20/01/2005

Aberystwyth Mon Amour - Malcolm Pryce



Diolch byth am annwyd weda i. Neithiwr wedi cyrraedd adre o'r gwaith fe es i'n syth i ngwely gyda chwpaned o Lemsip, llwyth o hancesi a llyfyr. Ddarllenes i'r llyfyr fwy neu lai mewn un eisteddiad a mi oedd e'n gret. Stori dditectif di selio yn Aber yw hi, ma hi'n llawn o'r cliches Cymraeg arferol ond ma nhw'n ddoniol i'w darllen. Ma'r arddull yn draddodiadol 'Chandleresque' ac er dwi'm yn ffan o'r math yna o storie yn arferol ma hi'n ddigon ysgafn i'w darllen. Dyw'r llyfyr ddim at ddant pawb, ma ffrind yn Aber yn casau'r llyfyr ond mi o ni'n i weld e'n llawn hiwmor. Dwi di gweld y llyfyr yn aml ar silff y llyfrgell ac yn y siope llyfre ond dwi'm di bigo fe fyny tan ddechre'r wsnos pan y gweles i fe yn siop elusen yng Nghaerfyrddin. Ges i fargen - Aberystwyth Mon Amour, Morvern Callar(dwi'm yn cofio'r awdur ond ma'r ferswin ffilm yn reit dda), Sheepshaggers - Niall Griffiths a In Cold Blood - Truman Capote am deirpunt. Dwi'm yn siwr beth i ddarllen nesa, dwi'n dal i fynd drwy arlwy llyfrgelloedd Sir Gar o lyfre coginio - dau lyfyr da diweddar Afghan Food and Cookery - Helen Saberi(GWYCH) a Modern British Food - Sybil Kapoor (reit dda).

1 comment:

cridlyn said...

Fe ddarllenes i'r llyfr yn go glou hefyd - mewn cyfnod o lai na 24 awr fi'n credu. Nofel dda, ond mae'n dibynnu'n ormodol ar un joc, sef gosod nofel Chandleraidd mewn cyd-destun Cymreig. Fe dria i ddarllen y llall rhywbryd, sef... ymmm... Last Tango in Aberystwyth.