18/03/2005

Tamed i aros pryd.

Dwi ffwrdd ar y ngwylie tan wedi Pasg felly mi fydd y blog yn reit dawel am rhai wsnose. Dwi'm i ffwrdd yn unman egsotig, y pella dwi'n meddwl yr af i yw Machynlleth ar ymweliad รข'r Ganolfan Dechnoleg Amgen. Ma gen i lwyth o waith i'w wneud - ffensio, aredig, codi ffram y polytunnel, plannu tatws a dechre ar blannu hade llysie. Ma'r ffa llydan(?) eisoes yn tyfu'n bert a'r panas di blannu, y tomatos yn nhy gwydr fy nhad gyda'r asparagus, riwbob a'r winwns. Mi fydd y rocket sydd yn y ffram oer yn barod i'w bigo wsnos yma, felly salad cartref cynta'r flwyddyn gyda dail dant y llew gwyllt ifanc o'r caeau i mi! Llwyth o lyfre gen i i ddarllen, felly gobeithio fydd na gyfle i sgwennu am gwpwl ohonyn nhw ar y blog. Gobeithio 'fyd cal gwylio cwpwl o ffilmie a chal llond col o syniade er mwyn sgwennu fy erthygl gyntaf i Pictiwrs.

1 comment:

Nwdls said...

Mmmm, broad beans a bacwn...