01/09/2005

Dwi'n wir 'white trash' nawr.



Neithiwr fues i mas yn saethu, dwi'm yn rhy hoff o ynne o gwbl, ma nhw mor beryglus. Ma dryll .22 da fi, anrheg 'Dolig yn bymtheg mlwydd oed ond dyw hwnna ddim yn yr un cae a shotgun. Mi oedd cymydog di bod ar spending spree bach wsnos hyn, mi oedd e di prynu dau ddryll - Beretta twelve bore newydd(gweler y llun) a hen wn double barrel four-ten. Er y mod i'm yn hoff o saethu fues i allan am awr fach yn saethu dau llond bocs o getrys at hen dins paent, bwcedi a hen ddrws. Ma'n rhaid dweud y mod i'n teimlo'n rêl hic nawr, mi oedd y nghymydog hyd yn oed di bod allan yn saethu wiwerod yr un dydd. Bob diwrnod, dwi'n cymryd cam yn nes at fod yn rhan o fywyd run fath a'r ffilm Deliverance. Ma tymor saethu hwyaid yn dechre mis hyn...

5 comments:

Rhys Wynne said...

Dwi gyda agwedd tebyg tuag at ynnau hefyd, ond treuliais i ddydd gyda cyn-gydwieithwr (oedd arfer bod yn y fyddin a sydd wrth ei fodd yn hela cwningod a physgota) yn saethu hen degannau plant ar ryw hen chwarel uwchben Aberdâr - sôn am hwyl.

Nwdls said...

Gei di banjo a het wellt dyllog gen i 'dolig os tisio (cyn belled mod i'n cael go ar saethu wiwar, neu fran ne ddwy...)

Chicken Legs, Twm and The Kid said...

Rhodri, dyw ma hynny'n swnio fel dêl dda, banjo am gael saethu gwiwerod! Dwi di dysgu chwarae'r tiwn 'dualing banjos' yn barod ar y gitar a mi fues i'n cael shot arni ar fanjo yn un o siope cerddoriaeth Caerfyrddin yn ddiweddar 'fyd. Reit te bois dwi bant i gynnu'r barbeciw i goginio'r wiwerod.

Anonymous said...

Sai'n deall. Te gwn 'da fi, elen i mas bob nos i hela 'an.

Ti di clywed son am y bachan o Gonwil sy' di treino moch daear i neud yr hela? Machine!

Anonymous said...

Great blog you have. I have a site about banjo tablature for dueling banjos. You can check it out at banjo tablature for dueling banjos