24/11/2006

Hey cowboy!



Dwi'n teimlo fel crwt bach direidus pum mlwydd oed ar hyn o bryd. Fe dreulies i awr fach yn gwneud y 'collage' yma allan o doriadau o gylchgrawn Hello. Pam y clywaf chi'n gofyn, wel mi oedd isie gwneud carden benblwydd arna i a dwi'n hollol sgint ar hyn o bryd felly co fi'n galw ar Dduwie Blue Peter i ddangos y ffordd i mi. Mi oedd na fwy y tu fewn hefyd (gan gynnwys Des Lynham mewn bikini, mmmm neis).

16/11/2006

Gŵr Drwg?



Ai fi yw'r ola i glywed am y stori yma am Meic Stevens?

14/11/2006

Tân i Tesco

Mi brynodd 'y nghariad y llyfr Shopped, i mi ar y Mhenblwydd. Llyfr wnes i fwynhau yn fawr ond llyfr ma hi'n dyfaru prynu i mi nawr. Sôn ma fe am bwer yr archfarchnadoedd mawrion a'r dulliau ma nhw'n ddefnyddio. Mi oedd e'n agoriad llygad mawr i fi - dwi'n un sy'n hoff iawn o'r ddefod o fynd i siopa am fwyd. Ma fe'n ffordd i fi 'de-stressio', cymryd fy amser gan edrych ar yr holl gynhyrch sydd ar gael. Rhai wsnose nôl fues i i Tesco yn Fforestfach, Abertawe, ma'r lle'n anferth. Daeth diwedd ar y carma siopa bwyd yn y fan a'r lle (dwi di bod yn y Tesco yma ddegau o weithiau o'r blaen ond mi ges i rhyw fath o epiffany). Mi adawes i'r fasged lawn yn y man a mas o'r siop a fi. Wsnos diwetha mi agorodd siôp enfawr newydd Tesco yng Nghaerfyrddin, hoelen arall yn arch y siopau bychain. Dwi am weld am ba hyd y galla i fynd heb orfod mynd ar gyfyl y siopau mawrion. Dwi di llwyddo yn reit dda hyd yn hyn. Ma hi'n reit anodd y dyddiau ma i siopa ond yn eich siopau lleol, yn enwedig gan y mod i di arfer gyda'r dewis eang sydd ar gael yn archfarchnadoedd. Hyd yn hyn ma pethau'n mynd yn dda - dwi di bod yn prynu da'r siôp fara leol a'r cigydd (er mi o ni'n gwneud hynny cyn nawr), ry ni'n byw ar lysiau cartre a mi brynes i lond bocs o afalu o berllan tra yn Worcester penwythnos diwetha. Mi fydd yn rhaid i mi fynd i archfarchnad rhywbryd, byse mond defnyddio rhywle fel y Co-op yn iawn, chi'n feddwl?

Arwerthiant!

Ma gan Threadless arwethiant $10 arall. Prynwch myn diain i!

02/11/2006

Llunie Newydd!!!



Ma llunie newydd o'r beudy gen i ar y nghyfri Fflicr i (o'r diwedd). Gaethon ni bach o ddamwen bore 'ma yn y garafan - fe aeth y boiler dŵr twym ar dân (dyna'r ail dân i ni gael yn y garafan o fewn 2 flynedd). Felly ma cwpwl o wsnose da ni nawr heb ddŵr twym - nôl i ferwi tegell a chael cawod oer tan fod y gwres a'r dŵr twym yn gweithio yn y tŷ. Dwi'n gweld ni'n symud fewn i un stafell yn y tŷ o fewn cwpwl o wsnose a byw yna'n gyfan gwbwl - ma'r nwy i fewn da ni a mond deuddydd sydd ar ôl gyda'r plymwr i weithio, ond does dim trydan gyda ni 'to - felly mi fydd cwpwl o wsnose i aros i'r golau weithio.

01/11/2006

Roy.



Ai fi yw'r unig un sy'n gweld y llun hwn bach yn scary? O Flog Aberdâr.

Tash-wedd

Penwythnos prysur, mi ddaeth 70m2 o lawr derw o gwmni Broadleaf. Cwmni lleol o Landybie y nhw, ond ma siope da nhw dros y lle. De Lloegr yn ôl y boi oedd yn dreifo'r fan sy'n prynu'r rhan fwyaf o'r stoc. Chi'n gwbod yr hen stori fod Cymru yn lle bach iawn, wel wedi cael chat dros baned ffindes i mas bod y boi oedd yn dreifo'r fan yn gyn ŵr i ail gefnither i fi - ma'r wlad fach yma yn fach iawn bobols.



