
Gan fod Nwdls a finne bellach yn ddau twitcher dwi penderfynnu postio llun o'r ymwelydd mwya aml at ein bwrdd adar ni, Delor y Cnau(Nuthatch). Bwli yw e i ddweud y gwir, ar un adeg mi oedd na lwythi o Ditw Tomos Las yn dod i'r bwrdd adar i fwyta, bellach ma'r creadur bach yma'n ymladd da unrhywun sy'n dod ar gyfyl y bwrdd.
1 comment:
Da ni'n dechrau cael y broblem yna. Blydi pla o Ddrudwenod a thri Jac Y Do yn bwyta bob dim dan haul. Mae'r Deryn y To yn cwffio ei gongl hefyd.
Pan gychwynais i roi bwyd allan roedd tua 5 Titw ar hyd y lle, rwan dwi mond yn gweld un ar y tro a hwnnw'n cael ei hel oddi yno'n syth. Mae'r Fronfraith a'r par o Fwyalchod dal i ddod serch yr holl scavs yn ciwio mewn rhes yn y goeden fala.
Post a Comment