10/11/2005

Sialens Starbucks



Ddydd Sul diwetha fe bendyrfynes i gefnogi globaleiddio a mynd am dro i'r siôp goffi Starbucks agosa yn Abertawe. Ma'n rhaid cyfadde y mod i'n mynd o ngwirfodd ambell waith (ma'r teisenne bach oreo's yn arallfydol), ond Ddydd Sul mi oedd na bwrpas i'r ymweliad. Wedi darllen am Sialens Starbucks ar flog Hippi'r Ddinas fe benderfynes i weld os oedd ein cornel bach ni o'r byd yn gwneud bach yn well na'r dinasoedd mawr drwg. Pwrpas y sialens yw i weld os oes modd cael paned o goffi 'masnach deg' o Starbucks, ma nhw di bod yn gwerthu coffi rhydd ers amser i chi gael prynu a ma na lwyth o daflenni 'fyd yn y siôp yn sôn yn union beth yw coffi masnach deg. Ma'n bleser da fi ddweud y gwnath Abertawe'n dda iawn, mi oedd na goffi du masnach deg ar gael(a mi oedd e'n ffein iawn 'fyd). Pam na wnewch chi dreual hyn yn ych siôp goffi leol.

4 comments:

cridlyn said...

Dwywaith erioed fi 'di bod mewn i Starbucks, unwaith gyda rhywun arall (a gwrthod cael unrhyw beth), ac unwaith i roi poster Pictiwrs lan. Ond falle y gwna i fentro mewn os caf i gyfle.

Rhys Wynne said...

Dwi'n darllen City Hippy hefyd ac wedi gweld y Sialens Starbucks. Rioed wedi bod i un, dim oherwydd rhyw wrthwynebiad moesol (am unwaith), jyst rioed wedi apelio. Efallai a'i rwan i weld sut aiff. Dêt gyda GC efallai :-0.

Chicken Legs, Twm and The Kid said...

Dwi'n teimlo'n reit euog ych bod chi'ch dau heb fod i Starbucks, ma hi'n anodd iawn ffeindio paned dda o goffi lawr 'ma yn y Gorllewin gwyllt ac ambell waith ma'n rhaid galw mewn er mwyn cael paned dda (ma Coffi Costa yng ngwasanaethau Pont Abraham yn dda iawn 'fyd). Ma siope coffi di cyrraedd Caerfyrddin erbyn hyn ond anaml iawn dwi'n cael paned dda gwaetha'r modd. Ma'r bwyd yn dda 'na 'fyd ond ma isie ail-forgais i brynu unrhywbeth.

Anonymous said...

top [url=http://www.c-online-casino.co.uk/]uk casino bonus[/url] check the latest [url=http://www.realcazinoz.com/]casino online[/url] autonomous no deposit bonus at the foremost [url=http://www.baywatchcasino.com/]casino online
[/url].