30/09/2004

Fear And Loathing In Las Vegas - Hunter S. Thompson

Wel llyfyr reit dda i ddechre'r blog. Brynes i fe'n rhad yn MVC, dwi di prynu cwpwl o lyfre yn ddiweddar 'na i ddweud y gwir. Ma'n od mod i heb ddarllen y llyfyr cyn hyn, ddarllenes i lyfyr Thompson ar yr Hells Angels rhai blynyddoedd nol a mwynhau'r arddull, siawns taw heb i ddarllen e nes i rhag ofn iddo fe sbwylio'r fersiwn ffilm. Dwi'n cofio darllen llyfyr Stephen King, The Shining cyn gweld ferswin Kubrick a ma'n rhaid i fi ddweud taw diflas oedd y ffilm pan wylies i fe'r tro cynta. Fear and Loathing... oedd y ffilm ola i fi weld yn Sinema ABC ar Queen St, Caerdydd cyn iddi gau. Mond llond dwrn ohonon ni odd yn y sinema ond mi odd hi'n ffilm wych. Er mawr ryddhad i mi rodd y ffilm gystal a'r llyfyr, arddull rwydd a ma na gyment yn mynd ymalen yn y llyfr. Ry chi'n teimlo fel ych bod chi tu mewn i ben Thompson i hun ar drip seicadelic drwy'r anialwch(ffyc ma Cymraeg yn swnio'n shit pan chi'n siarad am drygs ac am rhyw o ran hynny - neu ai jyst fi sy'n meddwl hynny?) .

Newydd fod ar IMDB, yn edrych ar dudalen Thompson, ma fe'n itha diddorol i ddweud y gwir, i chi ffeithwyr mas na, Thompson nath sgwennu'r rhaglen beilot i'r gyfres Americanaidd sheit Nash Bridges.

29/09/2004

Codi pais a dechre pisio.

Diflasu yn siwr y gwnewch chi wrth ddarllen y blog yma. Ma fe'n fwriadol hunanol. Lle bach cymmen i gadw cofnod o'r llyfre a ffilmie dwi'n ddarllen a gwylio yw'r pwrpas. Ar bwy ma'r bai, wel Mr Nwdls a Mr Dafis. Yn gyntaf Nwdls am i flogie niferus difyrus ac yn ail Mr Dafis am gau Maes E am wsnos. Be ffwc o ni fod i wneud am gyfnod mor hir?