30/01/2006

Darllen

Fy mlog newydd, wel ddim blog ar y cyfryw, mwy o restr fydd e o'r llyfre dwi'n ddarllen (dyna oedd pwrpas y blog 'ma i ddechre).

27/01/2006

Lenin Alec Demi Reeves, neis i gwrdda chi.

Newydd dreual gwefan wnaeth Chris gyfeirio ato ar i flog Saesneg o'r enw My Heritage Face Recognition. Rych chi'n lanlwytho llun o'ch gwyneb a ma nhw'n ffeindio selebs sydd yn edrych yn debyg i chi, co nghanlyniade gore i, bach yn gymysglyd i ddweud y gwir...

- Lenin (64%)
-Alec Baldwin (57%)
-Demi Moore (51%)
-Keeanu Reeves (47%)

Dwi hefyd di cael shot ar beth ma Chris a Rhys di bod yn wneud gyda'i cyfenwe nhw, co nghanlyniade i.

1881


1998

24/01/2006

My Hen Laid a Haddock

Ma'r ferswin 'ffonetig' Saesneg o Hen Wlad Fy Nhadau 'di bod yn styc yn y mhen i drwy'r wsnos, felly bore 'ma co fi'n gwglo a co ni, diolch i wikipedia am y fersiwn Saesneg...

My hen laid a haddock, one hand oiled a flea,
Glad farts and centurions threw dogs in the sea,
I could stew a hare here and brandish Dan’s flan,
Don’s ruddy bog’s blocked up with sand.

Dad! Dad! Why don’t you oil Auntie Glad?
Can whores appear in beer bottle pies,
O butter the hens as they fly!

16/01/2006

Ti'n hoples?

Erthygl ddiddorol yn y Guardian heddi am y cwmni cynhyrchu Tinopolis...

The typical London-centric view is that it has "grown rich from the S4C gravy train, making low-cost Welsh language programmes no one watches".

Byrgyrs



Wsnos diwetha, fe wnaeth Chris bostio rysait byrgyrs i ffrind e Jim. Dros y penwythnos fe lwyddes i ddod rownd i dreual y rysait. Mi oedd yn rhaid gwneud bach o waith ditectif cyn dechre ar y coginio - ma cyfarwyddiade Jim yn reit fanwl ond doedd popeth ar y restr ddim yn gyfarwydd. American Cheese? - wel caws arferol ddefnyddies i, Montreal Steak Rub - wedi googlo fe ddes i o hyd i'r rysait (dwi'm yn cofio'n iawn beth oedd ynddo fe ond mi oedd na halen môr, pupur du, hadau coriander, dill, pupur cayenne a paprika). Mi oedd y byrgyrs yn llwydiannus dros ben - yn eithriadol o flasus a heb fod yn sych o gwbl. Mi oedd y mayonnaise ar y darn gwaelod o'r bara yn gweithio'n dda iawn a blas y mwstard a'r saws 'Worcestershire' yn gweddi'n berffaith i'r cig. Dwi'm yn meddwl y bydda i yn gwneud rhyw lawer o rhain gwaetha'r modd, neu mi fydd y nghalon fach i'n pallu, ond ma'n dda i gael gwbod bod rysait dda 'da fi o hyn ymlaen i wneud byrgyrs cartref. Diolch Chris a diolch Jim.

10/01/2006

Twitchers



Gan fod Nwdls a finne bellach yn ddau twitcher dwi penderfynnu postio llun o'r ymwelydd mwya aml at ein bwrdd adar ni, Delor y Cnau(Nuthatch). Bwli yw e i ddweud y gwir, ar un adeg mi oedd na lwythi o Ditw Tomos Las yn dod i'r bwrdd adar i fwyta, bellach ma'r creadur bach yma'n ymladd da unrhywun sy'n dod ar gyfyl y bwrdd.

GUILTY OF CRIMES AGAINST ARCHITECTURE

Dau beth sydd da fi i gwyno amdano heddi. Y cynta, yw adeilad y Mownt yng Nghaerfyrddin (cyn adeilad John Francis). Enghraifft hyfryd o (esgusodwch y Saesneg) double fronted Georgian Townhouse, un o'r adeilade mwya amlwg wrth i chi yrru drwy Gaerfyrddin (ma fe drws nesa i garchar y cyngor). Ma fe di bod yn reit shabi ers blynyddoedd ond rhyw flwyddyn neu ddwy yn ôl fe aeth scaffold i fyny a ma nhw am ddymchwel yr adeilad. Dyw caniatau pobol i adeiladu byngalows drwy'r wlad ddim yn ddigon i Gyngor Sir Gâr ma'n rhaid dymchwel adeiladau sydd a phensaerniaeth syml hyfryd. Diawled. Co beth ma Meryl a'i chriw am gael gweld yn i le fe.



Yr ail beth, wnath y nghynddeiriogi i bore ma oedd gweld bos y nghariad yn parcio i char hi mewn safle parcio i'r anabl. Dwi di hen arfer gweiddi ar chav's sy'n parcio yn y safleoedd anabl ym meysydd parcio archfarchnadoedd ond dwi'n dal i synnu gweld pobol broffesiynol, iach, synhwyrol yn gwneud yr un peth. Sut ma stopio'r bobol 'ma? Wel diolch byth bod y nghariad yn y car bore ma neu mi fyse fi di dechre gweiddi ar i bos hi, dwi'n wael yn gwneud hyn - aethon ni i'r sinema neithiwr a tase fi di bod na ar ben fy hun/neu gyda ffrindie mi fyse fi di gweiddi 'for fuck sake you two will you shut up or I'll shove that coke bottle up your fucking arse' i'r ddau blentyn swnllyd cyfagos, diolch byth wnes i ddim, er falle y byse hynny di gwneud y ffilm bach yn fwy diddorol.

