01/11/2004

Stamp Album - Terence Stamp

O'r diwedd dwi di llwyddo darllen llyfyr yn y garafan. Dos dim hanner gyment o amser da fi nawr, ma na gyment o bethe i wneud. Ry ni di bod yna am dros bythefnos a dwi'm di gweld un ffilm ar y teledu nac ar dvd. Beth ffwc sy'n mynd mlaen? Well i fi siarad am y llyfyr 'fyd yn dife. Y cynta o dri llyfyr(dwi'n meddwl) gan Terence Stamp am i fywyd, ma fe'n olrhain i hanes e yn blentyn yn ardal West Ham/Plaistow yn Llunden. Ma'r llyfyr yn rhwydd i'w ddarllen a ma fe'n frith o storie personol, ma fe'n chwa o awyr iach i gal darllen am blentyndod actor fel Stamp a'r math o fywyd ma fe di byw. Ma na stori dda am i drip cynta fe i'r theatr, mi odd e di cal tocyn gan Noel Coward drwy hap, mi eisteddodd yn i sedd yn y rhes flaen a chal i wefreiddio gan berfformiad Coward. Ond pan ddath hanner amser mi gododdd o'i sedd a gadael y theatr heb wbod bod yna ail hanner i ddod. Yr unig gwyn sy gen i am y llyfyr yw i fod e'n rhy fyr, neu yn fwy i'r pwynt ma fe'n cwpla'n rhy gynnar, esgus i brynu'r ddau lyfyr arall? Efalle. Plot i wneud i fi wario arian. Efalle? Wel mond punt dales i am y llyfyr ym marchnad Caerfyddin ta beth. Dwi'n edrych ymlaen i ddarllen yr ail yn y gyfres, son am i gyfnod yn dechre fel actor yn y chwedege... diddorol.

No comments: