25/10/2006

Blydi Dudley.



Stori o'r Guardian heddi ynghlyn a rhaglen newydd goginio Raymond Blanc. Dyw'r rhaglen ddim yn fy niddoru rhyw lawer, er y mod i'n gwylio arlwy Ramsey a Hugh Fearnley-W fel defod. Beth wnaeth ddal fy sylw fwyaf oedd disgrifiad Ramsey o Blanc - "jumped up little French twat". Piti na byse owns o angerdd Ramsey yn ein cogydd ni o Gymru, ie, ffefryn Mam-gu's led led Cymru, Cudley Dudley. Ymddengys bod cyfres newydd da Dudley a dyw'n gwlad fach ni ddim yn ddigon da mwyach, ma'n amlwg bod gan $4C ddigon o gash os yw e a llwyth o gystadleuwyr yn gallu mynd am drip bach neis i Ffrainc. Siawns byse fe di bod yn syniad gwell i wneud y rhaglen yng Nghymru a defnyddio cynhwysion lleol - ma hi'n ddigon gwael nawr bod bwyd traddodiadol Gymreig yn cael ei restru fel cawl, bara lawr, bara brith a pice bach. Beth am bach o ysbrydoliaeth Cymreig?

1 comment:

Nwdls said...

Clywch clywch! Mae cynnyrch Cymru yn hynod o safonol erbyn hyn. Dim ond trip lawr i farchnad ffermwyr unrhyw dref sydd angen. Gwledd.

Da dy weld yn ôl gyfaill!