Reit te, des i ar draws gwefan Movember drwy flog Afe. Tase bo dim crop da barfgoch gen i ar yn wep i base fi'n trial y ngore i dyfu mwstash ar ran elusen 'fyd. Fel lot o ni'r dynion soi'n un am fynd at y doctor pan bo fi'n dost, ma'n well da fi gario mlaen gan feddwl y bydd popeth yn iawn o fewn cwpwl o ddiwrnode. Ar yr adegau pan i fi yn mynd at y doctor ma'n rhaid bod rhywbeth mawr o'i le. Ma'r un peth yn mynd am unrhyw ddolur sydd bach yn embarassing - yn wahanol i rai o'm ffrindie dwi'm y mwya cyfforddus yn siarad am unrhyw brobleme personol(yn enwedig megis STD/STI's neu tsieco'ch hunan mas).

26/10/2006

Taffy

Wedi darllen post Rhys am y cynnydd mewn traffig wedi blogio am Torchwood fe es i am bach o chwiliad i weld gwreiddiau'r enw Taffy. Ma'n siwr ein bod ni i gyd yn gyfarwydd â'r hen gerdd

Taffy was a Welshman,Taffy was a thief;
Taffy came to my house, And stole a piece of beef.


Diddorol oedd gweld yn ôl wiki taw o bosib o'r Duw Celtaidd am ffermio, Amaethon y daw Taffy(i chi nerds fel finne mi o ni di cael y niddanu gan hyn am taw sôn am ffermwyr Ifanc oedd Rhys yn gwneud yn y lle cynta).

Teledu Neithiwr.

Y teledu aeth am bryd yn gyfan gwbwl neithiwr. Dancing at Lughnasa yn gynta ar Film4, yna Who Do You Think You Are ar y BBC. Mi oedd DaL yn ffilm fach hyfyrd - dwi'n cofio fe'n dod mas flynyddoedd yn ôl ond heb i weld e o'r blaen. Stori am bum chwaer yn byw mewn bwthyn yn Iwerddon yn ystod 20'au'r 20fed Ganrif. Cast bach itha da - ma IMDb mor ddiddorol, do ni'm yn gwbod bod Sophie Thompson yn chwaer i Emma Thompson(mi o ni'n i nabod hi o Four Weddings). Catherine Mc Cormack yn wych hefyd, mwynheues i gweld hi'n ddiweddar ar BBC4 yn chwarae Elizabeth David. Bach bant o'r topic nawr ond os nag ych chi'n gyfarwydd gyda Elizabeth David ma isie i chi fynd mas a phrynu un o'i llyfre coginio hi nawr.

Hi oedd y Nigella cynta, a ma'i llyfre hi'n wych. Ma hi'n anodd argymell un llyfr, fe ddechreuais i da French Provincial Cooking, copi ar fenthyg gan y Nhad oedd e, hen lyfr Penguin o'r chwedegau, mi oedd e mewn darnau erbyn i mi gael gafael arno fe - hwn oedd beibl coginio Nhad fel myfyriwr. Ers hynny dwi di casglu'r mwayfrif o'i llyfre o'r Penguin Cooking Library ynghyd a llyfrau Claudia Roden a Jane Grigson.

Nol at bwynt y post, sef y tellybocs. Juli Sawalha oedd y celeb ar Who Do You Think You Are? neithiwr a mi oedd y rhaglen yn eithriadol o ddiddorol. Gwaed Ffrengig oedd ar ochr ei Mam, Hugantos wnaeth symud i Lundain ar ddiwed yr ail ganrif ar bymtheg. Y rhan mwya diddorol(wel i Nghariad ta beth) oedd pan aethon nhw i amgueddfa yn Llundain i gael gweld pa fath o fywyd oedd yna i wehaewyr silk y cyfnod. Mi oedd ail ran y rhaglen yn edrych ar ochr tad Juila o'r teulu - a thylwyth reit agos iddi, i Mamgu hi oedd yn dod o Jordan. Mi oedd i Mamgu hi'n fenyw reit unigryw, menwy fusnes ynghanol byd o ddynion - mi o ni'n gweld e'n od o beth i bod hi'n gwbod cyn lleied am i theulu agos hi i ddweud y gwir - falle'n bod ni yma yng Nghymru yn fwy busneslud. Wedi'r cwbwl ma teulu'n bwysig ond yw e.

Gwples i'r nosweth bant yn gwylio American Gothic ar ITV4 (oes wir eisiau'r holl sianeli ma arnon ni?). Ta beth, dwi'n cofio'r gyfres 'ma pan ddaeth hi mas am y tro cynta nol yng nghanol y nawdegau a mi o ni'n reit hwcd, od gweld rhaglen yr eil-dro flynyddoedd wedyn a methu gweld gymaint o atyniad. Ma hyn yn fy atgoffa i o ail wylio Rock Profile gan Matt Lucas a David Walliams, am rhyw reswm y tro cynta weles i nhw mi oedd e'n ddoniol ond penwythnos diwetha tra yn y llyfrgell des i ar draws y dvd a'i heirio, doedd e ddim yn ddoniol o gwbl, cach i ddweud y gwir.

25/10/2006

Blydi Dudley.



