13/07/2005

[Peidiwch] Drink Coca Cola



Ma ffotograffydd o India yn gwynebu achos llys wedi iddo arddangos un o'i lunie sy'n codi ymwybyddiaeth o brinder dŵr yn yr ardal lle ma ffatri Coca Cola yn Chennai, India. Ma'r byd ma'n crackers, na'i gyd y galla i ddweud. Ma gwefan y ffotograffydd, Sharad Haskar yn werth i'w weld, ma'r llun Coke yn rhan o gyfres, ma'r un Nike a'r un Colgate yn wych.

Ers blynyddoedd dwi di bod yn gaeth i Coke, ma nanedd i a mola i di i heffeithio'n arw ond rhyw ddeufis yn ôl mi gwples i yfed diodydd 'fizzy' yn gyfan gwbwl (heblaw am lemonade yn ambell shandy). I ddweud y gwir dwi'm yn i colli rhyw lawer a di dechre cael mwy o flas ar ffrwythe yn enwedig ers i mi gwpla'i hyfed nhw.

Stori Yma

Gwefan Sharad Haskar

1 comment:

cridlyn said...

Weles i Mark Thomas gwpwl o fisoedd nol yn y Sherman, lle nath e sioe am Coke. Yn ol y son, mae'n cymryd tua tair, pedair gwaith cymaint o ddwr ag sydd mewn can o Coke i'w gynhyrchu. Mae'n hawdd gweld y gwrthdaro economaidd, amgylcheddol ac ati yn y llefydd maen nhw. Ond mae'n haws gweithredu yn erbyn Coke yn India nag yw hi yng Ngholombia. Fe gewch chi'ch llofruddio yng Ngholombia, gyda chefnogaeth UDA (Cheney, fi'n credu, yn gyn-lywydd Coke; Rumsfeld yn gyn-lywydd Pepsi).

Mae'n hawdd osgoi'u diodydd nhw yn y gaeaf, ond yn yr haf, mae chwant Sprite yn codi arna' i. O diar. Rhaid. Ymwrthod.