20/01/2005

Aberystwyth Mon Amour - Malcolm Pryce



Diolch byth am annwyd weda i. Neithiwr wedi cyrraedd adre o'r gwaith fe es i'n syth i ngwely gyda chwpaned o Lemsip, llwyth o hancesi a llyfyr. Ddarllenes i'r llyfyr fwy neu lai mewn un eisteddiad a mi oedd e'n gret. Stori dditectif di selio yn Aber yw hi, ma hi'n llawn o'r cliches Cymraeg arferol ond ma nhw'n ddoniol i'w darllen. Ma'r arddull yn draddodiadol 'Chandleresque' ac er dwi'm yn ffan o'r math yna o storie yn arferol ma hi'n ddigon ysgafn i'w darllen. Dyw'r llyfyr ddim at ddant pawb, ma ffrind yn Aber yn casau'r llyfyr ond mi o ni'n i weld e'n llawn hiwmor. Dwi di gweld y llyfyr yn aml ar silff y llyfrgell ac yn y siope llyfre ond dwi'm di bigo fe fyny tan ddechre'r wsnos pan y gweles i fe yn siop elusen yng Nghaerfyrddin. Ges i fargen - Aberystwyth Mon Amour, Morvern Callar(dwi'm yn cofio'r awdur ond ma'r ferswin ffilm yn reit dda), Sheepshaggers - Niall Griffiths a In Cold Blood - Truman Capote am deirpunt. Dwi'm yn siwr beth i ddarllen nesa, dwi'n dal i fynd drwy arlwy llyfrgelloedd Sir Gar o lyfre coginio - dau lyfyr da diweddar Afghan Food and Cookery - Helen Saberi(GWYCH) a Modern British Food - Sybil Kapoor (reit dda).

18/01/2005

Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw - Owain Meredith

Fues i'r llyfrgell neithiwr i dalu'r ffeins am y llyfre odd da fi mas dros 'Dolig a mwriad i heddi oedd sgwennu am rai o'r llyfre wnes i ddarllen dros y gwylie, ond dyw hynny ddim i fod. Fe ges i DHMH allan neithiwr ag eistedd lawr i'w ddarllen tra oedd y wedjen yn gwylio celeb BB (gallai'm sefyll y rhaglen, dwi'n dechre gweiddi ar y teledu, cal fy weindio fyny a fwy na thebyg mi fydda i a nghariad yn cael geiriau croes ynglyn a'r rhaglen). Ta beth, es i orwedd yn y stafell wely a dechre darllen y llyfyr bach yma mewn un eisteddiad. Mi odd e'n eithriadol o rwydd i'w ddarllen, di sgwennu ar ffurf dyddiadur ac yn olrhain hanes crwt yn i ugeiniau dros gyfnod o flwyddyn. Dyw e'm yn raenus o ran i arddull ond mi oedd y llyfyr yn foddion wedi'r diflastod o ddarllen Carnifal gan Robat Gruffudd dros Dolig. Ma'n dda cal gweld bod llyfre Cymraeg o'r fath ar gael, dwi'm yn un sy'n darllen lot o lyfre Cymraeg oherwydd gan amla pan dwi'n y llyfrgell mond llyfre antur/gwyddoniaeth neu hanes rhyw hen gymeriad o Sir Feirionydd dwi'n gallu ffeindio. Os oes gan unrhywun unrhyw lyfre y dylse fi ddarllen plis dewch a'ch cynigion.

Newydd gwglio'r teitl a ma na stori am fersiwn ffilm o'r llyfyr yma. Unrhywun di gweld y ffilm?