Stori o'r Guardian heddi ynghlyn a rhaglen newydd goginio Raymond Blanc. Dyw'r rhaglen ddim yn fy niddoru rhyw lawer, er y mod i'n gwylio arlwy Ramsey a Hugh Fearnley-W fel defod. Beth wnaeth ddal fy sylw fwyaf oedd disgrifiad Ramsey o Blanc - "jumped up little French twat". Piti na byse owns o angerdd Ramsey yn ein cogydd ni o Gymru, ie, ffefryn Mam-gu's led led Cymru, Cudley Dudley. Ymddengys bod cyfres newydd da Dudley a dyw'n gwlad fach ni ddim yn ddigon da mwyach, ma'n amlwg bod gan $4C ddigon o gash os yw e a llwyth o gystadleuwyr yn gallu mynd am drip bach neis i Ffrainc. Siawns byse fe di bod yn syniad gwell i wneud y rhaglen yng Nghymru a defnyddio cynhwysion lleol - ma hi'n ddigon gwael nawr bod bwyd traddodiadol Gymreig yn cael ei restru fel cawl, bara lawr, bara brith a pice bach. Beth am bach o ysbrydoliaeth Cymreig?

Y Bechgyn Hanes

Fues i neithiwr i Sinema Vue newydd Abertawe, ma hi'n reit debyg i sinema Vue Caerdydd i ddweud y gwir (ma'r tu fewn yr union run peth). Ma gwir angen sinema dda ar Abertawe, ma'r Odeon(UCI gynt) yn rhyw byncyr o'r 80'au a ma'r sinema newydd 'ma yn teimlo tamed bach fel rhan o Tesco Value range o sinemau. Ta beth, co'r bedwaredd ffilm i fi fynd i weld yn y sinema newydd 'ma (ie, pedair ffilm mewn mis - ma hwnna'n record i fi i feddwl bo fi yn byw yn y sticks). Children of Men, Devil Wears Prada, Trust The Man a wedyn neithiwr The History Boys.

Wnes i enjoio mas draw a baswn i'n argymell unrhywun i fynd i'w weld e. Ma fe'n teimlo fel gwylio drama i ddweud y gwir (dwi'n gwbod taw drama oedd hi, ond ma ganddi'r teimlad yna o groesiad rhwng drama BBC a drama lwyfan). Bues i bron a chlapio ar y diwedd i ddweud y gwir, mi o ni di llwyr anghofio y mod i mewn sinema. Mi oedd na ambell beth o ni ddim yn gyfforddus 'da am y ffilm - ma un o'r athrawon Hector(Richard Griffiths) yn twtsia'r disgyblion, ond yn hytrach na'i fod e'n beth drwg, brwnt ry chi'n teimlo drosto fe pan ma fe'n cael i ddal (be ffwc?). Ma hyn yn rhan bwysig o'r ffilm ond ma hi'n ddiddorol sut ry ni fel cynulleidfa yn ymateb i'r sefyllfa. 4 allan o 5.

24/10/2006

Arwerthiant $10

Co ble dwi'n cael y rhan fwya o nghryse T i o... a ma nhw lawr i $10 ar hyn o bryd.



Threadless.

Blog Apathy

Heb farw, jest di cael llond bol ar bopeth am gyfnod a di bod yn mwynhau darllen blogiau pobol eraill.



Isie rhoi mensh i Colours Are Brighter, albwm aml-gyfrannol a guradwyd gan Belle and Sebsastian o ganeuon i blant. Ma na un cân i'w lawrlwytho am ddim o'r wefan - Four Tet - Go Go Ninja Dinosaur. Os oes un o'r bobl fach da chi'ch hun neu isie anrheg i rhyw nai, co rhywbeth da i'r hosan Dolig. A ma canran o'r elw yn mynd i Save The Children. Ma hyd yn oed llyfyr lliwio ar gael i'w lawrlwytho.

A rhywbeth bach i chi ffans o'r Simpsons/White Stripes.

07/08/2006

Blog_Heb_Enw's Rough Guide to Swansea...

Dwi'n dod o Gaerdydd yn wreiddiol felly nid fi yw'r person gorau i fod yn siarad am Abertawe on gan fod lli o chwi Gymry yn dod i Abertawe wsnos 'ma i'r Steddfod co rhyw bwt bach ar bigion gorau Abertawe.

