03/01/2006

Bah Humbug, daeth na ddiwedd ar y dathlu.



Wel daeth 'Dolig i ben, a mi ges arlwy o anrhegion hyfryd. Mond £20 yr un oedd y nghariad a finne i fod i wario ar ein gilydd er mwyn cadw gymaint o arian a oedd yn bosib at y gwaith adeiladu. Cyfraniad tuag at lawr llechi newydd i'r gegin oedd ein prif hanrheg gan y teulu, llechi o Tseina ma'n siwr, mi gare ni gael rhai Cymreig ond ma'r gost mor uffernol o uchel. Fuodd tridie wedi 'Dolig yn hunllefus o oer yn y garafan, fe rewodd y dŵr yn gorn am ddeuddydd felly bant a ni'n dau am gwpwl o ddiwrnode i aros mewn bwthyn ffrind oedd wedi mynd i'r Amerig i dreulio'r Nadolig da'i bartner. Gaethon ni amser gwych, teledu lloeren, soffa foethus, bath!, cegin gyda phob math o declyne modern, tân agored a gwres canolog. Ry ni'n dau yn ysu i symud i fewn i'n beudy bach ni nawr ond ma'n swir fydd na chwe mis a mwy tan y cawn ni wneud hynny. Diwrnod cynta nôl yn y gwaith heddi 'fyd a ma'r gwres canolog wedi torri unwaith yn rhagor, dwi'n gwisgo tair cot yn y swyddfa ar hyn o bryd a ma teipio tra'n gwisgo menyg yn dra anodd.



Fe gaethon ni ginio 'Dolig ffantastig, arlwy o fwyd, daeth fy rhieni i aros gyda fy Wncwl sy'n byw gyferbyn a ni a mi aeth fy nghariad a finne i fyny atyn nhw am ginio. Y fi goginiodd y twrci a'r tatws/panas/moron rhost yn ein ail ffwrn sydd yn yr hen barlwr godro. Fuon ni'n ddigon ffodus i gael ffwrn lydan am ddim gan ffrind oedd yn symud tŷ, ma'r ffwrn wedi bod yn eistedd yn yr hen barlwr ymysg y cwde sement a'r holl dools adeiladu o dan darpoulin tan wsnos 'Dolig. Dwi'n dda/gwael (?) am gasglu pethe a chael pethe am ddim, mi oedd ymuno a Freecycle llynedd yn gam dŵl, ma'n carafan ni'n llawn dop, fy hen stafell yn nhŷ fy rhieni yn llawn bocsys, stafell sbar rhieni fy nghariad yn llawn celfi a garej i chwaer hi hefyd yn dal ein trigareddau. Mi fydd yn rhaid gwneud sêl cist car yn y Gwanwyn i leihau ar yr holl stwff.

Dwi'm yn un sy'n ffan o'r Flwyddyn Newydd fel arfer ond eleni mi oedd pethe i fod yn wahanol, y bwriad oedd mynd i aros gyda ffrindie yn Belgravia (ie posh dwi'n gwbod), ond yn anffodus mi oedd yn rhaid iddyn nhw weithio'r Flwyddyn Newydd. Felly noswaith dawel eithriadol, ymlacio, gloddesta a'r greision a chnau, yfed gwin drud, cwpwl o wydre o calvados a noswaith gomedi ar Paramount Comedy. Oedd, mi oedd hi'n noswaith dawel iawn ond mi enjoies i fy hun. Llynedd fuon ni i barti anferth mewn commune (oedd yn wych) felly mi oedd eleni bach yn wahanol.

Yr un addunedau dwi'n wneud bob blwyddyn - colli pwysau, yfed llai, cynilo mwy. Ond eleni ma gen i gwpwl mwy. Dwi am fod yn fwy gwyrdd. Does dim bocsys na chwde ailgylchu ar gael i ni, ma'r daith o ddwy filltir o'r hewl fawr yn ormod i'r fan ailgylchu yn ôl y cyngor! Felly ma popeth yn gorfod cael i gadw a'i garto i'r bins ailgylchu agosa. I fod yn hollol onest dwi'm yr un gore yn cadw pethe. Dwi'n cadw papur a gwydr ond anaml iawn dwi'n cadw tins/cans. Does dim bin ailgylchu plastig yn agos atom yn anffodus felly plastig fydd y mwyafrif o'r sbwriel yn ein cwde du arferol. Dwi'n compostio llwyth o bethe'n barod ond ambell waith ma na goffi, cwde tê neu bilyn tatws yn ffeindio i ffordd i'r bin sbwriel, wel eleni ma popeth yn mynd i gael i gompostio. Dwi'n benderfynnol hefyd o fwyta yn fwy iach h.y. dim bwyd wedi i brosesu (ambell noswaith pan dwi di blino ma'n rhwydd estyn am bitsa neu sglodion ffwrn sydd di guddio yng nghefn y rhewgell, wel dim mwy). Cynhwysion ffres, bwyd lleol a mwy o fwyd organig lle ma hi'n bosib (a sydd ddim yn rhy drwm ar y boced). Dwi hefyd am ddechre busnes, dyw fy swydd heb fod yn saff ers amser felly dwi a nghariad am ddechre cwmni o'r beudy newydd - cwmni organig/moesol o ryw fath - bwyd neu ddillad/deunyddie cartref ma'n swir ond ma isie i ni gymryd saib a sgwennu cynllun busnes a dechre ar y fenter.

Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd (h.y. os oes rhywun yn darllun heblaw am Mam).

3 comments:

dros said...

blwyddyn newydd dda! -ma'n swnio fel tae pethe'n mynd i fod yn reit gyffrous gen ti am yn 12 mis nesa...

Anonymous said...

O ran llechi - os wy ti ishe rhai Cymreig...fi'n gwbo ffordd o ga'l gaf'el ar rhai chep ar y diawl!

Chicken Legs, Twm and The Kid said...

Iesu, odi'r llechi ma off gwt lorri?