29/04/2005

£34m i $4C

Erthygl icWales

Ma'n ymddangos fod S4C wedi gwerthu i rhan hwy o'r cwmni SDN, y nhw yn ôl be dwi'n ddeall yw'r cwmni sy'n rheoli/gweithredu teledu digidol (os dwi'n anghywir plis gadewch sylw). Ma'r arian (£34miliwn) ar gael nawr i S4C wneud fel a fynno, yn wahanol i'r arian ma nhw'n dderbyn yn flynyddol gan y llywodraeth (rhyw £85miliwn) sy'n gorfod cael i ddefnyddio i dalu am raglenni a ballu. Felly beth ma S4C am wneud da'r arian? Wel ma un peth yn siwr gan i bod nhw di gwerthu i siar yn SDN mi fydd yn rhaid iddyn nhw dalu SDN o hyn ymlaen er mwyn parhau i gael gwasanaeth digidol. Ma hi'n gyfnod reit ecseiting mewn ffordd, dos neb yn rhyw siwr be di dyfodol S4C, ond nawr ma na gyllid ganddyn nhw i wneud gwahaniaeth i'w dyfodol - budsoddi mewn cynhyrchu rhaglenni arloesol o safon, ffilmie/sinema deallus a pharhau gyda'i ymroddiad tuag at animeiddio. Ond ai budsoddi neu gadw'r arian (neu gwario'r arian i gyd ar gyfres arall o Procar Pinc) y gwna nhw, mond aros y gallwn ni wneud.

2 comments:

Dafydd Tomos said...

Mae SDN wedi diflannu ar ol cael ei brynu gan ITV. Nhw sydd biau plethiad A nawr a mae nhw'n parhau y contract gyda Ofcom tan 2010.

Mae gan S4C (a Five a TeleGael) hawl i ofod ar y plethiad o dan y ddeddf darlledu gyda costau penodedig dwi'n credu felly does dim byd yn newid o ran cario'r sianel.

Mi fydd yn rhaid buddsoddi peth o'r arian wrth gwrs ond fe fydd hefyd angen paratoi ar gyfer troi analog bant mewn 2/3 blynedd.

Nwdls said...

Plis PLIS, dowch a ffilmiau da yn ol i S4C. Dydyn nhw ddim yn gorfod costio llawar (ond rhaid gwario mwy nag a wnaed ar Drysor Y Mor Ladron...) ac mae'r sgil effaith o gael ffilm lwyddiannus yn werth bob ceiniog.

Plis?