30/11/2004

Blydi blog.

Dwi'm di blogio ers amser, nid diog ydw i ond prysur. Dwi'm di cal saib ers amser ond ma munud fach gloi da fi deipio cwpwl o sylwade nawr. Fues i i ddosbarth 'life drawing' yn Swansea Print Workshop rhyw wsnos a hanner nol, dwi'm di tynnu llun ers i mi fod yn y coleg celf nol yn '98 a hyd yn oed bryd hynny ffotograffiaeth, ffilm ag animeiddio oedd y prif waith o ni'n wneud. Mi odd hi'n chwa o awyr iach i gal cyfle i dynnu llun, dwi di sganio dau a dynnes i a mi wnai drio i postio nhw ar y blog unweth dwi di gweithio mas sut i wneud. Piti taw dyn oedd y model a nid menyw, ac am ryw reswm mi oedd e'n daer i gal siarad da fi yn ystod y coffi brec. (Gary oedd i enw fe gyda llaw, sengl, fuodd e'n studio yn yr Institute yn Abertawe, ma'n gwneud i fywoliaeth fel artist gwydr(ffenestri a ballu), ac oedd mi oedd i goc e'n reit fawr). Reit te ffilmie, dwi di bod i'r sinema cwpwl o weithie - cwpwl o ffilmie yn yr Wyl yng Nghaerdydd - A Way of Life, Revolution of Pigs(break dancing gwych) a Powerless ffilm fach low-budget a saethodd yn Sir Benfro dros flwyddyn nol(ma gen i gredit fel Location Consultant, woo hoo! mega-chuffed!!!) mi fydd e'n cal i ddangos yn Theatr Mwldan yn fuan 'fyd felly ewch yn lli. Goffes i hefyd iste drwy'r arteth o Bridget Jones 2, less said the better. Ar dvd, dwi di gweld LLWYTH o ffilmie co'r gore: The Piano Teacher, Owning Mahowny(Philip Seymour Hoffman yn un o'm hoff actorion), Station Agent(FAB FAB FAB FAB FAB - ar fy rhestr Dolig nawr) a Eternal Sunshine of The Spotless Mind(oakey doakey - ond ddim cystal a music vids Gondry). O ran llyfre, dwi di bod yn trawlio silffoedd y llyfrgell am lyfre coginio, ma da fi un gan Gordon Ramsey, Nigella(dwi'n big fan), Raymond Blanc a rhyw gompiwlasiwn gan Lloyd Grossman allan ar hyn o bryd a ma rhaid i fi ddweud er mod i ddim yn licio'r boi taw llyfyr Lloyd Grossman, 125 Best Recipies Ever yw'r gore(am deitl cachlyd 'fyd, fel y damn cd's yna The Best jazz/disco/acoustic/punk Album in The World Ever Vol 73!!!). Dwi hefyd ynghanol darllen bywgraffiad Elizabeth David Writing at the Kitchen Table sy'n eithriadol o ddiddorol a llyfr bach reit od Down The Garden Path sy'n olrhain hanes hen foi reit eccentric sy'n ail wneud gardd fach ynghanol y wlad. Reit bobol dwi'n brysur dwi nghanol edrych am bolytunnel, os oes gan unrhywun unrhyw tips peidiwch a bod yn siei, ymhen blwyddyn mi fydd 'online store' da fi'n gwerthu pethe egsotic fel tatws, moron a daffodils!