Reit te, ma cwpwl o galerie bach da - y fwya yw'r Glyn Vivian sydd jyst yn hyfryd - ma na gasgliad parhaol o waith Cymreig lan lloft a fel arfer ma oleua dwy arddangosfa lawr llawr, siôp dda fyd. Yn hoff galeri fach i yw'r Mission yn y Marina, ac os ych chi yn y cyffunie man a man mynd i'r Attic fyd ond mi fydd isie ceiniog sbar yn ych poced chi fan hyn (dewis da o artistied Cymreig 'ma fyd - David Carpanini, George Chapman, Josef Herman ac ati). Ma na arddangsofeydd yn cael i cynal yn Nghanolfan Dylan Thomas 'fyd - os nag ych chi di bod ma'r arddangsofa barhaol am y dyn i hun yn werth i'w gweld, a'r caffi/siôp lyfrau yn le bach cyfeillgar. Does dim canolfan debyg i Chapter i gael yn Abertawe gwaetha'r modd, yr agosa yw Canolfan Taliesin ar gampws y Brifysgol ynghanol Bae Abertawe - ma'n dangos dewis o ffilmie reit dda a dramau. Un lle bach arall sydd werth mynd am dro yw Amgueddfa Abertawe (Amgueddfa hyna Cymru), ma'r adeilad faux Rhufeinig yn hyfryd, does dim rhyw lawer i'w weld, ma fe'n debyg iawn i'r amgueddfa o'r gyfres Framley, ma na gasgliad o'r ffotograffiaeth gynhara i'w dynnu yng Nghymru lawr llawr, ac i fyny llofft ma na 'fummy' a chasgliad o drugareddau sydd di cael i ffeindio gan bobol yn defnyddio 'chwilwyr metal' (edrychwch mas am y trugareddau sydd di labeli 'interesting item').

O ran siopa, y lle gorau yw'r Mwmbwls, parciwch lawr wrth y pier a cerddwch nôl at y pentre, ma fe'n wac fach neis ar hyd y bae. Llwyth o siope difyr, siop gegin, cwpwl o siope llyfre, deli's, siope dillad. Ma na gwpwl o lefydd da i fwyta 'na fyd - 698, Patrick's a'r Mermaid (sydd cwpwl o ddrwse lawr o 698). Neu os ych chi moyn bwyd yng nghanol y ddinas ma'r Chelsea Cafe a Gwesty Morgans. Flin os i fi di colli rhywle mas ond dwi di bod i'r rhain a ma nhw'n lefydd bach da. Un siop fach arall sy'n werth mynd i yw siop lyfre Dylans, mi oedd hi'n arfer bod yn Salubrious Passage wrth Wind St on ma hi bellach draw rhwng Cae St Helens a'r Guildhall (ma'r Guildhall werth mynd iddi 'fyd - ma na gasgliad gwych o lunie Ceri Richards yn y cordiore wrth y brif fynedfa). Cyn i fi anghofio ma na archfarchnad Tseiniaidd fach dda iawn yn agos i cyn glwb nôs y Palas (jyst i fyny'r ffordd o'r orsaf drên) - ma'r siôp yn fach ond ma'r dewis yn eang.

Un o'm hoff lefydd i yw siôp lyfre Borders (odw dwi'n teimlo'n euog, dwi'n gwbod bod e'n gwmni mawr rhyngwladol sy'n lladd ar siope bach ond ma'r lle'n ffab). Dwi'm yn meddwl bod un yng Nghaerdydd (yn ôl y wefan ma un ar i ffordd), sied anferth yn gwerthu llyfre, dvd's, cd's ac ati yw hi, ma'r dewis jyst yn wych (yn enwedig gan taw yr unig beth sydd gen i gymharu da fe yn y cyffunie yw WH Smith Caerfyrddin).

Reit to, na ddigon am nawr, os gai gyfle wnai bostio rhyw bwt bach arall am 'the sights' yn Abertawe.

02/08/2006

Helo Bobols

Dwi'm di marw, peidiwch poeni. Ynghanol paentio'r tŷ (ers dros fis nawr) a heb gael munud rydd i flogio. Un tip bach i chi sy'n dda gyda'ch arian (sdim lot gen i ar hyn o bryd) ond dwi'n cael e-bost wythnosol o'r wefan ma, ma fe'n werth ymuno - tipie ynglyn a insiwrans, cyfrifoedd banc, morgeisi ac ati. Ma hyd yn oed linc i brynu The Incredibles i'r PSP2 am £2.

22/05/2006

Tango



Ma hysbysebiad Tango fues i'n gweithio arno llynedd bellach arlein.

17/05/2006

The cows had been specially massaged

Dwi'm di dal lan da bloglines ers amser felly dwi'm yn gwbod os oes rhywun di blogio am hyn yn barod. Mi oedd na stori dda yn y Guardian heddi ynglyn a grwp o bobol ifanc yn Hamburg wnaeth ddwyn danteithion drud o ddelicatessen yn steil y ffilm 'The Edukators'. Hoff ddyfyniad o'r stori -
"They took a whole slab of Australian Wagyu Kobe beef. It cost €108," says Siefers. "The cows had been specially massaged. We also have some very fine cheese here from Philippe Olivier. He's a very tough and famous cheesemaker. They took that too."

04/05/2006

Bisgedi



Ma nhw'n dweud 'little things please little minds' a ma fe'n hollol wir - ddoe dreulies i ddeg munud reit ddiddan yn rhoi geirie gwahanol i fewn ar y wefan yma.

13/04/2006

Paris, here I come.

Ma Rhys i fod yn Amsterdam, a finne i fod yn Paris. Dwi'n reit hapus da hynny i ddweud y gwir. Lle i chi fod?




You Belong in Paris



You enjoy all that life has to offer, and you can appreciate the fine tastes and sites of Paris.

You're the perfect person to wander the streets of Paris aimlessly, enjoying architecture and a crepe.

