18/01/2005

Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw - Owain Meredith

Fues i'r llyfrgell neithiwr i dalu'r ffeins am y llyfre odd da fi mas dros 'Dolig a mwriad i heddi oedd sgwennu am rai o'r llyfre wnes i ddarllen dros y gwylie, ond dyw hynny ddim i fod. Fe ges i DHMH allan neithiwr ag eistedd lawr i'w ddarllen tra oedd y wedjen yn gwylio celeb BB (gallai'm sefyll y rhaglen, dwi'n dechre gweiddi ar y teledu, cal fy weindio fyny a fwy na thebyg mi fydda i a nghariad yn cael geiriau croes ynglyn a'r rhaglen). Ta beth, es i orwedd yn y stafell wely a dechre darllen y llyfyr bach yma mewn un eisteddiad. Mi odd e'n eithriadol o rwydd i'w ddarllen, di sgwennu ar ffurf dyddiadur ac yn olrhain hanes crwt yn i ugeiniau dros gyfnod o flwyddyn. Dyw e'm yn raenus o ran i arddull ond mi oedd y llyfyr yn foddion wedi'r diflastod o ddarllen Carnifal gan Robat Gruffudd dros Dolig. Ma'n dda cal gweld bod llyfre Cymraeg o'r fath ar gael, dwi'm yn un sy'n darllen lot o lyfre Cymraeg oherwydd gan amla pan dwi'n y llyfrgell mond llyfre antur/gwyddoniaeth neu hanes rhyw hen gymeriad o Sir Feirionydd dwi'n gallu ffeindio. Os oes gan unrhywun unrhyw lyfre y dylse fi ddarllen plis dewch a'ch cynigion.

Newydd gwglio'r teitl a ma na stori am fersiwn ffilm o'r llyfyr yma. Unrhywun di gweld y ffilm?

2 comments:

Anonymous said...

Ie, roedd y ffilm yn ymdrech i wneud ffilm "Dogme 95" yn Gymraeg. Faswn i'n hoffi ei gweld hi eto a deud y gwir i gael rhoi ail-werthusiad iddi.

Roedd hi'n ok, ond mae'r ad-libio yn mynd yn rhy bell weithiau a ti jest yn ymwybodol taw actio mae'n nhw. Hefyd mae yna SERIOUS gorddefnydd o ganeuon Super Furries. Rhaid bo nhw di cael free reign ar y leisans achos mae fath "piped music" drwy'r holl ffilm. Annoying iawn.

Ta waeth - llyfrau - os am un ysganf ti di darllen Dyddiadur Y Dyn Dwad? Clasur ddoniol am foi o Gaernarfon yn symud i Gaerdydd yn y 70'au cynnar. MAe'r sequel yn dda hefyd "Un Peth Di Priodi Peth Arall Di Byw".

Ym, mae Dial Yr Hanner brawd yn oce am fatha llyfr serial killer Cymraeg lle mae'r boi yn lladd cyfryngis ac ati.

Toodle indeed.

Chicken Legs, Twm and The Kid said...

Ma'r llyfyr am ladd cyfryngis yn swnion ddiddorol, diolch am y cynigion. Ynglyn a'r gor-ddefnydd o'r SFA dwi'n siwr fod awdur y llyfyr yn perthyn i Gruff rhyw ffordd(peidiwch cwotio fi ar hynny 'tho).