17/01/2005

Dwi dal yn fyw.

Credwch neu beidio ond dwi dal yn fyw. Dwi'm di sgwenu dim ar y blog ers amser. Mi oedd gwylie'r Dolig yn baradwys (wel y diwrnode wedi'r dathlu ta beth), bywyd syml adre, tywydd reit dda, gloddesta ar siocledi, palu yn yr ardd a yfed te tra'n gwylio'r adar yn dod am i brecwast. Do ni'm isie mynd yn ol i'r gwaith, ond dyna'n union y goffes i wneud. Gwnes i'm unrhyw addunedau ond dwi'n gweld fy hun yn troi'n debycach i Hugh Fernley-thingamajig leni(minus y gwallt hir). Dwi'n barod di hallti cig moch, a di dechre ar git cynhyrchu gwin ers dolig a ma na bolytunnel newydd di cyrraedd. Ma na lwythi o hadau cynnar di planu yn y ffram oer(wel, cwpwl o gratie Holsten Pils, siten o blastig a darne o wydr) a ma daffodils cynta'r flwyddyn a blannes i llynedd wedi torri'r wyneb a wedi blaguro. Os ych chi'n arddwr brwd neu hyd yn oed da sgwaryn concrit yn y ddinas ma'n siwr fod pelydrau cynnar y gwanwyn di dechre egino'r teimlad yna o dyfu rhywbeth eleni. Ma'r rhestr sydd gen i yn faith (dwi'm am geisio dechre rhestri beth sydd gen i i gyd) ond ma na lwyth o waith o mlaen i, dwi hyd yn oed am ddechre perllan - ma'r goeden afale gyntaf gen i'n barod - coeden draddodiadol Gymreig o ardal Llandovery - Twll Tin Gwydd, ond ma na fwy ar y ffordd - coeden seidr Morgan Sweet, afal 'russet' o stad Dinefwr - Marged Nicolas a llwyth o ddanteithion eraill(jyst rhag ofn ych bod chi'n edrych am goeden fale ma'r cwbwl lot gen i yn mynd i ddod o Feithrinfa Dolau-Hirion ger Llandeilo, ma nhw'n eithriadol o rhad tua £8 am goeden 'maiden' flwydd oed a ma'r dewis o afale Cymreig heb i ail). Dwi hyd yn oed am ordro dwy goeden truffles i'w plannu, mi gymrith rhyw saith mlynedd i'r truffles ddechre cynhyrchu ond ma'r syniad o gael funghi ffres o'r ardd yn hyfryd.

No comments: