18/08/2005

Cymydog da ydyw clawdd.



Wedi prynu Martha, Jac a Sianco o'r diwedd. Lwyddes i ddarllen e dros y penwythnos a mi oedd e'n ddifyr iawn. Iaith raenus dafodiaethol, disgrifiade gwych o fywyd fferm Gorllewin Cymru a stori syml oedd yn apelio. Do ni'm yn gwbod dim am yr awdures, ma na beth gwybodaeth ar wefan BBC Cymru'r Byd, beth nath ddal fy sylw fwyaf oedd i hoff ddywediad/dihareb - Cymydog da ydyw clawdd. Gwych, heb i glywed o'r blaen ond ma fe mor wir, mi fydd yn rhaid i fi gofio hwnna.

Ar nodyn arall mi oedd na gân da fi'n styc yn y mhen drwy'r wsnos ma(heblaw am un newydd KT(ynte Katie?) Tunstall), Hope There's Someone gan Antony & The Johnsons, edit mp3 ar gael yma.

3 comments:

Chicken Legs, Twm and The Kid said...

What what what? Sut ma dileu'r sothach ma bobol?

cridlyn said...

Os wyt ti wedi mewngofnodi, mae bin bach ar waelod y sylw. Clicia ar hwnna, wedyn cer i 'delete forever'. Dylai'r sothach ddiflannu, a gobeithio peidio pardduo dy flog byth 'to.

Chicken Legs, Twm and The Kid said...

Diolch Geraint, ffac, dwi'n cal gwared o sbam a nawr ma na blydi sbamio Cymraeg 'fyd!