Llunie



Wnes i addo llunie o'r gwaith adeiladu, co nhw - gobeithio symud mewn erbyn Mis Medi ar hyn o bryd. Croesi bysedd.

10/04/2006

Neidr yn ein mysg.



Dwi'n casau nadredd, ond fues i'n ddigon dewr i dynnu llun hon ddoe a hefyd i'w pigo hi lan a'i rhoi hi mewn twb bach plastig. Ma cof gen i o chwarae pel droed gyda hen groen neidr wedi i chlymu i fyny pan yn blentyn, ma nhw ym mhobman ar y fferm (gwiberod a'r neidr dorchog). Dwi'm yn siwr beth dwi'm yn hoffi amdanyn nhw i ddweud y gwir, rhywbeth diweddar yw e - ma Mam yn i casau nhw, mi o nhw'n arfer dod i mewn i'r tŷ pan oedd hi yn i harddegau. Buodd hi bron a chael i chnoi gan wiber unwaith. Mi oedd y Nhadcu yn torri coed yn y sgubor a co fe'n clywed sgrech - ma fe'n rhedeg i'r tŷ(gyda'r fwyell yn i law) a'n torri pen gwiber anferth oedd di ymgartrefi ym mharlwr y tŷ.

Gaeaf diwetha ffeindion ni weddillion neidr dorchog oedd tua tair trodfedd o hyd - mi o ni di lladd hi drwy ddamwain drwy yrru'r tractor dros i phen hi. Dim ond gobeithio ffeindia i ddim mwy.

05/04/2006

Grymp, gwyrddni a Liz Hurley

Dwi'm di blogio ers amser, dwi'm di teimlo fel gwneud ers amser, digon o waith i'w wneud wrth i'r tŷ ddod yn i flaen - wnai bostio llunie wsnos nesa. Wedi bod yn yr ardd bob munud sbar hefyd yn paratoi ar gyfer y tymor newydd. Ma na berllan o ugain o goed ifanc di plannu a ma cywion cynta'r flwyddyn dy dod o'r deor-flwch(incubator?), bron i hanner cant erbyn hyn.



Y prif esgogiad heddi i sgwennu oedd darllen post Rhys, gallai'm cymharu yn ein hardal ni yn anffodus gan nad oes casgliad ail-gylchu ar gael ond ma'r bocsys ail-gylchu yn y maes parcio lleol yn orlawn (sy'n arwydd da). Wsnos diwetha fe ddechreues i wylio cyfres newydd ar BBC2, It's Not Easy Being Green, rhaglen yn sôn am deulu sy'n ceisio byw bywyd gwyrdd. Ma'r rhaglen fel rhyw fath o Good Life ar steroids, ma'r teulu i hun yn angrhedadwy, ma gan y tad fwstash pen i gamp (ai ar Scraphead Challenge wy di weld y boi o'r blaen?), ma'r fam yn hippy llipa a'r plant(wel ma'r ddau yn i harddegau os nad yn hyn) yn gyfuniad o'r ddau. Ma nhw mor blydi hapus, sy'n beth gret ond ma fe'n gwneud fi'n flinedig jest yn gwylio'r rhaglen. Yn ogystal a'r teulu ma na 'arbenigwyr' yn byw gyda nhw hefyd - arbenigwraig ar arddio a boi sy'n handi da tools. Yn y rhaglen gynta ma nhw'n symud i gernyw i hen ffermdy ac yn dechre ar drawsnewid i'r bywyd gwyrdd - dechrau ar yr ardd, adeiladu olwyn ddŵr i greu trydan, clirio'r tir ac ati - ma llwyth o waith yn cael i gyflawni yn benna diolch i lwyth o ffrindie'r plant (myfyrwyr ar i gwylie haf). Neithiwr mi gaethon nhw ddau fochyn bach, adeiladu ty gwydr a creu cawod sy'n cael i wresogi gan yr haul(dwi ffansi rhoi shot ar hwn fy hun) - os gallwch chi gadw fyny da'r teulu ma'r rhaglen yn werth i gwylio.

(Newydd wneud bach o syrffio a ma gan y teulu wefan)

Ma pop Dydd Sul yn ddiweddar di bod yn llawn cyffro, ma nghariad a finne di bod yn gwylio Project Catwalk ar Sky Three. Ma'r gyfres di cwpla nawr a ma'r fersiwn Americanaidd wreiddiol arno yn i lle - Project Runway.



Rhyw fath o wawffactor ffasiwn yw Project Catwalk - ma'r gyfres yn dechrau gyda rhyw ddeng cynllunydd ifanc a bob wsnos ma un yn gorfod gadael wedi cwblhau rhyw dasg gynllunio wahanol. Ma'r wedjen da fi'n gynllunwraig, ma'r gwaith ma hi'n wneud nawr gan amlaf i gwmniau eraill - Howies, Toast, Burberry a Marks & Spencers er nid cynllunio ma hi'n aml ond gwneud gwaith technegol. Pan ddechreuon ni fynd mas mi o ni'n cael hwyl yn mynd i sioeau ffasiwn a ma Project Catwalk yn fy atgoffa i o'r cyfnod 'na, yr holl waith munud ola, y models, popeth. Er uchafbwynt y rhaglen bob wsnos yw Liz Hurley y gyflwynwraig yn ynganu(wel ceisio) 'Fashion Has No Mercy' - i 'catchphrase' hi i ateb 'You are the weakest link, goodbye' Anne Robinson.

