04/10/2005

Pinky a Perky



Fore Sul pan ddihunes i, mi oedd na ddau wyneb bach yn edrych arna i o gornel y cae. Dau fochyn. Ma plant y cymdogion di galw nhw'n Pinky a Perky ond dwi'm am fod yn rhy agos atyn nhw oherwydd taw'r rhewgell fydd i tynged nhw. Dwi di bod yn pori drwy'r llyfre coginio am ryseitie sy'n defnyddio porc, hyd yn hyn dwi am wneud brawn o'r pen, pwdin gwaed da'r gwaed a braster, cig moch wedi i halltu o gig y bola, pate, selsig, ham di bobi o un o'r coese a ham 'cured' o un o'r coese eraill. Mi fydda i'n bwyta cig mochyn am fisoedd ar y rat yma.



Ges i benwythnos reit weithgar, codwyd yr holl datws a'r winwns a ma nhw bellach ar ben hen sache reis(am ddim o'r têc awe Tseiniaidd) yn sychu yn barod i'w bagio. Mi dyfon ni 11 math gwahanol o datws eleni y gore o bell ffordd oedd Pink Fir Apple (crop salad), Romano(taten goch) a Cara (taten wen da llygaid pink). Dos dim rhyw lawer ar ôl yn yr ardd heblaw am foron a phanas ac ambell i frassica nad yw'r malwod di bwyta. Ma na lwyth o waith clirio i'w wneud cyn flwyddyn nesa. Tase fod na dô uwch ein pennau ni a stafell spar mi fuasen ni'n ymuno da'r Woofers ac yn câl cwpwl o bobol i aros i weithio ar y fferm. Ma na gymaint o waith i'w wneud a byth digon o help llaw.
Os oes na unrhywun am wylie yng Ngorllewin Cymru dewch yn lli (ond dewch ach wellies da chi 'fyd).

5 comments:

Rhys Wynne said...

WHooh Pwdin Du, mmm. Mond unwaith dwi di cael Pwdin Du cartref ac mae'n llawer neisiach na'r stwff sydd yn y siopau (er dwi ddigon hapus yn buta hwnnw hefyd)

Ddim yn cin a'r Gaws Pen Mochyn (dyna be ma Darren yn galw Brawn ar http://blog.aberdare.org/?p=150), er rhagrith llwyr yw peidio bwyta ymenydd y creaduriaid bach hoffus a minnau mor barod llwcio lawr darnau mawr o'u tintws.

Chicken Legs, Twm and The Kid said...

Dwi run peth a ti, dwi'm yn rhy hoff o gaws pen mochyn chwaith. Ma nhw'n dweud taw bochau mochyn yw'r darn gorau o gig ar yr anifail(y darn sydd di cael y mwya o waith siwr o fod). Ma Mam a'n Wncwl yn dwli ar brawn felly iddyn nhw yn fwy na dim y bydd hwna.

Dwi erioed di gwneud pwdin gwaed o'r blaen felly fe gawn ni weld sut jobyn y gwna i arno fe. Cytuno'n llwyr ynglyn a stwff cartre - bach iawn o gigyddion hyd yn oed sy'n gwneud i pwdin i hunan bellach. Dwi'n synnu'n fawr fod yna farchnad i gymaint o'r bwydydd dwi'n lico bellach - ma'r mwyafrif o bobl eisie cig gwyn glan yn hytrach na gwaed, braster ag offal.

Nwdls said...

Dwi'n byta offal(be dio'n Gymraeg dwch..."syrth"! duwcs...) drwy'r amsar . Iau mewn saws vfinag gwin gwyn a garlleg; brechadan ffagots i ginio; pwdin gwaed ar fore Sadwrn. Jest y boi.

Mae bochau moch yn delicacy yn rhai ardaloedd o Sbaen dwi'n meddwl. Gesh i droed mochyn yn Ffrainc eleni - ddim yn sbesh. Do'n i'm yn gallu ffeindio'r cig, wel, yn y diwedd sylwais i nad oedd cig bron ac taw bwyta'r gweddillion yw'r amcan! Fe fyta'i gig a gwaed ond dim gewynnau a saim...wel, heblaw am PORK SCRATCHINGS de!

Oce, nai fyta rwbath.

Gai ddod i neud bach o waith os gai flasu dy facwn a'th boudin noir?

Rhys Wynne said...

Anghofiais am ffagots, ond doeddwn ddim yn ei ystyried yn 'syrth'. O wel dio'm ots, dwi newydd ddechrau bwyta rhain hefyd, gan fod ambell gigydd yn y cymoedd a Chaerdydd yn ei gynnig.

Chicken Legs, Twm and The Kid said...

Rhodri, ma croeso i ti ddod unrhyw bryd, cei di dy fwydo'n dda ta beth tra bo ti 'ma a'r rhan fwyaf ohono fe'n fwyd cartref neu lleol. Ma Mam yn dal i wneud ffagots a ma nhw'n fendigedig, dyw nghariad ddim yn rhy hoff o ffagots felly anaml iawn y ni'n i cael nhw gwaetha'r modd. Ma isie bwyd arna i'n barod jest yn meddwl am ffagots, pys a toc tew o fara ffres da menyn. Nefoedd.