03/05/2005

Golosg neu Ludw?



Pan o ni'n arfer gweithio mewn tafarn mi o ni'n casau penwythnose gwŷl y banc. Llond tafarn a gardd gwrw o chafs yn yfed gormod, gloddesta ac yn gadael i'w chafs a'i chafets bach i redeg reiat. Ymlacio yw pwrpas y penwythnos ond dodd dim ymlacio i fod y penwythnos 'ma. Gwaith plymio, aredig, garddio, paentio... (ma'r rhestr yn faith). Ond bnawn Sul am gwpwl o orie mi fues i a chymydog yn adeiladu llosgwr golosg (gweler yr instrycsions). Dodd y deunydd crai oedd da ni ddim yn rhy dda - dwy gasgen da tylle enfawr ynddyn nhw (a ma isie casgen sy'n aer-dynn) felly wedi peth stryffaglo, greindio a wado mi oedd llosgwr weddol dda gyda cwpwl o dylle bach 'da ni. Awr fach yn torri boncyffion da'r fwyell a co ni'n dechre ar y llosgi, mi oedd y tân tamed bach yn rhy ffyrnig ond wedi peth amser mi lwyddon ni i gau'r gasgen a llanw unrhyw dwlle i fyny gyda chlai o'r pridd. Dyna'i gyd oedd i'w wneud oedd i adael y gasgen i losgi'n dawel. Neithiwr wedi pedair awr ar hugain es i gael pip ar y gampwaith, mi odd y clawr wedi dymchwel i mewn i'r gasgen a'r pren wedi llosgi'n ilw. Bygyr, mi fydd yn rhaid trio 'to.

3 comments:

Rhodri said...

O diar, gad i ni wybod sut aiff hi y tro nesa.

Ew, dwi'n joio'r blogs Ddy Gwd (Nawr) Laiff ma gen ti.

Chris Cope said...

Ond pam baset ti eisiau gwneud golosg dy hun?

blog_heb_enw said...

Ma cymydog yn rhan o ryw 'woodland management scheme',ma'n rhaid torri nifer arbennig o goed bob blwyddyn a dim ond hyn a hyn o goed tân ma fe'n gallu werthu yn lleol. Ma hynny'n golygu bod lot o'r coed sy'n weddill yn mynd yn wast. Ma Cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r Comisiwn Coedwigaeth yn annog pobol i arall-gyfeirio, cynhyrchu golosg yw un o'r pethe hawsa a ma na arian i'w wneud ohono. Ar hyn o bryd ma gen i gwt bach yn gwerthu wyau a phlanhigion a ma gen i li o gwsmeriaid sy'n galw'n wythnosol, y syniad oedd tase modd cynhyrchu'r golosg i'w werthu o'r cwt ac i'w werthu o'r siope/garej leol. Ma'n pentre lleol ni'n reit dda am gefnogi busnese lleol - dwi'n cael y mwyafrif o fwyd ffres - llaeth, menyn, caws, llysie a ffrwythe tymhorol o ffermydd o fewn rhyw 5 milltir i ni. Ac i ddweud y gwir dyw'n wedjen a fi ddim yn ddau sy'n eithriadol o 'wyrdd', dim ond i bod hi'n hawdd gwneud hynny mewn cymuned wledig.