30/03/2005

Country Wisdom Almanac and Know-how: Everything You Need to Know to Live Off the Land



Fe lwyddes i fynd am drip bach cloi lan i Mach wsnos diwetha a chal treulio diwrnod da yn ymweld â'r Ganolfan Decholeg Amgen. Trip reit bleserus, y peth ddysges i fwyaf oedd i fynd wedi penwythnos y Pasg pan ma'r tren bach yn cludo pobl i fyny i'r safle yn hytrach na cherdded i fyny'r heol fach serth y gorfu i mi a Nhad wneud (wedi dau ddiwrnod o balu mi wnath y bryn bron a'm lladd i). Dysges i ddigon am sut i gynhyrchu compost da, sut i dorri lawr a'r wastraffu egni a cwpwl o dips ynglyn ag ail-gylchu ond siom oedd y ganolfan yn rhannol - mi oedd na li o wybodaeth ynglyn â thechnoleg wyrdd (solar, gwynt, dwr ac ati) ond doedd fawr iawn oedd yn berthnasol i fi fel rhywun oedd yn edrych am dips i'r cartre (h.y. ma isie agor ffynnon newydd arna i a mi fyse fe'n dda gallu defnyddio dull gwyrdd o gynhyrchu trydan/pwmpio'r dwr ond mi oedd y rhan fwyaf o'r wybodaeth ar raddfa oedd lot yn rhy fawr i fi). Ond, y peth gore ges i mas o'r diwrnod oedd llyfyr yn y siop(siop dda iawn i ddweud y gwir, yn enwedig o ran llyfre). Brynes i gopi o Country Wisdom Almanac and Know-how: Everything You Need to Know to Live Off the Land, cyhoeddiad gwreiddiol gan Lyfre Storey o daflenni gwybodaeth yn sôn am bopeth o flingo cwningen i sbaddu mochyn, o blannu gardd at goginio risotto pwmpen. Ma fe'n debyg iawn i'r beibl hunan gynhaliol gan John Seymour ond taw amalgam o erthygle Americanaidd i nhw yn hytrach na gwaith a gwybodaeth/profiad gan un awdur. Os oes twtsh o'r Good Life yn perthyn i'ch bywyd ma'r llyfyr yma'n hanfodol. Rhaid i fi fynd, dwi bant i bractisio sut i sbaddu mochyn.

29/03/2005

Ffans yn Unig - Belle and Sebastian



Ges i'm wy pasg eleni(dyw Cadbury's Creme Egg ddim yn cyfri) felly yn lle 'ny fe ges i rywbeth o ni wir eisie, DVD Belle and Sebastian, Fans Only. Rhyw rhaglen ddogfen/ffilm/hoitshpotsh o gyfweliade, fideo's a llunie o gyfnod Belle and Bebastian gyda chmwni recordie Jeepster. Mi odd hi'n werth i weld. Dwi'n hollol hwcd ar ganeuon B & S, a dwi di bod ers blynyddoedd, os nag ych chi'n gyfarwydd a nhw cerwch mas a phrynwch The Boy With the Arab Strap, Fold Your Hands Child, You Walk Like A Peasant neu Dear Catastrophe Waitress, wel i ddweud y gwir unrhywbeth ma nhw di gynhyrchu(ma'r EP's cynnar yn dda iawn 'fyd). Dwi erioed di cal y cyfle i fynd i'w gweld nhw'n chwarae'n fyw ond o wylio'r DVD, nhw di'r band mwya 'uncool' yn y byd o ran 'u gwedd(ma nhw'n edrych fel band Cristnogol), ond ma'r gerddoriaeth yn hyfryd, hyfryd, hyfryd. Do ni'm yn gwbod rhyw lawer am y band cyn gwylio'r DVD, er bod llwyth o'i cd's gen i, ac i fod yn hollol onest er mod i di mwynhau'r ffilmie, dodd dim lot o syniad gen i ynglyn a'i hanes nhw wedi gwylio'r DVD. Goffes i i 'googlio' nhw er mwyn cal gwybod mwy(linc ar y gwaelod), ma na rhyw 7 aelod(ma ambell un di gadael ag ambell un dy ymaelodi ers y '90'au cynnar), oll o Glasgow. Ma nhw oll yn eithriadol o dalentog, pob un yn chwarae sawl offeryn ac yn cynhyrchu miwsig melfedaidd. Well i fi stopio nawr, dwi di dweud digon. DVD i ffans yw hon i ddweud y gwir (Fans Only - does what it says on the tin) ond dwi'n dweud bod yn rhaid i BAWB gael oleua un CD B&S yn i cartre.