18/11/2004

Stealing Beauty(1996) - Dir. Bernardo Bertolucci

IMDb

Ges i a'r missus nosweth reit neis neithiwr, pizza, cwpwl o boteli o win a wedyn iste lawr i wylio'r ffilm ma. Pan fuon ni i Glasgow ddechre'r flwyddyn aethon ni i weld The Dreamers, ffilm ddiweddara Bertolucci(GWYCH) a mi rodd y ddau ohonyn ni'n edrych mlan at hon. Gyda llaw os ych chi yn digwydd mynd i Glasgow ma na Sinema FAB yn ardal Hillhead, sete lleder cyfforddus, bwrdd bach i bob cadair a gallwch chi fynd a peint neu baned mewn i'r sinema ac ar ben hynny i gyd ma'r popcorn yn ffresh nid y stwff sy'n dod wrth y tunell mewn bagie plastig, cewch bip - Grosvenor Cinema. O ran y ffilm, wel gaw ni ddechre da Liv Tyler. Dwi'm yn deall beth ma pobol yn i gweld ynddi, mi oedd hi'n olreit yn Empire Records ond ers hynny wel... hmmm... Reit ond beth am y ffilm? Stori'n eithriadol o predictable - merch ifanc Americanaidd yn mynd i'r Eidal i aros da ffrindie i Mam(a fu farw pan odd hi'n ferch fach) sy'n byw mewn rhyw fath o artists commune, ma hi'n edrych am i Thad iawn tra 'na, yn edrych am gariad ...blah blah blah... O ran steil, rodd hi'n ffab, o ran actio, gwych, o ran y golygfeydd a lleoliadau, gwych 'to, sprinkling o 'nudity' fel pob ffilm Bertolucci, bach o weiddi, llefen, drama ond stori bach yn rhy amlwg. Mi wnath y wedjen stopio gwylio hanner ffordd drwyddo a mynd i ddarllen, a dwi'n siwr bod hon yn lot fwy o ffilm i fenyw na dyn. Felly ar y cyfan mi odd hi'n werth i gwylio os ych chi'n ffan o waith y Cyfarwyddwr neu o Liv Tyler(huh!), ond oni bai hynny peidiwch boddran.

16/11/2004

Whale Rider(2002) - Dir. Niki Caro

IMDb

Hmmm, reit de. Dwi di bod isie gweld y ffilm ers amser maith i ddweud y gwir. Di clywed gyment o bethe da amdani. Dyw hynny ddim bod tro'n helpu ffilm gan ych bod chi'n disgwyl mwy ohoni wedyn, ond, o ran y ffilm yma mi odd hi'n gwd. Stori fach reit syml ynglyn a Thad-cu oedd eisie i'w fab cyntaf anedig gal crwt yn hytrach na merch er mwyn cadw'r linell deulu a llinell llwyth y Whangara i barhau. Ma na bwyslias mawr ar draddodiad y Maouri a phwysigrwydd cadw'r linell deulu i barhau. Golygfeydd a lleoliadau gwych, tipyn o hiwmor ac ambell ddeigryn, dwi'm am ddweud gormod am i bod hi'n werth i gweld. Os oes unrhywun yn gwbod am ffilmie da o NZ gadwch sylw, dwi fel tase fi ar ffix Seland Newydd ar hyn o bryd. Winter Light, Bergman gen i i wylio heno os dwi yn y 'mood', ma rhai o'i ffilmie'n gallu bod yn reit drwmedd.

A Cook's Tour - Anthony Bourdain

Dwi di sgwennu am i lyfyr cyntaf e'n barod ar y blog a mi ges fenthyg yr ail lyfyr yma gan ffrind. Mi odd e'n reit dda ond mi gymrodd e oes i mi ddarllen e i gyd(ma gen i theori am hyn 'fyd, dwi'n un sy'n lico theories - fy hoff le i ddarllen fel sawl dyn yw'r toilet ond ers symud ma'r stafell ymolchi yn blydi rhewi so dwi'm yn treulio chwarter o'm hamser i na, thanciw). Ma'r llyfyr ma yn olrhain hanes Bourdain yn teithio o amgylch y byd yn edrych am y pryd bwyd gore, dyw e ddim yn ffeindio perffeithrwydd ond ma fe'n dod yn reit agos. Ma'i deithie fe'n eithriadol o ddiddordol, yfed Vodka yn Rwsia, lladd mochyn ym Mhortiwgal(dwi meddwl taw Portiwgal oedd e, ma oesoedd ers i fi ddarllen dechre'r llyfyr), bwyta Cobra yn Fietnam a.y.y.b. Ond y ddwy bennod mwya diddorol i mi odd yr un ar Loegr sy'n ymdrin a phryd o fwyd gan Gordon Ramsey a bwyd yn Nhy Bwyta St John's yn Llundain a'r llall yw'r bennod am Fwyty'r French Laundry yng Nghaliffornia. Ma llyfyr coginio'r French Laundry di bod ar fy rhestr Nadolig ers i fi weld e amser 'Dolig diwetha, ma fe'n blydi marvellous. I ddweud y gwir dwi di cal spyrt bach diweddar yn coginio a ma'r hen lyfre Elizabeth David di bod mas da fi'n aml, a fe ges i lyfyr ffab o siop elusen rhyw bythefnos yn ol, y fersiwn Saesneg o La Veritable Cuisine de Tante Marie. Saith allan o ddeg, rhwydd i'w ddarllen ond ddim cystal a'i lyfyr cyntaf.

