
Dwi'n teimlo fel crwt bach direidus pum mlwydd oed ar hyn o bryd. Fe dreulies i awr fach yn gwneud y 'collage' yma allan o doriadau o gylchgrawn Hello. Pam y clywaf chi'n gofyn, wel mi oedd isie gwneud carden benblwydd arna i a dwi'n hollol sgint ar hyn o bryd felly co fi'n galw ar Dduwie Blue Peter i ddangos y ffordd i mi. Mi oedd na fwy y tu fewn hefyd (gan gynnwys Des Lynham mewn bikini, mmmm neis).
1 comment:
Hey, cowboi: Dwi eisau un fel hyn ar fy mhenblwydd i, plis. Mis Ionawr, yr ail. Ta.
MIP
Post a Comment