Gwefan Belle & Sebastian
Co bach o'i hanes nhw...

Dwi'n stiff.

Dwi nôl o ngwylie bach byr o waith caled a ma nwylo bach i'n llawn rhychie tywyll o bridd bellach. Dwi'n temimlo'n reit stiff wedi wsnos o balu ond ma na rhyw sbonc yn fy ngherddediad am y mod i di bod yn fachgen da yn gwneud gyment o waith caled. Tatws, moron, panas a radish bellach wedi plannu a borderi di agor yn barod i ddal mefus, mafon, cwsberis, pys, ffa, winwns a llwyth o ddanteithion eraill. Dwi di bod yn gloddesta ar ein 'rocket' ni drw'r wsnos a mi gaetho ni'n barbeciw cynta neithiwr, noson hyfryd yn gwrando ar y radio, yfed seidr a gwylio'r sêr, ma hi'n mynd i fod yn haf i'w gofio.

18/03/2005

Tamed i aros pryd.

Dwi ffwrdd ar y ngwylie tan wedi Pasg felly mi fydd y blog yn reit dawel am rhai wsnose. Dwi'm i ffwrdd yn unman egsotig, y pella dwi'n meddwl yr af i yw Machynlleth ar ymweliad â'r Ganolfan Dechnoleg Amgen. Ma gen i lwyth o waith i'w wneud - ffensio, aredig, codi ffram y polytunnel, plannu tatws a dechre ar blannu hade llysie. Ma'r ffa llydan(?) eisoes yn tyfu'n bert a'r panas di blannu, y tomatos yn nhy gwydr fy nhad gyda'r asparagus, riwbob a'r winwns. Mi fydd y rocket sydd yn y ffram oer yn barod i'w bigo wsnos yma, felly salad cartref cynta'r flwyddyn gyda dail dant y llew gwyllt ifanc o'r caeau i mi! Llwyth o lyfre gen i i ddarllen, felly gobeithio fydd na gyfle i sgwennu am gwpwl ohonyn nhw ar y blog. Gobeithio 'fyd cal gwylio cwpwl o ffilmie a chal llond col o syniade er mwyn sgwennu fy erthygl gyntaf i Pictiwrs.

14/03/2005

Travels With Charley In Search of America - John Steinbeck



Ma'r gwanwyn yma o'r diwedd, a dwi'n falch fod y dydd yn hirach a bod y tywydd yn gwella ond ma na un peth drwg, dwi'n darllen lot llai. Ma'r llyfyr yma di bod ar i hanner da fi ers amser, a rhag y nghywilydd i. Dwi'n hoff iawn o lyfre Steinbeck (y ffefryn 'di Cannery Row) ac os nag ych chi di darllen unrhyw un o'i lyfre fe ma fe'n werth prynu un mewn siop elusen neu fenthyg un o'r llyfrgell. Ges i nghyflwyno i Steinbeck fel lot o bobol eraill o'm nghenhedlaeth drwy TGAU Saesneg, mi oedd Of Mice and Men ar y rhestr ddarllen. Ar y pryd mi odd y llyfyr yn ddiflas tost, 30+ o blant mewn dosbarth ynghanol tywydd gwlyb/oer/poeth yn darllen, dyw e byth yn eich cyfareddu chi i wneud rhyw ddim. Ond flynyddoedd wedyn mi wnes i ail ddarllen y llyfyr a cal blas arno fe. Nawr te, o ran Travels With Charley, dwi di bod yn meddwl mynd am 'heol-daith' ar draws yr Amerig ers amser a dyna beth yw testun y llyfyr, ond ma fe'n fwy na hynny, bwriad Steinbeck oedd i ail-ddarganfod i wlad i hun wedi bod yn alltud yn Lloegr a Ffrainc am flynyddoedd. Felly yn 1960, gyda'i 'boodle' Ffrengig Charley yn gwmni co Steinbeck yn dechre ar y daith, ma hi'n syfrdanol sut ma'r llyfyr hyn bron i hanner canrif yn ddiweddarach yn dal i fod yn teimlo'n fodern iawn. Bwriad Steinbeck oedd i ddefnyddio'r heolydd bychain gan alw yn y caffi's bychain er mwyn siarad gyda'r werin bobol yn hytrach na ddefnyddio'r traffyrdd a'r siope/bwytai 'franchise' cyfarwydd. Ma fe'n trafod pob agwedd ar ddiwylliant America - hanes, diwylliant lleol, dirywiad cymdeithasol, dirywiad yn safon bwyd, dirywiad yn niddordeb gwleidyddol - popeth sydd dal yn berthnasol i ni fel Cymry a fel trigolion y byd. Ma'r llyfyr ar adegau yn gallu bod yn ffwndrus, ma na rant ynglyn a Texas tuag at ddiwedd y llyfr ond gan amlaf hanes onest i daith o amgylch i wlad i hun yw hi. Darllenwch hi.