I gadw at y testun o ffasiwn, bu cyfres wych ar BBC4 am y cwmni ffasiwn Chanel, House of Chanel. Os yw'r rhaglenni'n cael i ail-ddangos da chi gwyliwch nhw ma nhw'n wych.

06/03/2006

Tagio

Dwi di bod bant ar y ngwylie am rhai wsnose yn bell i ffwrdd o fyd y cyfrifiadur. Newydd rhoi cip ar rhai o'r blogie arferol a ma hi'n ymddangos bod Dwlwen wedi'n nhagio, felly co ni'r atebion, itha diflas gwaetha'r modd...

Pedwar swydd dw i wedi’u cael
1. Casglu arian Littlewoods Pools o ddrws i ddrws, diflas ar y diawl a poen pan oedd hi'n bwrw glaw.
2. 'Usher' mewn theatr.
3. Bownsar/cyfarchwr(wedi gwisgo fel mynach) yng Nghastell Caldicott, mond nosweth o waith wnes i gyda grwp o ffrindie Coleg, aethon ni ddim nôl am ragor.
4. Ffotograffydd mewn clwb nos ym Mryste yn tynnu llunie o grwpie o ffermwyr meddw.

Pedwar ffilm gallaf eu gwylio drosodd a throsodd
1. Back to The Future
2. Cinema Paradiso
3. Empire Records
4. The Red Violin

Pedwar lle dw i wedi byw ynddyn nhw
1. Caerdydd
2. Casnewydd
3. Caerfyrddin
4. Pontnewydd, ger Pontiets.

Pedwar rhaglen teledu dw i'n eu caru
Hwn yw'r un anodda hyd yn hyn, dwi'n gwylio'r teledu yn rheolaidd ond anaml iawn dwi'n 'caru' rhaglen deledu...
1. Lost
2. Grand Designs
3. Y Ddau Ffranc
4. Stwff o'r 80'au - Airwolf, Alf, A-Team, Mork & Mindy a.y.y.b.

Pedwar lle dw i wedi bod ar wyliau
1. Denmarc
2. Y Weriniaeth Tsiec
3. Canada
4. Norfolk

Pedwar o’m hoff brydau bwyd
1. Sglods
2. Pitsa cartref
3. Sushi
4. Bwyd Ffrengig

Pedwar gwefan dw i’n ymweld â nhw bob dydd
1. Gmail
2. Guardian Unlimited
3. Maes-e
4. IMDb

Pedwar lle hoffwn i fod yn y munud hwn
1. Adre yn yr ardd, ma dwy goeden da fi isie planu.
2. Mewn caban ynghanol coedwig, o flaen tân agored mawr a hi'n bwrw eira'n drwm tu fas.
3. Ar fwrdd llong anferth ar y môr (dwi'm yn teithio'n dda ar y môr ond dwi ffansi mynd ar un o'r gwylie na ar fwrdd tancer olew).
4. Booze cruise i Ffrainc

Pedwar blogiwr dw i’n eu tagio
Os oes na rhywun mas na sydd heb i dagio 'to cerwch amdani.

30/01/2006

Darllen

Fy mlog newydd, wel ddim blog ar y cyfryw, mwy o restr fydd e o'r llyfre dwi'n ddarllen (dyna oedd pwrpas y blog 'ma i ddechre).

27/01/2006

Lenin Alec Demi Reeves, neis i gwrdda chi.

Newydd dreual gwefan wnaeth Chris gyfeirio ato ar i flog Saesneg o'r enw My Heritage Face Recognition. Rych chi'n lanlwytho llun o'ch gwyneb a ma nhw'n ffeindio selebs sydd yn edrych yn debyg i chi, co nghanlyniade gore i, bach yn gymysglyd i ddweud y gwir...

- Lenin (64%)
-Alec Baldwin (57%)
-Demi Moore (51%)
-Keeanu Reeves (47%)

Dwi hefyd di cael shot ar beth ma Chris a Rhys di bod yn wneud gyda'i cyfenwe nhw, co nghanlyniade i.

1881


1998

24/01/2006

My Hen Laid a Haddock

Ma'r ferswin 'ffonetig' Saesneg o Hen Wlad Fy Nhadau 'di bod yn styc yn y mhen i drwy'r wsnos, felly bore 'ma co fi'n gwglo a co ni, diolch i wikipedia am y fersiwn Saesneg...

My hen laid a haddock, one hand oiled a flea,
Glad farts and centurions threw dogs in the sea,
I could stew a hare here and brandish Dan’s flan,
Don’s ruddy bog’s blocked up with sand.