09/11/2004

I'll Be There(2003) - Dir. Craig Ferguson

IMDb

Ol reit dwi'n gwbod bod y dewis o ffilmie sy gen i lawr ar y blog bach yn gach a ma hon yn ychwanegu llwyth ffres atyn nhw ond gellith neb ddweud wrtha i bod y nhast i ddim yn eclectic. Gan y mod i nawr filltiroedd i ffwrdd o siop fideo/dvd dwi di seinio i fyny am dvd's drwy'r post. O'r restr faith dwi di greu co'r dvd cynta i nhw anfon, hmmm, ma'n rhaid i fod e'n arwydd y mod i fod i'w weld e. Reit, lle ddylse fi ddechre... wel dodd e ddim cynddrwg a Spice World ond dodd e ddim cweit cystal a gwylio penod o Monarch of the Glen(hmmm, ddim yn ffan? wel ma gen i theori am hon, ma fe'n rwtsh llwyr, di ffilmio'n weddol, lleoliad hyfryd, a stori ridicylys ond erbyn wyth o'r gloch nos Sul dos dim egni da fi i newid y sianel). Nol at y ffilm, ma Ms Church yn weddol, dyw hi ddim yn actores a diolch byth dyw hi ddim yn canu blydi Pie Jesu yn y ffilm er i bod hi'n canu(goes without saying). Craig Ferguson yn ok, Jemma Redgrave bach yn oeraidd a lli o actorion eraill sy'n actorion da yn llenwi bwlch i lenwi i pocedi. Y sgript? wel sheit fformiwleic, ambell i joc weddol a dyna ni, ond y peth gwaetha am y ffilm yw'r acenion Cymraeg gwarthus, odi fe werth i weld? Wel dos dim comedi faliw mawr i'r ffilm, gwastraff awr a hanner o'ch bywyd? hmmm, dibynnu pa mor ddiddorol i chi, canlyniad = ma fe'n well na chael cic yn ych tin neu cal ych poco yn ych llygad.

What Become of the Broken Hearted?(1999) - Dir. Ian Mune

IMDb

Be di 'sequel' yn Gymraeg? Wel ma hon yn sequel i'r ffilm wych o Seland Newydd, Once Were Warriors. Do ni'm yn disgwyl rhyw lawer cyn i gweld hi ond mi odd hi'n dda i weld bod yna lot o'r cast gwreiddiol yn y ffilm. Dodd hi ddim cystal a'r ffilm gynta, dodd hi ddim cweit mor bwerus a mi odd na lot llai o Jake the Muss(Temuera Morrison) yn pwno pobol, piti i ddweud y gwir. Pan o'n i yn y chweched dosbarth mi odd Once Were Warriors yn un o'r ffilmie cultish na odd yn ffefryn 'da fi a'n ffrindie, dwi'n siwr taw Shortland Street oedd a'r bai i ddweud y gwir gan taw 'Shorters' ddath a Temuera Morrison i'r byd. Dwi hefyd yn cofio mynd i weld Lord of the Rings yn y sinema a gweiddi allan "Oh, my God he/she/that/it's on Shortland Street". Wel dwi'n siwr bod y mwyafrif o actorion Seland Newydd di bod yn LoTR ar rhwy adeg. Nol at y ffilm, dwi'm am ddweud gormod am y stori rhag ych bod chi isie i gweld hi ar rhyw adeg, ma hi'n lot fwy ysgafn na'r gynta, ma na hiwmor yn y stori. Ma na lai o drais ac ymladd er bod yna beth yn bresennol a dyw'r pwyslais ar draddodiad y Maouri ddim yna o gwbwl. Werth i gweld yn enwedig os ych chi'n ffan o'r gwreiddiol.

