07/02/2005

Dawnsio yng Nghaerdydd

Wel am wsnos brysur, nosweth mas yng Nghaerdydd i Pictiwrs, trip cloi i briodas yn Llunden Ddydd Mercher a diwrnod i'w gofio Ddydd Sadwrn gyda'r gem. Dwi di llwyr ymladd, bai y cibab ges i nos Sadwrn yw e yn fy marn i nid y 10 peint a'r lli o shots fues i'n yfed. Dwi'n edrych mlan yn fawr nawr at benwythnos nesa, gem fach yn erbyn yr Eidal a cyfle i ddal lan ar y cwsg. Neis oedd cal mynd i Glwb Ifor Bach i wylio'r gem Ddydd Sadwrn unweth yn rhagor, y tro diwetha fues i na i weld gem oedd 1999 yn erbyn Lloegr! Gan y mod i di bod yn y ddinas ddrwg gyment wsnos ma dwi am bostio cerdd fach ddifyr o lyfr 'Cerddi Caerdydd'.

Rhaid Peidio Dawnsio Yng Nghaerdydd

Rhaid peidio dawnsio yng Nghaerdydd
rhwng wyth a deg y bore:
mae camerau yr Heddlu Cudd
a'r Cyngor am y gore
yn edrych mas i weld pwy sydd
yn beiddio torri'r rheol
na chaiff neb ddawnsio yng Nghaerdydd
ar stryd na pharc na heol.

Mae dawnsio wedi deg o'r gloch
yn weithred a gyfyngir
i gwarter awr mewn 'sgidiau coch
mewn mannau lle'r hybryngir
y dawnswyr iddynt foch ym moch,
heb oddef stranc na neidio,
ac erbyn un ar ddeg or gloch
rhaid i bob dawnsio beidio.

Ond ambell Chwefror ar ddydd Iau,
pan fydd y niwl a'r barrug
yn fwgwd am y camerau
fel bo'r swyddogion sarrug
yn swatio'n gynnes yn eu ffau
gan ddal diodydd poethion
mae'r stryd yn llawn o naw tan ddau
o ddawns y sodlau noethion

Emyr Lewis

No comments: