10/04/2006

Neidr yn ein mysg.



Dwi'n casau nadredd, ond fues i'n ddigon dewr i dynnu llun hon ddoe a hefyd i'w pigo hi lan a'i rhoi hi mewn twb bach plastig. Ma cof gen i o chwarae pel droed gyda hen groen neidr wedi i chlymu i fyny pan yn blentyn, ma nhw ym mhobman ar y fferm (gwiberod a'r neidr dorchog). Dwi'm yn siwr beth dwi'm yn hoffi amdanyn nhw i ddweud y gwir, rhywbeth diweddar yw e - ma Mam yn i casau nhw, mi o nhw'n arfer dod i mewn i'r tŷ pan oedd hi yn i harddegau. Buodd hi bron a chael i chnoi gan wiber unwaith. Mi oedd y Nhadcu yn torri coed yn y sgubor a co fe'n clywed sgrech - ma fe'n rhedeg i'r tŷ(gyda'r fwyell yn i law) a'n torri pen gwiber anferth oedd di ymgartrefi ym mharlwr y tŷ.

Gaeaf diwetha ffeindion ni weddillion neidr dorchog oedd tua tair trodfedd o hyd - mi o ni di lladd hi drwy ddamwain drwy yrru'r tractor dros i phen hi. Dim ond gobeithio ffeindia i ddim mwy.

2 comments:

Nwdls said...

Waw, ffantastic. Dwi rioed wedi gweld neidr sy'n frodorol i Gymru. Faswn i wrth fy modd yn gweld un.

Nodyn bach twitsiog i ti, aderyn newydd yn yr ardd ddoe! Ysguthan hardd.

Anonymous said...

Fi'n cofio gweld lot o nadredd g'tre pan o'n i'n dwtyn a cofio Dad yn lladd un mas y bac 'da'i raw. 'na'th e jobyn teidi 'fyd - torri fe'n dair rhan. Gwd job Father!