11/03/2005

Ffermwyr Arlein!

Newydd fod yn gwglio am rhywbeth a mi ddath na ateb obsciwyr i fyny yn y rhestr - negesfwrdd Cymraeg Clwb Ffermwyr Ifanc. Dwi di bod yn pori(he he, sori)am rhyw ddeng munud a ma fe'n ymddangos taw ond un peth sydd ar feddwl FfI Cymru - rhyw. A nawr ma modd cyfarfod fyny ar y we!

Fforwm Clwb Ffermwyr Ifanc

04/03/2005

Luther Burger neu Hamdog?



Dwi'n reit ffond o 'fyrgyrs' ma'n rhaid dweud(ddim y math Mc Donald's/Burger King y rhai iawn di wneud allan o gig dwi'n i lico) ond pan weles i'r stori yma am y Luther Burger mi wnath e droi'n stumog i. Yn ol y son y canwr Luther Vandross wnath ddyfeisio'r byrgyr, dodd dim bara ar ol da fe yn y ty felly fe wnath e ddefnyddio dwy donut yn lle i ddal y byrgyr, hollo afiach. Ond yn ogystal a hynny ma'r siop sydd bellach yn gwerthu'r 'Luther Burger' hefyd yn gwneud Hamdogs sef hotdog di lapio mewn byrgyr a di ffrio (linc ar waelod y post). Ma na rywbeth eitha Homer Simpsonaidd am y bwyd yma, mmmm deep fried yummy goodness. Ma fe'n biti mawr fod pobol dros y byd i gyd ac nid dim ond yn America yn troi i cefn ar brydie traddodiadol gwerinol neu hyd yn oed bwyd ffres ac yn mynd fwy fwy at fwyd wedi i brosesi. Mi o ni'n hollol syfrdan y nosweth o'r blaen yn gwylio Jamie's Kitchen a dodd y plant ddim yn gwybod beth oedd enwe llysie gwahanol(hyd yn oed taten), a'r fam yn mynd i siopa a erioed di gweld basil o'r blaen? Be ffwc? Flin bo fi'n cael winj ond dwi ynghanol darllen 'A Year in Provence', brynes mewn car bootie am 10c wsnos ma a dwi'n gorfod cadw copi o French Provincial Cooking - Elizabeth David wrth y gwely er mwyn gwbod yn union beth yw pob pryd ma nhw'n fwyta. Dyna'r math o fwyd dwi am weld pobol yn bwyta, cynhwysion da, cynhwysion ffres/yn i tymor a bwyd sy'n flasus heb fod yn ffysi. Diwedd rant, diolch am wrando.

01/03/2005

Gastranome neu Gourmet?

Newydd gal e-bost gan ffrind sy'n reit wybodus am i fwyd, a ma'n rhaid i fi ddweud dwi'n falch y mod i di dysgu gyment oddi wrtho fe. Ma fe'n ffansi mynd ar gwrs coginio pysgod a di anfon cwpwl o wefane(islaw). Ma'r ddwy wefan yn gwrthu pysgod dros y we, a dwi'n nabod cwpwl o bobl sy'n prynu pysgod/pysgod cragen yn y dull yma ac yn i derbyn yn ffres drwy'r post. Rhyw ymbil am help yw'r blog, oes na lefydd da i brynu pysgod ffres yng Nghymru? Dwi'm am ordro pysgod o Gernyw neu o'r Alban drwy'r post os oes cwmni tebyg ar gael yng Nghymru yn gwerthu cynhyrch lleol Cymreig. Dwi'n edrych am 'clams' ar hyn o bryd ond ma cal gwbod am ffynhonell leol dda o 'mussels', 'langouistine' neu bysgod môr yn help eithriadol, ta feri mytsh.

Fishworks a The Fish Society