08/10/2004

Ghostwatch(1992) - Dir. Lesley Manning

Fues i mas neithiwr fel rhan o wyl ffilmie myfyrwyr Cymru: Ffresh i weld Ghostwatch ym mhlasty Nant Eos ger Aberystwyth. Roedd y nosweth yn ffecin gwych, caethon ni'n tywys mewn bws o Brifysgol Abertawe ar hyd lon fach gul, gyda changhenau'r coed ar hyd y ffordd yn sgrechian ar hyd ochor y bys. Mi odd na niwl ar hyd y lon, a pan gyrhaeddon ni mi oedd y plasdy'n dywyll heblaw am dân yn y cyntedd a chanhwylle hyd y lle.
I'r rheini o chi sy'n rhy ifanc i gofio, rhaglen 'fyw' a ddangoswyd ar Noson Galan 1992 ar BBC 1 oedd Ghostwatch. Y cyflwynwyr oedd Michael Parkinson, Sarah Greene, Mike Smith a Craig Charles. Rhyw fath o 'War of the Worlds' spooky oedd e, plentyn o ni pan i darlledwyd e gynta a ma lled gof da fi o'r rhaglen, dwi'n cofio mynd i'r ysgol y dydd llun wedyn a PAWB yn siarad amdano fe.
Sesiwn Q & A oedd neithiwr gyda'r Gyfarwyddwraig Lesley Manning a'r Ysgrifennwr Stephen Volk, gaethon ni gyfle i weld rhai o'r clips 'fyd, fues i'n ddigon lwcus i gal benthyg copi o'r DVD rai misoedd nol. Ma'r raglen di dyddio erbyn hyn ond ma fe'n eithriadol o bwysig o ran hanes y raglen 'reality'. Ac yn amlwg dos dim modd cal yr un teimlad a oedd pan weles i'r rhaglen am y tro cyntaf erioed pan i fod e'n cal i ddarledu'n 'fyw'. Ma pwysigrwydd y raglen yn amlwg 'fyd gan fod y BFI di cynhyrhcu'r dvd ohono fe, a ma fe'n neis fyd i weld taw Cymry yw Lesley(o Ddinbych y Pysgod) a Stephen(o Bontypridd). Nosweth gret, top notch.

http://www.bfi.org.uk/videocat/more/ghostwatch/

1 comment:

Nwdls said...

Un o fy hoff brofiadau teledu o'm plentyndod. O'n i'n ddigon ifanc i fod rhwng dau feddwl am os oedd o'n real neu beidio. O'n i'n gwybod yn logical taw rhaglen wneud oedd hi, ond eto...

"Pipes" tu ol y cyrtans...brrrr! Swnio fel noson dda, fues i fyny fel rel 'ligger' i'r parti cau yn Aber nos wenar - ffri bwz 'twel.