12/08/2005

Milltir Sgwar

Ges i bip bore 'ma ar Maes-e ar 'pump am y penwythnos', ma cwestiwn rhif 5 islaw. Wnes i wneud gwgl bach o'r ardal dwi nawr yn byw ynddo i gael gweld beth yn union sydd o fewn fy milltir sgwar i. Co be ges i fel atebion. (Ma fe'n eithriadol o ddiddorol i fi ond ma'n siwr yn ddiflastod llwyr i bawb arall).

5. Disgrifiwch eich hanner milltir sgwar ar y funud (sdim rhaid i chi roi enw lle)?


Bwthyn Pontnewydd

Ein cymydog agosa(ar ein hochor ni o'r heol), ma golygfa o'r bwthyn bach yma da ni o'n beudy drwy Weun Fach(enw'r cae). Boi lleol sydd bia'r bwthyn a'n ei renti fe mas i ymwelwyr - i ddweud y gwir ma fe'n gweithio mas yn dda i fi. Ma na deulu o ymwelwyr newydd bron i bob wsnos yn galw i brynu wyau ac i borri dros yr arlwy o blanhigion sydd gen i ar werth.

Fferm Glyn Fach

Fferm gyfagos sydd bellach yn cynnig gwely a brecwast. Ma rhyw chwe polytunnel mawr da nhw, rhyw 'farm co-operative' o nhw i ddechre ond bellach pâr canol oed sy'n rhedeg y lle - ma Rick Stein yn galw ma i brynu llysie pan ar i dravels i nôl pysgod o Borth Tywyn.

Clwb Golff Abaty'r Glyn

Ma'n fferm ni'n rhan o hen stad y Glyn, mi oedd na Abaty ar un adeg(sydd bellach yn adfael) ond ma'r hen dŷ yn dal yn sefyll a ma na 'country folk co-operative' o bobol yn byw yn y plas, coachhouse, bythynod ac ati. Ma nhw di bod yna ers y '70 au a ma nhw'n bobol ffein. Partion Mai a Flwyddyn Newydd chwedlonol. Ma cwrs gollf sydd ochor draw'r dyffryn(wedi i adeiladu ar hen waith glo) wedi cymryd yr enw. Clwb Golff Pontnewydd oedd e i ddechre ond ma fe fel tase fe'n ffynnu wedi iddo fe newid i enw. Ma'n rhaid dweud er mod i heb rhyw ormod o ddiddordeb yn y golff i hun fod y lle'n baradwys i natur. Ma lli o bili palas prin a 'dragonflies' yno, a digon o wair hir yn gartref i nadredd a chwnigod.

John Bilsbrough

Methu ffeindio unrhyw wybodaeth am stad y Glyn i hun ond co chi un o'r trigolion. Er taw mewnfudwyr yw'r mwyafrif sy'n byw yn y Glyn ma na nifer 'di dysgu Cymraeg a ma nhw oll yn cyfrannu'n enfawr i'r gymuned leol. Ma John yn ymddiddoru yn yr hanes lleol, a ma ganddo gwpwl o lyfrynne bach yn olrhain hanes yr ardal - piti garw i bo nhw ddim ar gael ar y we. Yn ôl yr hanes yng nghoed y Glyn (sy'n rhedeg o'r plas i lawr at y fferm da ni) y bu i nhw golli'r Twrch Trwyth yn straeon y Mabinogi. Ac ar ben mynydd Pembrey gyferbyn yn ôl y chwedl ma'r fynedfa i Annwn. Diolch hefyd i'r ffaith y bu mynachod yn byw yn y Glyn fod gen i berllan o goed afalau seidr.

Llwybr Treftadaeth Mwyngloddio Pontiets

Yn rhedeg ar hyd ffin y fferm ar un ochor ma'r afon Gwendraeth Fawr ac yn rhedeg da'r afon ma llwybr treftadaeth Pontiets sy'n rhedeg o bentre Pontiets rhyw ddwy filltir i ffwrdd i lawr at Bont yr Ysbryd Gwyn ger Cydweli. Lle hyfryd i gerdded ond anaml iawn dwi'n cael amser i wneud - y tro diwetha fues i oedd yn ystod gwylie'r 'Dolig. Fuodd y nghariad a'i chwaer yn cerdded yno penwythnos diwetha ond mi oedd na lwyth o waith yn galw 'da fi.

Penllwynteg

Co chi gartre fy Mamgu a Tadcu, fuodd ein teulu ni'n byw ma (fel tenantied) am ganrifoedd, ma'r hen fwthyn gwreiddiol un stafell yn adfael yn y coed gerllaw hefyd. Bellach ma'r lle'n gwbl wahanol i beth dwi'n i gofio fe, ma gran dda ar yr adeiladau a theulu hyfryd yn byw yno. Ond ma hi'n drist mynd yno gan gofio yr holl atgofion melys.

Ma'n siwr eich bod chi di diflasu'n gyfan gwbl erbyn hyn, flin da fi.

3 comments:

Rhys Wynne said...

Ma'n siwr eich bod chi di diflasu'n gyfan gwbl erbyn hyn, flin da fi.

Ddim o gwbwl, difr iawn. Mae'r blogiau Cymraeg (ac eraill wrth gwrs) yma'n rhai golwg personl a lleol iawn i ardaloedd o Gymru (a thu hwnt) na wyddaf ddim amdanynt. Diolch

Nic said...

Damo. Fi, Nic, bostiodd hwnna. Wedi bod yn helpu ffrind creu blog ac anghofio allgofnodi, mae'n amlwg.

Anonymous said...

Joies i mas draw 'an. Atgoffa fi o neithwr pan o'n i'n siarad 'da father am gartre' i Dad e. Lovely clywed storis pan ma enwe caeau'n dod mewn ddi. Diolch yn fowr i ti boi. Ffacin gwd blog.