04/03/2005

Luther Burger neu Hamdog?



Dwi'n reit ffond o 'fyrgyrs' ma'n rhaid dweud(ddim y math Mc Donald's/Burger King y rhai iawn di wneud allan o gig dwi'n i lico) ond pan weles i'r stori yma am y Luther Burger mi wnath e droi'n stumog i. Yn ol y son y canwr Luther Vandross wnath ddyfeisio'r byrgyr, dodd dim bara ar ol da fe yn y ty felly fe wnath e ddefnyddio dwy donut yn lle i ddal y byrgyr, hollo afiach. Ond yn ogystal a hynny ma'r siop sydd bellach yn gwerthu'r 'Luther Burger' hefyd yn gwneud Hamdogs sef hotdog di lapio mewn byrgyr a di ffrio (linc ar waelod y post). Ma na rywbeth eitha Homer Simpsonaidd am y bwyd yma, mmmm deep fried yummy goodness. Ma fe'n biti mawr fod pobol dros y byd i gyd ac nid dim ond yn America yn troi i cefn ar brydie traddodiadol gwerinol neu hyd yn oed bwyd ffres ac yn mynd fwy fwy at fwyd wedi i brosesi. Mi o ni'n hollol syfrdan y nosweth o'r blaen yn gwylio Jamie's Kitchen a dodd y plant ddim yn gwybod beth oedd enwe llysie gwahanol(hyd yn oed taten), a'r fam yn mynd i siopa a erioed di gweld basil o'r blaen? Be ffwc? Flin bo fi'n cael winj ond dwi ynghanol darllen 'A Year in Provence', brynes mewn car bootie am 10c wsnos ma a dwi'n gorfod cadw copi o French Provincial Cooking - Elizabeth David wrth y gwely er mwyn gwbod yn union beth yw pob pryd ma nhw'n fwyta. Dyna'r math o fwyd dwi am weld pobol yn bwyta, cynhwysion da, cynhwysion ffres/yn i tymor a bwyd sy'n flasus heb fod yn ffysi. Diwedd rant, diolch am wrando.

3 comments:

Rhys Wynne said...

Weles i rhaglen Jamie ne heffyd, digon brawychus. Mae'r pobl dwi'n weithio gyda yn yfed coke pob dydd (Diet Coke wrth gwrs) a prydau parod a'r archfarchnad. A snacio ar bisgedi a teisennau (healthy choice) trwy'r pnawn, ac yna methu dallt pam eu bod mor dew. Grrr

Chicken Legs, Twm and The Kid said...

Wel dwi'n dew 'fyd ond nid blydi teisene 'healthy eating' sydd i'w beio ond cynhwysion da - menyn, olew, llaeth fferm, cig bras ac ati. Oleua mod i'n lladd fy hun yn araf mewn steil. Ond ma'n rhaid i fi ddweud mod i yn hollol hooked ar Coke - neu unrhywbeth gyda Caffeine ynddo fe.

cridlyn said...

Ie, o leia' mod i'n gwbod mai menyn, olew olewydd, cig free range JT Morgan's a gwin coch sy'n 'y ngwneud i'n dew, nid KFC a McDonalds. Mae 'na ryw fath o gysur yn hynna.