
Fe lwyddes i fynd am drip bach cloi lan i Mach wsnos diwetha a chal treulio diwrnod da yn ymweld â'r Ganolfan Decholeg Amgen. Trip reit bleserus, y peth ddysges i fwyaf oedd i fynd wedi penwythnos y Pasg pan ma'r tren bach yn cludo pobl i fyny i'r safle yn hytrach na cherdded i fyny'r heol fach serth y gorfu i mi a Nhad wneud (wedi dau ddiwrnod o balu mi wnath y bryn bron a'm lladd i). Dysges i ddigon am sut i gynhyrchu compost da, sut i dorri lawr a'r wastraffu egni a cwpwl o dips ynglyn ag ail-gylchu ond siom oedd y ganolfan yn rhannol - mi oedd na li o wybodaeth ynglyn â thechnoleg wyrdd (solar, gwynt, dwr ac ati) ond doedd fawr iawn oedd yn berthnasol i fi fel rhywun oedd yn edrych am dips i'r cartre (h.y. ma isie agor ffynnon newydd arna i a mi fyse fe'n dda gallu defnyddio dull gwyrdd o gynhyrchu trydan/pwmpio'r dwr ond mi oedd y rhan fwyaf o'r wybodaeth ar raddfa oedd lot yn rhy fawr i fi). Ond, y peth gore ges i mas o'r diwrnod oedd llyfyr yn y siop(siop dda iawn i ddweud y gwir, yn enwedig o ran llyfre). Brynes i gopi o Country Wisdom Almanac and Know-how: Everything You Need to Know to Live Off the Land, cyhoeddiad gwreiddiol gan Lyfre Storey o daflenni gwybodaeth yn sôn am bopeth o flingo cwningen i sbaddu mochyn, o blannu gardd at goginio risotto pwmpen. Ma fe'n debyg iawn i'r beibl hunan gynhaliol gan John Seymour ond taw amalgam o erthygle Americanaidd i nhw yn hytrach na gwaith a gwybodaeth/profiad gan un awdur. Os oes twtsh o'r Good Life yn perthyn i'ch bywyd ma'r llyfyr yma'n hanfodol. Rhaid i fi fynd, dwi bant i bractisio sut i sbaddu mochyn.