28/04/2005

Gwen ac Augustus



Arddangosfa Gwen ag Augustus John, Caerdydd
Arddangosfa Gwen ag Augustus, Tate Prydain

Ddydd Sul fe ges i ddiwrnod eithriadol o bleserus yng Nghaerdydd. Treulio'r bore yn y sioe flode ger y Castell(dos dim byd yn bod ar bobol yn i hugeinie yn mynd i sioe flode, wir yr). Cinio gwych, unweth yn rhagor yn y Tenkaichi Noodle Bar ar City Rd(be di'r enw Cymraeg bobols?) ac yna i weld arddangosfa Gwen ag Augustus John yn yr Amgueddfa. Mi odd hi'n werth i'w gweld, dwi di hen arfer ar beintiade Augustus ond mi oedd e'n grêt cael gweld casgliad mor eang o beintiadau'r ddau artist gyda'i gilydd. Os ych chi yng Nghaerdydd da hanner awr i'w spario cerwch i'w gweld. Ma na wahaniaeth enfawr yng ngwaith y ddau - mi oedd Augutus yn rêl boi, yn byw gyda dwy fenyw yn gloddesta ac yn yfed a ma hyn fel petai yn amlwg yn y paentiade. Ma cyferbyniad llwyr yng ngwaith Gwen, yn lot fwy tawel, syml, ma lliw a ffurf yn fwy pwysig na manylder a ma gweld i phaentiade o'r lleianod yn agoriad llygad - sawl paentiad tebyg i'w gilydd. Diddorol hefyd i ddysgu fod Gwen di bod yn ysbrydolaeth, yn fodel ac yn gariad i'r cerflunydd Auguste Rodin. Ma na arddangosfa arall lan stâr 'fyd o gasgliad Galleri Gendelaethol yr Alban, peintiade gan Degas, Van Gogh, Monet a Gaugin. Fe'i casglwyd oll gan un casglwr a'i rhoi fel rhodd i'r Galeri yng nghanol yr 20fed Ganrif, tebyg iawn i beth wnath y Chwiorydd Davies yng Nghymru (ma rhan o'i casgliad hwy i fyny yng Nghaeredin). Dwi di gweld y paentiade unwaith o'r blaen yng Nghaeredin ond mi oedd e'n bleser cal gweld paentiad Gaugin unweth yn rhagor. Cerwch da chi!

2 comments:

Nwdls said...

Ie, fues i draw i hon. Rhaid cyfadde nad oeddwn i'n or hoff o waith y ddau. Ond roedd na ambell un fel yr un sgen ti ar dy flog, y llun o'r sipsiwn a'r portread o ryw awdur gwyddelig yn edrych yn wallgo. Y rhai mwy lliwgar, bywiiog, llai austere.

Mae'n ddrwg gen i ddweud fod y lleianod yn ddiflas ar y diawl i'm llygaid bach i.

Ella ai nol penwythnos ma i weld y sdwff fyny sdaer. Welson ni ddim o weddill yr Amgueddfa.

(Heol Y Plwca yw City Road gyda llaw :)

dros said...

nesi fwynhau'r arddangosfa - llawer gwell gen i ddarluniau gwen na'i brawd (hwnnw'n newid ei steil a'i dechneg i fynd gyda ffasiwn yr amser - ac yn dechre piclo tua canol oed. er, dwi'n siwr bod lot mwy o dân yn ei fol e nag oedd gan gwen...). dwi wrth fy modd efo cyfres the convalescent (un yn arbennig, sydd ddim ar wefan y tate, ond yn hytrach yn y fitzwilliam yma yng ng-g).
mae llyfrau nodiadau/sgetsio gwen yn y gen yn aberystwyth: ges i bnawn indulgent iawn yn lloffa trwyddyn nhw yno sbel 'nol...
(gwaith david jones lan staer yn yr amgueddfa'n gret hefyd, gyda llaw...)