01/12/2005

Diogu



Dwi'n wael iawn yn cadw lan da'r blogio ma ond dwi di bod yn brysur. Ma'n moch ni di'n gadael ni wedi'n hen adael ni am y lladd-dŷ a ma nhw bellach yn y rhewgell. Dwi di bod y brysur da pob math o goncocsiyns - ma dwy ystlys, y ddau ben(yn barod i wneud brawn) a ham yn halltu, darn bach o borc y bola mewn dŵr a halen a darn o'r collar mewn gwin coch i wneud ham Caerfyrddin. Defnyddiwyd yr afu i wneud pate a ffagots, halltes i ddarn o'r afu 'fyd mewn siwgr brown a halen a'i ffrio'n denau a'i fwyta gyda finegr balsamic a diwedd ein llysie salad ni am eleni (gobeithio y bydd llysie 'da ni drwy'r flwyddyn wedi i fi gwpla adeiladu'r polytunnel). Y prif arbrawf wnes i oedd defnyddio gwaed y moch i wneud boudin noir/pwdin gwaed, mi oedd y canlyniadau'n ffein dros ben ond ddim byd tebyg i'r pwdin sydd ar werth yn y bwtsiwr, mi fydd rhaid arbrofi'n bellach (rysait o lyfr Hugh Fernley/River Cottage ddefnyddies i). Fuon ni'n ddigon ffodus o gael dwy afar ifanc gan gymydog hefyd, felly ma'n rhewgell ni'n reit llawn (fues i'n lladd ein hwyaid ni hefyd cwpwl o wsnose nôl felly ma digon o gig da ni nawr). Do ni erioed di cael cig gafar o'r blaen heblaw am mewn cyrri felly wnes i dreual rysait dwi di ddefnyddio cwpwl o weithie i goginio cig oen. Fe ges i'r rysait o bapur yr Observer, 'Roman Spring Lamb', ma'r rysait wreiddiol o'r llyfr coginio Silver Spoon, anrheg Nadolig bach neis i unrhywun sydd a diddordeb mewn coginio. Ac oedd mi oedd y cig gafar yn hyfryd.

5 comments:

Rhys Wynne said...

W, ma mola i'n rymblan

Chris Cope said...

Fi hefyd. Wel, ar y rhan fwyaf -- dw i ddim yn gallu dweud fy mod i'n ffan fawr o pwdin gwaed.

Nwdls said...

O diawl, gai neud swop - bocsiad o fy nghacs bach i am damed o dy ham Caerfyrddin di. Mae'r holl fwyd na'n swnio'n fendigedi. Ti'n codi archwa mawr arna i wneud yr un peth.

Llongyfarchs am fyw y freuddwyd!

cridlyn said...

Newydd brynu llyfyr rhen Hugo Ffyrnli, ac mae wedi bod yn ddifyr dros ben... methu rhoi'r blydi peth lawr!

Hoff o'r ymadrodd "the best way of not getting too attached to your pigs is by always thinking of them as potential bacon". Sut o'dd hi i ti?

Chicken Legs, Twm and The Kid said...

Rhods, a chroeso ond dyw'r ham Caerfyrddin ddim yn edrych yn rhy dda ar hyn o bryd. Wedi bwyta'r darn o gig wnes i halltu mewn dŵr a halen a mi oedd e'n fendigedig, ddim yn hallt o gwbl a mi oedd ychwanegu siwgr brown i'r gymysgedd yn rhoi hint bach o felysrwydd.

Geraint, mi oedd dweud ta ta yn reit rwydd i fod yn hollol onest - doedd e ddim cweit yr un peth a gorfod lladd anifail eich hun fel fues i'n gwneud yn ddiweddar da'n hwyaid ni. Ma'n lot haws pan fod yr anifal yn mynd i ladd-dy ac yn dod nôl yn lan ac mewn darnau. Os oes unrhywun isie cig rhowch alwad (ma mochyn, cig gafar a hwyaid da ni'n sbar).