chef, o'r gegin gynta iddo fe weithio ynddo hyd at y presennol. Dwi'n gallu ymhaelaethu a beth ma fe'n i ysgrifennu'n eitha rhwydd, bwrlwm y gegin a'r diwylliant bar/bwyty. Dwi di gweithio mewn digon o dafarndai a di gorfod rhoi help llaw yn y gegin sawl gwaith ac yn deall yn iawn sut fyd yw byd y cogydd. Dwi'n gwbod taw gris isa'r byd coginio yw tafarn ond yr un yw'r awyrgylch yn y gegin. Ma na ddigon o dips bach da yn y llyfyr ynglyn a sut i goginio a beth i beidio ordro ar y fwydlen felly os ych chi'n berson sy'n bwyta bwyd, darllenwch y llyfyr, mi alle fe arbed diwrnod rhwng y gwely a'r ty bach i chi.

Ghostwatch(1992) - Dir. Lesley Manning

Fues i mas neithiwr fel rhan o wyl ffilmie myfyrwyr Cymru: Ffresh i weld Ghostwatch ym mhlasty Nant Eos ger Aberystwyth. Roedd y nosweth yn ffecin gwych, caethon ni'n tywys mewn bws o Brifysgol Abertawe ar hyd lon fach gul, gyda changhenau'r coed ar hyd y ffordd yn sgrechian ar hyd ochor y bys. Mi odd na niwl ar hyd y lon, a pan gyrhaeddon ni mi oedd y plasdy'n dywyll heblaw am dân yn y cyntedd a chanhwylle hyd y lle.
I'r rheini o chi sy'n rhy ifanc i gofio, rhaglen 'fyw' a ddangoswyd ar Noson Galan 1992 ar BBC 1 oedd Ghostwatch. Y cyflwynwyr oedd Michael Parkinson, Sarah Greene, Mike Smith a Craig Charles. Rhyw fath o 'War of the Worlds' spooky oedd e, plentyn o ni pan i darlledwyd e gynta a ma lled gof da fi o'r rhaglen, dwi'n cofio mynd i'r ysgol y dydd llun wedyn a PAWB yn siarad amdano fe.
Sesiwn Q & A oedd neithiwr gyda'r Gyfarwyddwraig Lesley Manning a'r Ysgrifennwr Stephen Volk, gaethon ni gyfle i weld rhai o'r clips 'fyd, fues i'n ddigon lwcus i gal benthyg copi o'r DVD rai misoedd nol. Ma'r raglen di dyddio erbyn hyn ond ma fe'n eithriadol o bwysig o ran hanes y raglen 'reality'. Ac yn amlwg dos dim modd cal yr un teimlad a oedd pan weles i'r rhaglen am y tro cyntaf erioed pan i fod e'n cal i ddarledu'n 'fyw'. Ma pwysigrwydd y raglen yn amlwg 'fyd gan fod y BFI di cynhyrhcu'r dvd ohono fe, a ma fe'n neis fyd i weld taw Cymry yw Lesley(o Ddinbych y Pysgod) a Stephen(o Bontypridd). Nosweth gret, top notch.

http://www.bfi.org.uk/videocat/more/ghostwatch/

04/10/2004

Rhwng y Nefoedd a Las Vegas - Elin Llwyd Morgan

Di cwpla'r llyfyr yn weddol gloi, cal i fenthyg e o'r llyfrgell nes i wedi i weld ar y silff 'Just Arrived'. Ma'n siwr y base fi heb i fenthyg e heblaw y mod i di darllen yr holl glod am y llyfyr ar Faes-e. Diflas yw'r clawr er i fod e'n gysylltiedig a'r stori, ond ma hynny'n mynd am y mwyafrif o lyfre Cymraeg (heblaw am Dyn yr Eiliad - Owen Martell). Ma nhw'n dweud 'don't judge a book by its cover' ond dyna dwi'n gwneud yn aml. Ma'r un peth yn wir am win, dewis y botel gyda'r label gore dwi'n wneud drw'r amser achos bach iawn o glem sydd da fi am 'i gynwys e. Nol at y llyfyr, mi oedd e'n rhwydd i'w ddarllen heb fod yn simplistig, stori a strwythur da. Ar y cyfan mi wnes i i fwynhau e, llyfyr i fenyw yn fwy na dyn, OND a ma hyn yn ond mawr doedd e ddim yn torri unrhwy dir newydd, do mi wnes i i fwynhau e ond tase'r llyfyr yn CD, mi fyse fe yn gompiwlasiwn easy listening, 'nough said.