11/03/2005

Ffermwyr Arlein!

Newydd fod yn gwglio am rhywbeth a mi ddath na ateb obsciwyr i fyny yn y rhestr - negesfwrdd Cymraeg Clwb Ffermwyr Ifanc. Dwi di bod yn pori(he he, sori)am rhyw ddeng munud a ma fe'n ymddangos taw ond un peth sydd ar feddwl FfI Cymru - rhyw. A nawr ma modd cyfarfod fyny ar y we!

Fforwm Clwb Ffermwyr Ifanc

3 comments:

Nwdls said...

Ie, weles i hwn chydig bach yn ol, heblaw am yr holl sbam mae'n ffycin hileriys!

Rhys Wynne said...

Peidiwch a bod mor snobyddlyd wir dduw! Cyfle gwych i mi ail gydio yn fy ngwreiddiau amaethyddol

Nwdls said...

Aa, nid bod yn snobyddlyd ydw i wir sdi, jest deud fod y fforwm sy'n hollol seiliedig ar shags nesaf Mari Cae Twrch Isa a Ifan Hafod yr Hwch yn ddoniol ar y naw.

Sylwer fy mod yn hel atgofion melys o'r hen CFfI yn fy mlog i o'r un wefan...mae gen inna wreiddia amaethyddol hefyd ac yn falch iawn o wbod y gwahaniaeth rhwng mogan a maharan!