02/11/2004

Captain Corelli's Mandolin(2001) - Dir. John Madden

Dwi'm am flogio pob ffilm dwi'n i weld ond neithiwr ges i'r cyfle i eistedd lawr a gwylio ffilm yn i chyfanrwydd heb orfod gwneud unrhyw waith. Yn digwydd bod rodd y dvd ma da ni o'r llyfyrgell a finne erioed di weld e. Ble ddylse fi ddechre, hmm wel dwi'm yn ffan mawr o Penelope Cruz nag o Nicolas Cage ond fe ges i syrpreis i weld Christian Bale yn actio rhan yn y ffilm. Y stori wel - mi odd hi'n weddol amlwg, ma Mandras(Bale) a Pelagia(Cruz) am briodi, Mandras yn mynd ffwrdd i ymladd yn y rhyfel, Corelli(Cage) yn Gapten ym myddin yr Eidal yn dod i'r ynys a ma fe'n cwympo mewn cariad da Pelagia. Bach o ymladd, bach o garu a na fe. Ar y cyfan, lleoliadau hyfryd, stori weddol ond heb fod yn syfrdannol, braidd yn hir a cwpwl o dwlle mawr yn y stori. Dwi'm di darllen y llyfyr ond yn ol y son ma fe i fod yn wych. Chwe allan o ddeg a ma'r mwayfrif o'r pwyntie yn dod oherwydd mwstash John Hurt.

01/11/2004

Stamp Album - Terence Stamp

O'r diwedd dwi di llwyddo darllen llyfyr yn y garafan. Dos dim hanner gyment o amser da fi nawr, ma na gyment o bethe i wneud. Ry ni di bod yna am dros bythefnos a dwi'm di gweld un ffilm ar y teledu nac ar dvd. Beth ffwc sy'n mynd mlaen? Well i fi siarad am y llyfyr 'fyd yn dife. Y cynta o dri llyfyr(dwi'n meddwl) gan Terence Stamp am i fywyd, ma fe'n olrhain i hanes e yn blentyn yn ardal West Ham/Plaistow yn Llunden. Ma'r llyfyr yn rhwydd i'w ddarllen a ma fe'n frith o storie personol, ma fe'n chwa o awyr iach i gal darllen am blentyndod actor fel Stamp a'r math o fywyd ma fe di byw. Ma na stori dda am i drip cynta fe i'r theatr, mi odd e di cal tocyn gan Noel Coward drwy hap, mi eisteddodd yn i sedd yn y rhes flaen a chal i wefreiddio gan berfformiad Coward. Ond pan ddath hanner amser mi gododdd o'i sedd a gadael y theatr heb wbod bod yna ail hanner i ddod. Yr unig gwyn sy gen i am y llyfyr yw i fod e'n rhy fyr, neu yn fwy i'r pwynt ma fe'n cwpla'n rhy gynnar, esgus i brynu'r ddau lyfyr arall? Efalle. Plot i wneud i fi wario arian. Efalle? Wel mond punt dales i am y llyfyr ym marchnad Caerfyddin ta beth. Dwi'n edrych ymlaen i ddarllen yr ail yn y gyfres, son am i gyfnod yn dechre fel actor yn y chwedege... diddorol.