28/02/2005

Oes na bobol?

Dwi di bod yn reit dawel yr wsnose diwetha, brysur iawn yn gwaith a digon i'w wneud adre. Ma'r nosweithi yn dechre goleuo a ma na fwy o waith i'w wneud ar y ty ac yn yr ardd. Ma gen i gynllunie mawr ar waith, acer a hanner o dir yn cal i throi yn ardd ar radd fawr - 1/4 acer yn winllan(ymhen 2/3 blynedd), 1/2 o berllan (i'w phlannu gaeaf nesa gobeithio), 1/4 acer o ffrwyth meddal(falle flwyddyn nesa) a 1/2 acer i lysie, y shed a'r polytunnel (i'w dechre eleni). Dwi fel tase fi'n meddwl y mod i'n cymryd gormod ymlaen rywsut ond dyfal donc a mi fydd digon o lysie da fi i borthi'r pum mil. O ran darllen, araf iawn dwi ar hyn o bryd - wedi darllen yr ail o'r llyfre am Aber - Last Tango in Aberystwyth a mi wnes i weld e cystal a'r gynta (hiwmor syml ysgafn a rhwydd i'w ddarllen). Ynghanol darllen Travels With Charley gan John Steinbeck fyd (llyfyr hollol wych, ma'r sylwade ma Steinbeck yn wneud am ddirywiad diwylliant cefn gwlad America yng nghanol yr 20fed ganrif yn hollol berthnasol i ni'r Cymru heddiw) a 'di prynu The Doors of Perception gan Aldous Huxley i'w ddarllen nesa. O ran ffilmie dwi di gweld sawl un fach dda'n ddiweddar Virgin Suicides, Crazy/Beautiful (Kirsten Dunst yn un o'm hoff eye-candy), Elephant(oedd jyst yn hollol hollol wych yn y marn i - ma hi lawr ar y restr i'w brynu), Bully (dwi'm yn ffan o Larry Clark, dodd hi ddim yn ffilm wych ond dwi'n falch y mod i di gweld hi) ag yn ola Resurrection Man a Trauma, dwy o ffilmie y Cyfarwyddwr Cymraeg Marc Evans. Dwi'n ffan enfawr o House of America a fe wnes i wir fwynhau Resurrection Man(ma i wreiddie cynnar e’n gweithio ar ddrama i deledu yn amlwg yn y steil) ond mi o ni’n gweld Trauma yn reit llipa – wnath y wedjen enjoio fe(ond dwi’m yn siŵr os taw’r ffilm nath hi lico neu jyst Colin Firth?).

1 comment:

Nwdls said...

Mae'r ardd fawr yn swnio fel antur hynod BHE! Gaf i ordro bach o ffa dringo gen ti ar gyfer ha nesa?

Cytuno am Bully, ma gen i o ar DVD - wnai ddim ei wylio eto, ond roedd yn werth ei weld mewn ffordd drist iawn. Roedd gan Kids bach mwy o sbarc iddo rywsut - ond roedd y plant yn honno yn wahanol - llai bord, llai tlawd - mae tristwch hwnna yn eu twpdra a thristwch Bully yn y diffyg gobaith sydd ganddynt i wneud y fffasiwn bethau mor disymwth.