16/01/2006

Byrgyrs



Wsnos diwetha, fe wnaeth Chris bostio rysait byrgyrs i ffrind e Jim. Dros y penwythnos fe lwyddes i ddod rownd i dreual y rysait. Mi oedd yn rhaid gwneud bach o waith ditectif cyn dechre ar y coginio - ma cyfarwyddiade Jim yn reit fanwl ond doedd popeth ar y restr ddim yn gyfarwydd. American Cheese? - wel caws arferol ddefnyddies i, Montreal Steak Rub - wedi googlo fe ddes i o hyd i'r rysait (dwi'm yn cofio'n iawn beth oedd ynddo fe ond mi oedd na halen môr, pupur du, hadau coriander, dill, pupur cayenne a paprika). Mi oedd y byrgyrs yn llwydiannus dros ben - yn eithriadol o flasus a heb fod yn sych o gwbl. Mi oedd y mayonnaise ar y darn gwaelod o'r bara yn gweithio'n dda iawn a blas y mwstard a'r saws 'Worcestershire' yn gweddi'n berffaith i'r cig. Dwi'm yn meddwl y bydda i yn gwneud rhyw lawer o rhain gwaetha'r modd, neu mi fydd y nghalon fach i'n pallu, ond ma'n dda i gael gwbod bod rysait dda 'da fi o hyn ymlaen i wneud byrgyrs cartref. Diolch Chris a diolch Jim.

1 comment:

Chris Cope said...

Ha. Fe fydd Jim yn mor hapus i gweld bod rhywun wedi geisio ei rysait, dw i'n sicr. Dw i'n falch i clywed dy fod ti wedi mwynhau!