04/10/2004

Rhwng y Nefoedd a Las Vegas - Elin Llwyd Morgan

Di cwpla'r llyfyr yn weddol gloi, cal i fenthyg e o'r llyfrgell nes i wedi i weld ar y silff 'Just Arrived'. Ma'n siwr y base fi heb i fenthyg e heblaw y mod i di darllen yr holl glod am y llyfyr ar Faes-e. Diflas yw'r clawr er i fod e'n gysylltiedig a'r stori, ond ma hynny'n mynd am y mwyafrif o lyfre Cymraeg (heblaw am Dyn yr Eiliad - Owen Martell). Ma nhw'n dweud 'don't judge a book by its cover' ond dyna dwi'n gwneud yn aml. Ma'r un peth yn wir am win, dewis y botel gyda'r label gore dwi'n wneud drw'r amser achos bach iawn o glem sydd da fi am 'i gynwys e. Nol at y llyfyr, mi oedd e'n rhwydd i'w ddarllen heb fod yn simplistig, stori a strwythur da. Ar y cyfan mi wnes i i fwynhau e, llyfyr i fenyw yn fwy na dyn, OND a ma hyn yn ond mawr doedd e ddim yn torri unrhwy dir newydd, do mi wnes i i fwynhau e ond tase'r llyfyr yn CD, mi fyse fe yn gompiwlasiwn easy listening, 'nough said.

3 comments:

cridlyn said...

Darllenes i'r llyfyr yn glou iawn hefyd, ond sai'n siwr os bydde fe'n 'easy listening' chwaith. Mae 'na straeon go gymhleth yn digwydd 'na - yn enwedig gyda'r tro sy'n digwydd hanner ffordd drwy'r nofel (sai'n mynd i ddatgelu dim, rhag ofn bod rhywun yn darllen sydd heb ei darllen), a materion dwys iawn gyda'r gaethiwed i heroin ac ati. Mae'n nofel sy'n dweud llawer am y berthynas rhwng pobl a'r ffordd maent yn dablygu gydag amser. Rhagorol oedd y nofel yn fy marn i.

Chicken Legs, Twm and The Kid said...

Geraint - Dwi'n cytuno da ti ar ambell beth, oes ma na straeon cymhleth yn y llyfyr, a ma nhw'n ddwys fel yr enghraifft roes di o'r gaethiwed i heroin ond ma'n rhaid cofio fod y llyfyr yn weddol fyr. Yn bersonol doedd e ddim yn ddigon swmpus i gal effaith arna i fel darllenwr. Mi oedd hi'n dda ond ddim yn rhagorol.

Nic said...

Mae llyfr 'ma wedi dwyn ei deitl oddi ar CD easy listening (os wyt ti'n hipi).