
McRorie
Pan dwi'n tyfu fynny, dwi isio bod mor cŵl a'r dyn yma. Dos fawr ddim o'i hanes e ar y wefan - ond ma na ddigon o ffilmie bychan difyr a thudalen o mp3's o'i ganeuon gwreiddiol e (dwi'n gwrando ar Cowboys Take Drugs Too ar hyn o bryd). Rhyw fath o 'one man band' i'r mileniwm newydd - keyboard, drum sensors ar i chest e, rhywbeth tebyg ar i arddyne fe a rhyw beiriant air-guitaraidd 'fyd. O am fod mor rock and roll a McRorie.
2 comments:
w.a.w.
fishe bwcio'r boi ma i'n angladd i iddo gael ddawnsio ar fy medd.
Ditto. A phawb arall yn fy nheulu.
"Na Dad, so chi'n mynd i ga'l cremation...fi 'di hala'r arian ar rywbeth gwell yn barod...a na, nid porn...wel..."
Post a Comment