24/11/2006

Hey cowboy!



Dwi'n teimlo fel crwt bach direidus pum mlwydd oed ar hyn o bryd. Fe dreulies i awr fach yn gwneud y 'collage' yma allan o doriadau o gylchgrawn Hello. Pam y clywaf chi'n gofyn, wel mi oedd isie gwneud carden benblwydd arna i a dwi'n hollol sgint ar hyn o bryd felly co fi'n galw ar Dduwie Blue Peter i ddangos y ffordd i mi. Mi oedd na fwy y tu fewn hefyd (gan gynnwys Des Lynham mewn bikini, mmmm neis).

16/11/2006

Gŵr Drwg?



Ai fi yw'r ola i glywed am y stori yma am Meic Stevens?

14/11/2006

Tân i Tesco

Mi brynodd 'y nghariad y llyfr Shopped, i mi ar y Mhenblwydd. Llyfr wnes i fwynhau yn fawr ond llyfr ma hi'n dyfaru prynu i mi nawr. Sôn ma fe am bwer yr archfarchnadoedd mawrion a'r dulliau ma nhw'n ddefnyddio. Mi oedd e'n agoriad llygad mawr i fi - dwi'n un sy'n hoff iawn o'r ddefod o fynd i siopa am fwyd. Ma fe'n ffordd i fi 'de-stressio', cymryd fy amser gan edrych ar yr holl gynhyrch sydd ar gael. Rhai wsnose nôl fues i i Tesco yn Fforestfach, Abertawe, ma'r lle'n anferth. Daeth diwedd ar y carma siopa bwyd yn y fan a'r lle (dwi di bod yn y Tesco yma ddegau o weithiau o'r blaen ond mi ges i rhyw fath o epiffany). Mi adawes i'r fasged lawn yn y man a mas o'r siop a fi. Wsnos diwetha mi agorodd siôp enfawr newydd Tesco yng Nghaerfyrddin, hoelen arall yn arch y siopau bychain. Dwi am weld am ba hyd y galla i fynd heb orfod mynd ar gyfyl y siopau mawrion. Dwi di llwyddo yn reit dda hyd yn hyn. Ma hi'n reit anodd y dyddiau ma i siopa ond yn eich siopau lleol, yn enwedig gan y mod i di arfer gyda'r dewis eang sydd ar gael yn archfarchnadoedd. Hyd yn hyn ma pethau'n mynd yn dda - dwi di bod yn prynu da'r siôp fara leol a'r cigydd (er mi o ni'n gwneud hynny cyn nawr), ry ni'n byw ar lysiau cartre a mi brynes i lond bocs o afalu o berllan tra yn Worcester penwythnos diwetha. Mi fydd yn rhaid i mi fynd i archfarchnad rhywbryd, byse mond defnyddio rhywle fel y Co-op yn iawn, chi'n feddwl?

Arwerthiant!

Ma gan Threadless arwethiant $10 arall. Prynwch myn diain i!

02/11/2006

Llunie Newydd!!!



Ma llunie newydd o'r beudy gen i ar y nghyfri Fflicr i (o'r diwedd). Gaethon ni bach o ddamwen bore 'ma yn y garafan - fe aeth y boiler dŵr twym ar dân (dyna'r ail dân i ni gael yn y garafan o fewn 2 flynedd). Felly ma cwpwl o wsnose da ni nawr heb ddŵr twym - nôl i ferwi tegell a chael cawod oer tan fod y gwres a'r dŵr twym yn gweithio yn y tŷ. Dwi'n gweld ni'n symud fewn i un stafell yn y tŷ o fewn cwpwl o wsnose a byw yna'n gyfan gwbwl - ma'r nwy i fewn da ni a mond deuddydd sydd ar ôl gyda'r plymwr i weithio, ond does dim trydan gyda ni 'to - felly mi fydd cwpwl o wsnose i aros i'r golau weithio.

01/11/2006

Roy.



Ai fi yw'r unig un sy'n gweld y llun hwn bach yn scary? O Flog Aberdâr.

Tash-wedd

Penwythnos prysur, mi ddaeth 70m2 o lawr derw o gwmni Broadleaf. Cwmni lleol o Landybie y nhw, ond ma siope da nhw dros y lle. De Lloegr yn ôl y boi oedd yn dreifo'r fan sy'n prynu'r rhan fwyaf o'r stoc. Chi'n gwbod yr hen stori fod Cymru yn lle bach iawn, wel wedi cael chat dros baned ffindes i mas bod y boi oedd yn dreifo'r fan yn gyn ŵr i ail gefnither i fi - ma'r wlad fach yma yn fach iawn bobols.



Reit te, des i ar draws gwefan Movember drwy flog Afe. Tase bo dim crop da barfgoch gen i ar yn wep i base fi'n trial y ngore i dyfu mwstash ar ran elusen 'fyd. Fel lot o ni'r dynion soi'n un am fynd at y doctor pan bo fi'n dost, ma'n well da fi gario mlaen gan feddwl y bydd popeth yn iawn o fewn cwpwl o ddiwrnode. Ar yr adegau pan i fi yn mynd at y doctor ma'n rhaid bod rhywbeth mawr o'i le. Ma'r un peth yn mynd am unrhyw ddolur sydd bach yn embarassing - yn wahanol i rai o'm ffrindie dwi'm y mwya cyfforddus yn siarad am unrhyw brobleme personol(yn enwedig megis STD/STI's neu tsieco'ch hunan mas).