16/11/2004

A Cook's Tour - Anthony Bourdain

Dwi di sgwennu am i lyfyr cyntaf e'n barod ar y blog a mi ges fenthyg yr ail lyfyr yma gan ffrind. Mi odd e'n reit dda ond mi gymrodd e oes i mi ddarllen e i gyd(ma gen i theori am hyn 'fyd, dwi'n un sy'n lico theories - fy hoff le i ddarllen fel sawl dyn yw'r toilet ond ers symud ma'r stafell ymolchi yn blydi rhewi so dwi'm yn treulio chwarter o'm hamser i na, thanciw). Ma'r llyfyr ma yn olrhain hanes Bourdain yn teithio o amgylch y byd yn edrych am y pryd bwyd gore, dyw e ddim yn ffeindio perffeithrwydd ond ma fe'n dod yn reit agos. Ma'i deithie fe'n eithriadol o ddiddordol, yfed Vodka yn Rwsia, lladd mochyn ym Mhortiwgal(dwi meddwl taw Portiwgal oedd e, ma oesoedd ers i fi ddarllen dechre'r llyfyr), bwyta Cobra yn Fietnam a.y.y.b. Ond y ddwy bennod mwya diddorol i mi odd yr un ar Loegr sy'n ymdrin a phryd o fwyd gan Gordon Ramsey a bwyd yn Nhy Bwyta St John's yn Llundain a'r llall yw'r bennod am Fwyty'r French Laundry yng Nghaliffornia. Ma llyfyr coginio'r French Laundry di bod ar fy rhestr Nadolig ers i fi weld e amser 'Dolig diwetha, ma fe'n blydi marvellous. I ddweud y gwir dwi di cal spyrt bach diweddar yn coginio a ma'r hen lyfre Elizabeth David di bod mas da fi'n aml, a fe ges i lyfyr ffab o siop elusen rhyw bythefnos yn ol, y fersiwn Saesneg o La Veritable Cuisine de Tante Marie. Saith allan o ddeg, rhwydd i'w ddarllen ond ddim cystal a'i lyfyr cyntaf.

No comments: