05/04/2006

Grymp, gwyrddni a Liz Hurley

Dwi'm di blogio ers amser, dwi'm di teimlo fel gwneud ers amser, digon o waith i'w wneud wrth i'r tŷ ddod yn i flaen - wnai bostio llunie wsnos nesa. Wedi bod yn yr ardd bob munud sbar hefyd yn paratoi ar gyfer y tymor newydd. Ma na berllan o ugain o goed ifanc di plannu a ma cywion cynta'r flwyddyn dy dod o'r deor-flwch(incubator?), bron i hanner cant erbyn hyn.



Y prif esgogiad heddi i sgwennu oedd darllen post Rhys, gallai'm cymharu yn ein hardal ni yn anffodus gan nad oes casgliad ail-gylchu ar gael ond ma'r bocsys ail-gylchu yn y maes parcio lleol yn orlawn (sy'n arwydd da). Wsnos diwetha fe ddechreues i wylio cyfres newydd ar BBC2, It's Not Easy Being Green, rhaglen yn sôn am deulu sy'n ceisio byw bywyd gwyrdd. Ma'r rhaglen fel rhyw fath o Good Life ar steroids, ma'r teulu i hun yn angrhedadwy, ma gan y tad fwstash pen i gamp (ai ar Scraphead Challenge wy di weld y boi o'r blaen?), ma'r fam yn hippy llipa a'r plant(wel ma'r ddau yn i harddegau os nad yn hyn) yn gyfuniad o'r ddau. Ma nhw mor blydi hapus, sy'n beth gret ond ma fe'n gwneud fi'n flinedig jest yn gwylio'r rhaglen. Yn ogystal a'r teulu ma na 'arbenigwyr' yn byw gyda nhw hefyd - arbenigwraig ar arddio a boi sy'n handi da tools. Yn y rhaglen gynta ma nhw'n symud i gernyw i hen ffermdy ac yn dechre ar drawsnewid i'r bywyd gwyrdd - dechrau ar yr ardd, adeiladu olwyn ddŵr i greu trydan, clirio'r tir ac ati - ma llwyth o waith yn cael i gyflawni yn benna diolch i lwyth o ffrindie'r plant (myfyrwyr ar i gwylie haf). Neithiwr mi gaethon nhw ddau fochyn bach, adeiladu ty gwydr a creu cawod sy'n cael i wresogi gan yr haul(dwi ffansi rhoi shot ar hwn fy hun) - os gallwch chi gadw fyny da'r teulu ma'r rhaglen yn werth i gwylio.

(Newydd wneud bach o syrffio a ma gan y teulu wefan)

Ma pop Dydd Sul yn ddiweddar di bod yn llawn cyffro, ma nghariad a finne di bod yn gwylio Project Catwalk ar Sky Three. Ma'r gyfres di cwpla nawr a ma'r fersiwn Americanaidd wreiddiol arno yn i lle - Project Runway.



Rhyw fath o wawffactor ffasiwn yw Project Catwalk - ma'r gyfres yn dechrau gyda rhyw ddeng cynllunydd ifanc a bob wsnos ma un yn gorfod gadael wedi cwblhau rhyw dasg gynllunio wahanol. Ma'r wedjen da fi'n gynllunwraig, ma'r gwaith ma hi'n wneud nawr gan amlaf i gwmniau eraill - Howies, Toast, Burberry a Marks & Spencers er nid cynllunio ma hi'n aml ond gwneud gwaith technegol. Pan ddechreuon ni fynd mas mi o ni'n cael hwyl yn mynd i sioeau ffasiwn a ma Project Catwalk yn fy atgoffa i o'r cyfnod 'na, yr holl waith munud ola, y models, popeth. Er uchafbwynt y rhaglen bob wsnos yw Liz Hurley y gyflwynwraig yn ynganu(wel ceisio) 'Fashion Has No Mercy' - i 'catchphrase' hi i ateb 'You are the weakest link, goodbye' Anne Robinson.

I gadw at y testun o ffasiwn, bu cyfres wych ar BBC4 am y cwmni ffasiwn Chanel, House of Chanel. Os yw'r rhaglenni'n cael i ail-ddangos da chi gwyliwch nhw ma nhw'n wych.

3 comments:

Rhys Wynne said...

Waw, dwi erioed wedi ysgogi neb o'r blaen, mond danfon pobl i gysgu.

Gwyliais i'r rhaglen It's not easy Being Green am y tro cyntaf neithiwr. Yn ddiweddar mae fy blogroll wedi chwyddo gyda nifer o flogiau gwyrdd, gyda mwy o rai o Brydain yn ymddangos rwan i gadw cwmpeini i'r sawl un Americanaidd oedd yno. (mae un o'r blogiau hyn yn cadarnhau i'r tad ymddangos ar Scrapheap Challenge gyda llaw).
Mae'r cymeriadau braidd yn annoying (mond am mod i'n berson miserable fy hunan), ond dwi am geisio gwneud ymdrech i'w wylio eto, ac ymweld â'u gwefan.

viagra online said...

great blog about Grymp, gwyrddni a Liz Hurley

citrate sildenafil said...

I really like this write! I enjoy it so much! thanks for give me a good reading moment!