17/01/2005

The Ice Storm - Rick Moody

Ddarllenes i ddau lyfyr dros penwythnos y Dolig, co'r cyntaf a mi oedd e'n wych. Ma blynyddoedd ers i mi weld y ffilm a bach iawn 'yf i'n i gofio amdano fe ond dwi'n swir fod peth o'r llyfyr er i fod e'n reit fyr di dorri allan(dyw hynny'n gwneud dim gwahaniaeth i'r llyfyr na'r ffilm yn y diwedd - ma'r ddau'n wych). Ma'r llyfyr yn ddisgrifiadol gryf, ma fe'n rhwydd creu darlun meddyliol o swbwrbia America'r 70'au. Ma'r lleoliad yn reit Stepford Wives(yr hen fersiwn, dwi'm di gweld yr un newydd) a ma'r cymeriade'n rhai sy'n hawdd i'w cyd-nabod. Ma'n swir mod i di gwario gormod o amser yn gwylio teledu a ffilmie Americanaidd gan fod darlun twt rhwydd yn y mhen o'r stori. Hynt a helynt un 'maestref' (ai dyna'r gair am suburbia yn Gymraeg?) fwy neu lai - yn dilyn bywyd un teulu'n benodol a'u bywyd nhw mewn cymdeithas ddosbarth canol Americanaidd. Dwi'm am ddweud gormod ond ma'r llyfyr yn rhwydd i'w ddarllen, siwr o fod llyfyr i ddyn yw e mwy na dim ma na ddigon o rhyw, alcohol a marwolaeth, popeth sydd isie mewn llyfr. Dwi'n edrych ymlaen i ddarllen rhywbeth arall gan Moody nawr, oes rhywun di darllen Garden State?

Dwi dal yn fyw.

Credwch neu beidio ond dwi dal yn fyw. Dwi'm di sgwenu dim ar y blog ers amser. Mi oedd gwylie'r Dolig yn baradwys (wel y diwrnode wedi'r dathlu ta beth), bywyd syml adre, tywydd reit dda, gloddesta ar siocledi, palu yn yr ardd a yfed te tra'n gwylio'r adar yn dod am i brecwast. Do ni'm isie mynd yn ol i'r gwaith, ond dyna'n union y goffes i wneud. Gwnes i'm unrhyw addunedau ond dwi'n gweld fy hun yn troi'n debycach i Hugh Fernley-thingamajig leni(minus y gwallt hir). Dwi'n barod di hallti cig moch, a di dechre ar git cynhyrchu gwin ers dolig a ma na bolytunnel newydd di cyrraedd. Ma na lwythi o hadau cynnar di planu yn y ffram oer(wel, cwpwl o gratie Holsten Pils, siten o blastig a darne o wydr) a ma daffodils cynta'r flwyddyn a blannes i llynedd wedi torri'r wyneb a wedi blaguro. Os ych chi'n arddwr brwd neu hyd yn oed da sgwaryn concrit yn y ddinas ma'n siwr fod pelydrau cynnar y gwanwyn di dechre egino'r teimlad yna o dyfu rhywbeth eleni. Ma'r rhestr sydd gen i yn faith (dwi'm am geisio dechre rhestri beth sydd gen i i gyd) ond ma na lwyth o waith o mlaen i, dwi hyd yn oed am ddechre perllan - ma'r goeden afale gyntaf gen i'n barod - coeden draddodiadol Gymreig o ardal Llandovery - Twll Tin Gwydd, ond ma na fwy ar y ffordd - coeden seidr Morgan Sweet, afal 'russet' o stad Dinefwr - Marged Nicolas a llwyth o ddanteithion eraill(jyst rhag ofn ych bod chi'n edrych am goeden fale ma'r cwbwl lot gen i yn mynd i ddod o Feithrinfa Dolau-Hirion ger Llandeilo, ma nhw'n eithriadol o rhad tua £8 am goeden 'maiden' flwydd oed a ma'r dewis o afale Cymreig heb i ail). Dwi hyd yn oed am ordro dwy goeden truffles i'w plannu, mi gymrith rhyw saith mlynedd i'r truffles ddechre cynhyrchu ond ma'r syniad o gael funghi ffres o'r ardd yn hyfryd.