Dad! Dad! Why don’t you oil Auntie Glad?
Can whores appear in beer bottle pies,
O butter the hens as they fly!

16/01/2006

Ti'n hoples?

Erthygl ddiddorol yn y Guardian heddi am y cwmni cynhyrchu Tinopolis...

The typical London-centric view is that it has "grown rich from the S4C gravy train, making low-cost Welsh language programmes no one watches".

Byrgyrs



Wsnos diwetha, fe wnaeth Chris bostio rysait byrgyrs i ffrind e Jim. Dros y penwythnos fe lwyddes i ddod rownd i dreual y rysait. Mi oedd yn rhaid gwneud bach o waith ditectif cyn dechre ar y coginio - ma cyfarwyddiade Jim yn reit fanwl ond doedd popeth ar y restr ddim yn gyfarwydd. American Cheese? - wel caws arferol ddefnyddies i, Montreal Steak Rub - wedi googlo fe ddes i o hyd i'r rysait (dwi'm yn cofio'n iawn beth oedd ynddo fe ond mi oedd na halen môr, pupur du, hadau coriander, dill, pupur cayenne a paprika). Mi oedd y byrgyrs yn llwydiannus dros ben - yn eithriadol o flasus a heb fod yn sych o gwbl. Mi oedd y mayonnaise ar y darn gwaelod o'r bara yn gweithio'n dda iawn a blas y mwstard a'r saws 'Worcestershire' yn gweddi'n berffaith i'r cig. Dwi'm yn meddwl y bydda i yn gwneud rhyw lawer o rhain gwaetha'r modd, neu mi fydd y nghalon fach i'n pallu, ond ma'n dda i gael gwbod bod rysait dda 'da fi o hyn ymlaen i wneud byrgyrs cartref. Diolch Chris a diolch Jim.

10/01/2006

Twitchers



Gan fod Nwdls a finne bellach yn ddau twitcher dwi penderfynnu postio llun o'r ymwelydd mwya aml at ein bwrdd adar ni, Delor y Cnau(Nuthatch). Bwli yw e i ddweud y gwir, ar un adeg mi oedd na lwythi o Ditw Tomos Las yn dod i'r bwrdd adar i fwyta, bellach ma'r creadur bach yma'n ymladd da unrhywun sy'n dod ar gyfyl y bwrdd.

GUILTY OF CRIMES AGAINST ARCHITECTURE

Dau beth sydd da fi i gwyno amdano heddi. Y cynta, yw adeilad y Mownt yng Nghaerfyrddin (cyn adeilad John Francis). Enghraifft hyfryd o (esgusodwch y Saesneg) double fronted Georgian Townhouse, un o'r adeilade mwya amlwg wrth i chi yrru drwy Gaerfyrddin (ma fe drws nesa i garchar y cyngor). Ma fe di bod yn reit shabi ers blynyddoedd ond rhyw flwyddyn neu ddwy yn ôl fe aeth scaffold i fyny a ma nhw am ddymchwel yr adeilad. Dyw caniatau pobol i adeiladu byngalows drwy'r wlad ddim yn ddigon i Gyngor Sir Gâr ma'n rhaid dymchwel adeiladau sydd a phensaerniaeth syml hyfryd. Diawled. Co beth ma Meryl a'i chriw am gael gweld yn i le fe.



Yr ail beth, wnath y nghynddeiriogi i bore ma oedd gweld bos y nghariad yn parcio i char hi mewn safle parcio i'r anabl. Dwi di hen arfer gweiddi ar chav's sy'n parcio yn y safleoedd anabl ym meysydd parcio archfarchnadoedd ond dwi'n dal i synnu gweld pobol broffesiynol, iach, synhwyrol yn gwneud yr un peth. Sut ma stopio'r bobol 'ma? Wel diolch byth bod y nghariad yn y car bore ma neu mi fyse fi di dechre gweiddi ar i bos hi, dwi'n wael yn gwneud hyn - aethon ni i'r sinema neithiwr a tase fi di bod na ar ben fy hun/neu gyda ffrindie mi fyse fi di gweiddi 'for fuck sake you two will you shut up or I'll shove that coke bottle up your fucking arse' i'r ddau blentyn swnllyd cyfagos, diolch byth wnes i ddim, er falle y byse hynny di gwneud y ffilm bach yn fwy diddorol.

Gol: Wedi ail ddarllen y blog dwi'n sylwi mod i'n heneiddio ac yn troi'n rêl hen ddyn. Reit ble ma'n slippers i di diflannu i nawr te...

03/01/2006

Bah Humbug, daeth na ddiwedd ar y dathlu.



