10/08/2005

Danteithion o'r ardd



Yn dilyn
postiad Rhys Wynne
am i domatos dwi'n meddwl i bod hi'n amser i fi bostio rhyw bwt bach am ddanteithion yr ardd. Er fod gwaith yn brysur, yr adeiladu ar y beudy yn dod yn i flaen mi dwi di cael rhyw awr fach rydd fan hyn a fan draw i dendio'r ardd. Co ni fasged o gynhyrch a biges un nosweth wsnos diwetha. Ma'n deiet ni di gwella dros yr haf gyda'r holl lysie ffres a ry ni di bod yn lwcus iawn yn cael pysgod o Fae Caerfyrddin a ma na ambell i ffesant a chwningen a ddales yn y gaeaf di dod o'r rhewgell i greu pryde cartref cyfan gwbl. Dwi'n byw mewn gobeth y byddwn ni un dydd yn hunan gynhaliol, neithiwr mi ddarllenes i erthygl ddiddorol iawn yng nghylchgrawn Country Smallholding gan bar a fuodd yn denantiaid ar Ynys Enlli ers 1994. Yn anffodus dyw'r erthygl ddim ar gael ar i gwefan.

3 comments:

Rhys Wynne said...

Roedd yna ddathlu mawr nos Sadwrn wedi dychwelyd o'r Steddfod i ddarganfod bod un o'r tomatos (maint melon erbyn hyn) wedi cochi. Mae fy nghariad wedi fy narbwyllo i'w adael yno yn y gobaith y gwnaiff annog y lleill i gochi hefyd. Roeddwn yn amau mai tric oedd hyn iddi gael y tomato coch cyntaf i gyd i hi ei hun hefyd, ond roedd dal yno bore ma chwarae teg.

Lle mae lluniau'r adeiladu 'ma, damia?

Nwdls said...

Waw, ma rheina'n eedrych yn hynod flasus. Lliwia da. Pak Choi di'r bresych-beth 'na?

Chicken Legs, Twm and The Kid said...

Perpetual Spinach yw'r stwff sy'n edrych fel Pak Choi, ma fe'n debyg iawn i Chard. Dwi am dyfu spinach iawn flwyddyn nesa ma fe'n lot neisach.

Rhys, llunie adeiladu ar y ffordd.