10/10/2004

White Trash.

Dwi ffwrdd am wsnos, yn symud ty i ddweud y gwir, wel ddim cweit, dwi'n symud i garafan statig. Am ddechre y gwaith o ail adeiladu 'sgubor ymhen rhai wsnose felly ma wsnos gen i i dacluso'r hen dy dwi di bod ynddo am flwyddyn ac i wneud y garafan yn gartrefol glyd am y flwyddyn nesa. Dim gwe yn y cartre newydd gwaetha'r modd, wel ddim yn syth ta beth. Bydd yn rhaid i mi ddidanu fy hun da dwy dvd newydd La Haine a Goonies er dwi di cal e-bost i ddweud bod problem da'r dvd Goonies, rhaid i hanfon nol at Warner Bros i gal y disg iawn, bygyr, rhaid aros am rhai wsnose 'to cyn gwylio. Dim yn ffer! Galla i'm aros am biti fan hyn, ma wiwerod da fi saethu a ma'n rhaid i fi gysgu gyda'm chwaer ddwyweth heno, ma repiwtesiwn trailer trash da fi gadw fyny!

3 comments:

Bratiaith said...

Mae bod yn trêlyr trash yn cwl erbyn hyn. Wyt ti'n rapiwr hefyd?
;0)

Rhys Wynne said...

Swnio fel bod cyfnod cyffrous (ac oer, damp a cramped ;-)) o dy flaen. Beth am bostio lluniau o wahanol 'stages' trawsffurfiad y beudy(?) i gartref ar y blog (os ti'n llwyddo cysylltu â'r we)?

Chicken Legs, Twm and The Kid said...

Bratiaith, fydda i byth yn rapiwr, dim blydi tsians. Dos dim rhythym gen i ta beth, dwi yn fy ugeinie ac yn dawnsio fel y Nhad yn barod. Trist iawn. Rhys, wedi cymryd dy gyngor, ma'r llun cynta di bostio. Diolch.