Wel daeth 'Dolig i ben, a mi ges arlwy o anrhegion hyfryd. Mond £20 yr un oedd y nghariad a finne i fod i wario ar ein gilydd er mwyn cadw gymaint o arian a oedd yn bosib at y gwaith adeiladu. Cyfraniad tuag at lawr llechi newydd i'r gegin oedd ein prif hanrheg gan y teulu, llechi o Tseina ma'n siwr, mi gare ni gael rhai Cymreig ond ma'r gost mor uffernol o uchel. Fuodd tridie wedi 'Dolig yn hunllefus o oer yn y garafan, fe rewodd y dŵr yn gorn am ddeuddydd felly bant a ni'n dau am gwpwl o ddiwrnode i aros mewn bwthyn ffrind oedd wedi mynd i'r Amerig i dreulio'r Nadolig da'i bartner. Gaethon ni amser gwych, teledu lloeren, soffa foethus, bath!, cegin gyda phob math o declyne modern, tân agored a gwres canolog. Ry ni'n dau yn ysu i symud i fewn i'n beudy bach ni nawr ond ma'n swir fydd na chwe mis a mwy tan y cawn ni wneud hynny. Diwrnod cynta nôl yn y gwaith heddi 'fyd a ma'r gwres canolog wedi torri unwaith yn rhagor, dwi'n gwisgo tair cot yn y swyddfa ar hyn o bryd a ma teipio tra'n gwisgo menyg yn dra anodd.



Fe gaethon ni ginio 'Dolig ffantastig, arlwy o fwyd, daeth fy rhieni i aros gyda fy Wncwl sy'n byw gyferbyn a ni a mi aeth fy nghariad a finne i fyny atyn nhw am ginio. Y fi goginiodd y twrci a'r tatws/panas/moron rhost yn ein ail ffwrn sydd yn yr hen barlwr godro. Fuon ni'n ddigon ffodus i gael ffwrn lydan am ddim gan ffrind oedd yn symud tŷ, ma'r ffwrn wedi bod yn eistedd yn yr hen barlwr ymysg y cwde sement a'r holl dools adeiladu o dan darpoulin tan wsnos 'Dolig. Dwi'n dda/gwael (?) am gasglu pethe a chael pethe am ddim, mi oedd ymuno a Freecycle llynedd yn gam dŵl, ma'n carafan ni'n llawn dop, fy hen stafell yn nhŷ fy rhieni yn llawn bocsys, stafell sbar rhieni fy nghariad yn llawn celfi a garej i chwaer hi hefyd yn dal ein trigareddau. Mi fydd yn rhaid gwneud sêl cist car yn y Gwanwyn i leihau ar yr holl stwff.

Dwi'm yn un sy'n ffan o'r Flwyddyn Newydd fel arfer ond eleni mi oedd pethe i fod yn wahanol, y bwriad oedd mynd i aros gyda ffrindie yn Belgravia (ie posh dwi'n gwbod), ond yn anffodus mi oedd yn rhaid iddyn nhw weithio'r Flwyddyn Newydd. Felly noswaith dawel eithriadol, ymlacio, gloddesta a'r greision a chnau, yfed gwin drud, cwpwl o wydre o calvados a noswaith gomedi ar Paramount Comedy. Oedd, mi oedd hi'n noswaith dawel iawn ond mi enjoies i fy hun. Llynedd fuon ni i barti anferth mewn commune (oedd yn wych) felly mi oedd eleni bach yn wahanol.

Yr un addunedau dwi'n wneud bob blwyddyn - colli pwysau, yfed llai, cynilo mwy. Ond eleni ma gen i gwpwl mwy. Dwi am fod yn fwy gwyrdd. Does dim bocsys na chwde ailgylchu ar gael i ni, ma'r daith o ddwy filltir o'r hewl fawr yn ormod i'r fan ailgylchu yn ôl y cyngor! Felly ma popeth yn gorfod cael i gadw a'i garto i'r bins ailgylchu agosa. I fod yn hollol onest dwi'm yr un gore yn cadw pethe. Dwi'n cadw papur a gwydr ond anaml iawn dwi'n cadw tins/cans. Does dim bin ailgylchu plastig yn agos atom yn anffodus felly plastig fydd y mwyafrif o'r sbwriel yn ein cwde du arferol. Dwi'n compostio llwyth o bethe'n barod ond ambell waith ma na goffi, cwde tê neu bilyn tatws yn ffeindio i ffordd i'r bin sbwriel, wel eleni ma popeth yn mynd i gael i gompostio. Dwi'n benderfynnol hefyd o fwyta yn fwy iach h.y. dim bwyd wedi i brosesu (ambell noswaith pan dwi di blino ma'n rhwydd estyn am bitsa neu sglodion ffwrn sydd di guddio yng nghefn y rhewgell, wel dim mwy). Cynhwysion ffres, bwyd lleol a mwy o fwyd organig lle ma hi'n bosib (a sydd ddim yn rhy drwm ar y boced). Dwi hefyd am ddechre busnes, dyw fy swydd heb fod yn saff ers amser felly dwi a nghariad am ddechre cwmni o'r beudy newydd - cwmni organig/moesol o ryw fath - bwyd neu ddillad/deunyddie cartref ma'n swir ond ma isie i ni gymryd saib a sgwennu cynllun busnes a dechre ar y fenter.

Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd (h.y. os oes rhywun yn darllun heblaw am Mam).