14/03/2005

Travels With Charley In Search of America - John Steinbeck



Ma'r gwanwyn yma o'r diwedd, a dwi'n falch fod y dydd yn hirach a bod y tywydd yn gwella ond ma na un peth drwg, dwi'n darllen lot llai. Ma'r llyfyr yma di bod ar i hanner da fi ers amser, a rhag y nghywilydd i. Dwi'n hoff iawn o lyfre Steinbeck (y ffefryn 'di Cannery Row) ac os nag ych chi di darllen unrhyw un o'i lyfre fe ma fe'n werth prynu un mewn siop elusen neu fenthyg un o'r llyfrgell. Ges i nghyflwyno i Steinbeck fel lot o bobol eraill o'm nghenhedlaeth drwy TGAU Saesneg, mi oedd Of Mice and Men ar y rhestr ddarllen. Ar y pryd mi odd y llyfyr yn ddiflas tost, 30+ o blant mewn dosbarth ynghanol tywydd gwlyb/oer/poeth yn darllen, dyw e byth yn eich cyfareddu chi i wneud rhyw ddim. Ond flynyddoedd wedyn mi wnes i ail ddarllen y llyfyr a cal blas arno fe. Nawr te, o ran Travels With Charley, dwi di bod yn meddwl mynd am 'heol-daith' ar draws yr Amerig ers amser a dyna beth yw testun y llyfyr, ond ma fe'n fwy na hynny, bwriad Steinbeck oedd i ail-ddarganfod i wlad i hun wedi bod yn alltud yn Lloegr a Ffrainc am flynyddoedd. Felly yn 1960, gyda'i 'boodle' Ffrengig Charley yn gwmni co Steinbeck yn dechre ar y daith, ma hi'n syfrdanol sut ma'r llyfyr hyn bron i hanner canrif yn ddiweddarach yn dal i fod yn teimlo'n fodern iawn. Bwriad Steinbeck oedd i ddefnyddio'r heolydd bychain gan alw yn y caffi's bychain er mwyn siarad gyda'r werin bobol yn hytrach na ddefnyddio'r traffyrdd a'r siope/bwytai 'franchise' cyfarwydd. Ma fe'n trafod pob agwedd ar ddiwylliant America - hanes, diwylliant lleol, dirywiad cymdeithasol, dirywiad yn safon bwyd, dirywiad yn niddordeb gwleidyddol - popeth sydd dal yn berthnasol i ni fel Cymry a fel trigolion y byd. Ma'r llyfyr ar adegau yn gallu bod yn ffwndrus, ma na rant ynglyn a Texas tuag at ddiwedd y llyfr ond gan amlaf hanes onest i daith o amgylch i wlad i hun yw hi. Darllenwch hi.

3 comments:

Rhys Wynne said...

Swnio'n ddiddorol, mi edrycha i allan amdano.

cridlyn said...

Fi'n hoff iawn o Steinbeck. Dim ond Grapes of Wrath ac Of Mice and Men ydw i wedi'u darllen, ond mae East of Eden a Cannery Row ar y rhestr hirfaith o 'bethau i'w darllen'. Mae hon yn swnio'n hynod ddiddorol. Sut mae'n cymharu â gwaith Kerouac?

Chicken Legs, Twm and The Kid said...

Hollol wahanol i Kerouac, ma Travels with Charley yn lot tebycach i lyfyr 'teithio' a dyw'r rhamant sydd gan Kerouac ddim yn rhan ohoni. Ma na ramant yn llyfre cynnar Steinbeck ond storie/nofele i nhw(er bod y cymeriade yn werinol ac yn aml yn eithriadol o dlawd). Ma'r llyfyr hyn yn real, sôn am i brofiade personol ar i daith ma fe, mewn cronloeg a heb fod mor 'fluid' a rhai o lyfre Kerouac. Beth nath fy syfrdannu fi fwya oedd pa mor berthnasol oedd rhai o'i bwyntie fe am ddiwyllaint gwerinol - crefydd, traddodiade, cymdeithas ac ati. Ma na li o lyfre da fi ar fy rhestr 'i'w darllen' a mi fuodd hon arni am amser maith. Falch y mod i di darllen hi o'r diwedd.