08/09/2005

Malls of America



Malls of America

Newydd ddod ar draws blog - Malls of America, 'casgliad o lunie o'r malls coll o'r 60'au ar 70'au' yw'r wefan yn ôl disgrifiad yr awdur. Ma'r llunie'n wych - dwi'n hoff iawn o hen gardie post, yn enwedig rhai diflas. Yr un math o lunie i nhw a sydd yn y llyfre Boring Postcards a olygwyd gan y ffotograffydd Martin Parr. Mi oedd Parr yn bach o arwr i mi pan o ni'n dechre mas fel ffotograffydd, ond wedi i gyfarfod e cwpwl o weithie a chal trafod i waith ffotograffiaeth e ma fe'n llai o Dduw ffotograffig bellach. Ma'n werth cal pip ar i wefan e - ddechreuodd e fel ffotograffydd yn Butlin's yn i arddege a ma fe bellach yn agos at y ffotograffydd mwya cyfoethog ym Mhrydain. Fe guradodd e arddangosfa o gardie post o Butlins 'fyd gan y ffotograffydd John Hinde, sy'n werth i gweld.

Gol: Clicwch ar links y boi ar i flog - Old Haunts a Santa & Me, hen lunie o 'Dolig a Nos Galan Gaeaf - dwi'n ffan mawr o ffotograffiaeth bersonol, y syniad o'r snapshot ac o 'found photographs', ma gen i gasgliad reit fawr fy hun o lunie dwi di prynu mewn siope ail law. Pan fydd cartref solid gen i, yn hytrach na'r garafan dwi'n siwr o ddechre gwefan i bostio llunie felly.

2 comments:

Chris Cope said...

Dw i'n byw ger Southdale y mal cyntaf yn yr UDA gyda air conditioning. Ac, wrth gwrs, dw i'n byw ger i Y Mall of America -- y mal mwyaf yn yr wlad.

dros said...

ma gan un o'n ffrindiau gorau fi knack llwyr am ddod o hyd i hen luniau passport ar y stryd à la "Amélie": yr unig lun i fi ffeindio ydi hwn - roedd o ar fy ffôn, ddo!

on: mae found magazine yn le braf i dreulio sbel yn pori.