Gol: Wedi ail ddarllen y blog dwi'n sylwi mod i'n heneiddio ac yn troi'n rêl hen ddyn. Reit ble ma'n slippers i di diflannu i nawr te...

03/01/2006

Bah Humbug, daeth na ddiwedd ar y dathlu.



Wel daeth 'Dolig i ben, a mi ges arlwy o anrhegion hyfryd. Mond £20 yr un oedd y nghariad a finne i fod i wario ar ein gilydd er mwyn cadw gymaint o arian a oedd yn bosib at y gwaith adeiladu. Cyfraniad tuag at lawr llechi newydd i'r gegin oedd ein prif hanrheg gan y teulu, llechi o Tseina ma'n siwr, mi gare ni gael rhai Cymreig ond ma'r gost mor uffernol o uchel. Fuodd tridie wedi 'Dolig yn hunllefus o oer yn y garafan, fe rewodd y dŵr yn gorn am ddeuddydd felly bant a ni'n dau am gwpwl o ddiwrnode i aros mewn bwthyn ffrind oedd wedi mynd i'r Amerig i dreulio'r Nadolig da'i bartner. Gaethon ni amser gwych, teledu lloeren, soffa foethus, bath!, cegin gyda phob math o declyne modern, tân agored a gwres canolog. Ry ni'n dau yn ysu i symud i fewn i'n beudy bach ni nawr ond ma'n swir fydd na chwe mis a mwy tan y cawn ni wneud hynny. Diwrnod cynta nôl yn y gwaith heddi 'fyd a ma'r gwres canolog wedi torri unwaith yn rhagor, dwi'n gwisgo tair cot yn y swyddfa ar hyn o bryd a ma teipio tra'n gwisgo menyg yn dra anodd.



Fe gaethon ni ginio 'Dolig ffantastig, arlwy o fwyd, daeth fy rhieni i aros gyda fy Wncwl sy'n byw gyferbyn a ni a mi aeth fy nghariad a finne i fyny atyn nhw am ginio. Y fi goginiodd y twrci a'r tatws/panas/moron rhost yn ein ail ffwrn sydd yn yr hen barlwr godro. Fuon ni'n ddigon ffodus i gael ffwrn lydan am ddim gan ffrind oedd yn symud tŷ, ma'r ffwrn wedi bod yn eistedd yn yr hen barlwr ymysg y cwde sement a'r holl dools adeiladu o dan darpoulin tan wsnos 'Dolig. Dwi'n dda/gwael (?) am gasglu pethe a chael pethe am ddim, mi oedd ymuno a Freecycle llynedd yn gam dŵl, ma'n carafan ni'n llawn dop, fy hen stafell yn nhŷ fy rhieni yn llawn bocsys, stafell sbar rhieni fy nghariad yn llawn celfi a garej i chwaer hi hefyd yn dal ein trigareddau. Mi fydd yn rhaid gwneud sêl cist car yn y Gwanwyn i leihau ar yr holl stwff.

Dwi'm yn un sy'n ffan o'r Flwyddyn Newydd fel arfer ond eleni mi oedd pethe i fod yn wahanol, y bwriad oedd mynd i aros gyda ffrindie yn Belgravia (ie posh dwi'n gwbod), ond yn anffodus mi oedd yn rhaid iddyn nhw weithio'r Flwyddyn Newydd. Felly noswaith dawel eithriadol, ymlacio, gloddesta a'r greision a chnau, yfed gwin drud, cwpwl o wydre o calvados a noswaith gomedi ar Paramount Comedy. Oedd, mi oedd hi'n noswaith dawel iawn ond mi enjoies i fy hun. Llynedd fuon ni i barti anferth mewn commune (oedd yn wych) felly mi oedd eleni bach yn wahanol.

Yr un addunedau dwi'n wneud bob blwyddyn - colli pwysau, yfed llai, cynilo mwy. Ond eleni ma gen i gwpwl mwy. Dwi am fod yn fwy gwyrdd. Does dim bocsys na chwde ailgylchu ar gael i ni, ma'r daith o ddwy filltir o'r hewl fawr yn ormod i'r fan ailgylchu yn ôl y cyngor! Felly ma popeth yn gorfod cael i gadw a'i garto i'r bins ailgylchu agosa. I fod yn hollol onest dwi'm yr un gore yn cadw pethe. Dwi'n cadw papur a gwydr ond anaml iawn dwi'n cadw tins/cans. Does dim bin ailgylchu plastig yn agos atom yn anffodus felly plastig fydd y mwyafrif o'r sbwriel yn ein cwde du arferol. Dwi'n compostio llwyth o bethe'n barod ond ambell waith ma na goffi, cwde tê neu bilyn tatws yn ffeindio i ffordd i'r bin sbwriel, wel eleni ma popeth yn mynd i gael i gompostio. Dwi'n benderfynnol hefyd o fwyta yn fwy iach h.y. dim bwyd wedi i brosesu (ambell noswaith pan dwi di blino ma'n rhwydd estyn am bitsa neu sglodion ffwrn sydd di guddio yng nghefn y rhewgell, wel dim mwy). Cynhwysion ffres, bwyd lleol a mwy o fwyd organig lle ma hi'n bosib (a sydd ddim yn rhy drwm ar y boced). Dwi hefyd am ddechre busnes, dyw fy swydd heb fod yn saff ers amser felly dwi a nghariad am ddechre cwmni o'r beudy newydd - cwmni organig/moesol o ryw fath - bwyd neu ddillad/deunyddie cartref ma'n swir ond ma isie i ni gymryd saib a sgwennu cynllun busnes a dechre ar y fenter.

Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd (h.y. os oes rhywun yn darllun heblaw am Mam).