25/10/2004

Tawelwch Llethol.

Heb flogio am wsnos a dos braidd dim gen i ddweud. Ers ein bod ni yn y garafan ma'r hen deli bocs di bod yn ddistaw er bod bocs digidol da ni'n gwmni bellach. Mi dapes i ffilm dros y penwythnos ond heb i gweld hi 'to felly mi fydd amser tan i fi flogio am Gummo. Dwi'n troi'n rel ffarmwr, fe fues yn y gerddi Botaneg dros wythnos yn ol i ddiwrnod afale, a fe ddwedodd y dyn bach neis wrtha i fod gen i afal seidr prin yn tyfu'n yr ardd. Dwi di bod yn brysur yn casglu afale drw'r wsnos a mi fydd y batsh cynta yn cal i wneud ddydd Sadwrn nesa. Pawb draw i'r garafan i yfed scrympi a seithi wiwerod!

1 comment:

Nwdls said...

Gai fenthyg Gummo gen ti ar ol i ti orffen? Dwi'n torri mol isio gedl o. Mi recordiodd fy ffrind i o, ac mi oedd o'n paldaruo amdano am oes, wedyn gollodd o fo...