22/12/2004

Dwi'm am ddechre llanw'r blog da llunie ond gan fod y teclyn hello ma'n gweithio nawr dwi di penderfynnu rhoi llun bach arall i fyny o nghartre newydd. Posted by Hello

20/12/2004

Co ni'r llall 'fyd, gobeithio fod y sustem fach ma o anfon llunie i'r blog yn gweithio... Posted by Hello
Testing, testing, one, two, three... yw'r llun i'w weld te? Posted by Hello

Dolig, Tantrums a Cwn yn blogio.

Am benwythnos, blydi siopa Nadolig Dydd Sadwrn, fe ges i lond bol a gwneud 'scene' yng nghanol tre Caerfyrddin ala menyw dew o'r Midwest yn gweiddi ar i fflant obese, Candy, Randy a Dandy mewn archfarchnad. Ond, dwi di cwpla'r siopa Dolig diolch byth a ma nghariad yn siarad 'da fi nawr to. Ces i mhrofiad cynta o bryd bwyd Siapaneaidd Ddydd Sul yng Nghaerdydd yng nghinio Dolig y Gymdeithas Lomograffig - sdim cliw da fi beth fytes i ond mi oedd e'n hyfryd, piti mod i'n gyrru neu mi fase fi di cal cwpwl o wydre o saki 'fyd. Gallai'm aros i gal pryd arall ond mi odd y chyncs o tofu yn fy ngawl nwdls yn eithriadol o ddiflas(dwi'm yn deall chi veggies). Dwi heb flogio am lyfyr ers peth amser ond dwi yng nghanol sawl un ar hyn o bryd - Norwegian Wood gan Haruki Murakami, Biog Elizabeth David o hyd(dwi bach yn slow) a Cornucopia: A Gastronomic Tour of Britain. Os nag i chi di sylwi dwi'n un sy'n lico mwyd, top five jobs of all time(ddim yn unrhyw drefn)... Chef, Pensaer, Ffotograffydd, Cynhyrchydd Ffilm... hmmm Garddwr neu Ffermwr. Ma na bach o sgop i gal mynna! Ffilmie, run through o'r dvd's diwedda'r 101 Reykiavic (ffilm fach syml ond reit bleserus), Saturday Night and Sunday Morning (jyst gwych, Albert Finney un arall o'm hoff actorion ar i ore), Confessions of a Teenage Drama Queen (ffilm gynta Disney Sara Sugarman dwi'n meddwl, ok, ddim byd ffantastig.) Jyst i gwpla bant co wefan fach werth cal pip arni hi Save Mouse ma hi'n anodd i darllen hi i ddechre ond gyda bach o amser ry chi'n clywed llasi y ci yn eich pen.

16/12/2004

Byw Ddarlunie - Life Drawing?

Wedi sganio rhai llunie o'r sesiwn 'byw ddarlunie' fues i yn y Swansea Print Workshop. Ffili'n deg a chal y llunie i weithio ar y blog felly co ddwy linc i chi, yma ag yma.

Happiness(1998) - Todd Solondz

IMDb

Disturbing i ddweud y lleia.

13/12/2004

Malena(2000) - Dir. Giuseppe Tornatore

IMDb

Mi odd na ddwy reswm gen i i weld y ffilm ma, y cynta oedd Giuseppe Tornatore yr ail oedd Monica Bellucci. Tornatore sgwenodd a chyfarwyddodd un o'm hoff ffilmie i Cinema Paradiso, os nag ych chi di gweld hi cerwch mas a rhentwch, prynwch neu fenthycwch gopi ma hi weth i gweld. O ran Bellucci, well ma hi'n rel pishyn, a dyna'n union odd i phwrpas hi yn y ffilm yma. Ffilm Eidaleg yn olrhain hanes crwt yn i arddege cynnar yn tyfu fynny yn ystod yr ail ryfel byd, ma Renato'r crwt yn cwmpo mewn cariad da Malena(Bellucci) ynghyd a phob dyn arall yn y pentre. Ma'r ffilm yn dilyn y crwt yn tyfu fyny, ma fe fel cysgod i Malena ond dyw hi'n gwbod dim amdano fe. Ma'r cinematograffi'n hyfryd, golygfeydd gwych o dre Eidalaidd, ma na olau gwych i'r darlunie fel rhwy haf 'eternal'. Ma na hiwmor ma hefyd yn enwedig yn y golygfeydd gyda theulu'r crwt. Werth i gweld 8/10.