15/07/2005

Blogshares



Blogshares

Be ffwc di hwn? Newydd fod yn edrych ar pwy sy di bod i ymweld â'r hen flog 'ma wsnos hyn. (Mi wnaeth un person fy ffeindio drwy deipio 'edrych am gariad caerfyddin' i fewn i gwgl - fi di canlyniad rhif 8 yn ôl gwgl!!!). Ymysg popeth mi oedd na linc hefyd i blogshares, erioed di clywed am hwn ond yn ôl y wefan ma bob 'share' yn fy ngwefan yn 5.06 Blog Dollar!

1 comment:

Aled said...

Mae'r Tracker yna yn gallu datgelu pob math o bethau rhyfeddol tydi! Am gyfnod fi oedd a chanlyniad uchaf gwgl am y gair 'daeargrynfeydd'! Hefyd, mae'n dangos fod gen i ddarllenydd sy'n gweithio i'r Blaid sy'n ymweld hyd at bedwar gwaith y diwrnod ac yn gwneud hynny bob tro drwy deipio 'golygon gasyth' i mewn i gwgl!