10/11/2005

Sialens Starbucks



Ddydd Sul diwetha fe bendyrfynes i gefnogi globaleiddio a mynd am dro i'r siôp goffi Starbucks agosa yn Abertawe. Ma'n rhaid cyfadde y mod i'n mynd o ngwirfodd ambell waith (ma'r teisenne bach oreo's yn arallfydol), ond Ddydd Sul mi oedd na bwrpas i'r ymweliad. Wedi darllen am Sialens Starbucks ar flog Hippi'r Ddinas fe benderfynes i weld os oedd ein cornel bach ni o'r byd yn gwneud bach yn well na'r dinasoedd mawr drwg. Pwrpas y sialens yw i weld os oes modd cael paned o goffi 'masnach deg' o Starbucks, ma nhw di bod yn gwerthu coffi rhydd ers amser i chi gael prynu a ma na lwyth o daflenni 'fyd yn y siôp yn sôn yn union beth yw coffi masnach deg. Ma'n bleser da fi ddweud y gwnath Abertawe'n dda iawn, mi oedd na goffi du masnach deg ar gael(a mi oedd e'n ffein iawn 'fyd). Pam na wnewch chi dreual hyn yn ych siôp goffi leol.

Fideo Morningwood



Dim byd gwreiddiol gwaetha'r modd ond linc bach at flog arall a ddath a'n sylw i. Sôn ma'r linc am fideo cerddoriaeth gan y band Morningwood (falle bo fi'n dangos pa mor 'uncool' dwi ond do ni'm di clywed amdanyn nhw o'r blaen) ond nath i fideo bach nhw fy niddanu am rhyw ddwy funud bore 'ma oleua.

09/11/2005

Celf Canol Wsnos.



Newydd ffeindio'r blog ma am arddangosfa yn San Francisco oddi ar Boing Boing, arrdangosfa o waith Eric Kroll (ddim yn saff i'r gwaith), Charles Krafft, Winston Smith a Robert Williams. Dwi'n gyfarwydd 'da gwaith Kroll (ffotograffiaeth 'arty-fetish') a Smith (fe wnath e glawr un o albwm's Green Day) ond do ni'm di clywed am stwff Krafft o'r blaen. Cerwch am bip ar i wefan e, ma peth o'r gwaith jest yn hollol wych (fe wnath y tepot yn y llun uwch). Joiwch, bach o gelfyddyd ganol wsnos.

07/11/2005

Tân Gwyllt



Wel na flwyddyn arall drosto, agos at 40 o westeion da ni eleni ar noson Guto Ffowc gan gynnwys cwpwl o dramorwyr (wel llond dwrned o Saeson, un Almaenes ag un o Ganada). Mi oedd nosweth tân gwyllt yn draddodiad ar y fferm cyn i ni symud i'r ardal, ac er taw y fi a nghariad oedd yn cynnal y nosweth do ni'm yn nabod hanner y bobol oedd na (mi o ni'n nabod y Cymry Cymraeg i gyd ond neb o'r 'bobol ddwad', er ein bod ni yn rhai 'fyd). Gwariwyd dros £100 ar dân gwyllt(mond rhyw £20 ddath o mhoced i) a ma rhyw £80 o dân gwyllt ar ôl da ni heb i defnyddio, cymysgwch o dywydd diflas a phlant oedd di hen ddiflasu ar 'roman candles' a mond isie sparklers neu cael cyfle i chwarae da'r tân. Ond ar y cyfan mi oedd hi'n nosweth dda iawn, mi oedd holl bobol ifanc yr ardal yn feddw rhacs ar gans o woodpecker a'i rhieni'n cymryd dim sylw tan i ddau dechre ymladd ac i un arall gwympo dros ben cadair (fuodd un yn sic bedair gwaith, o am fod yn ifanc unwaith eto!). Mi o ni'n reit rhacs erbyn diwedd y nosweth 'fyd, ac yn wlyb trwy nghroen, aros nawr am flwyddyn nesa - a mi fyddwn ni yn y tŷ erbyn hynny gobeithio.

03/11/2005

Scary Dylan




Ma hwn bach yn od i ddweud y gwir, prosiect yn Abertawe i ail-greu Dylan Thomas yn ffurf digidol. Ar un adeg mi o ni'n reit hoff o Dylan Thomas ond dwi di hen ddiflasu arno erbyn hyn (gormod o Americanwyr tew yn gofyn i fi yn Abertawe os o ni'n i nabod e, 'aye, he iwst to play skittles with my uncle Terry down the Legion, byt'). Ta beth, os oes isie rhywbeth i roi ofn ar rywun arnoch chi cerwch draw i gael pip ar y wefan, sceri.