07/08/2006

Blog_Heb_Enw's Rough Guide to Swansea...

Dwi'n dod o Gaerdydd yn wreiddiol felly nid fi yw'r person gorau i fod yn siarad am Abertawe on gan fod lli o chwi Gymry yn dod i Abertawe wsnos 'ma i'r Steddfod co rhyw bwt bach ar bigion gorau Abertawe.

Reit te, ma cwpwl o galerie bach da - y fwya yw'r Glyn Vivian sydd jyst yn hyfryd - ma na gasgliad parhaol o waith Cymreig lan lloft a fel arfer ma oleua dwy arddangosfa lawr llawr, siôp dda fyd. Yn hoff galeri fach i yw'r Mission yn y Marina, ac os ych chi yn y cyffunie man a man mynd i'r Attic fyd ond mi fydd isie ceiniog sbar yn ych poced chi fan hyn (dewis da o artistied Cymreig 'ma fyd - David Carpanini, George Chapman, Josef Herman ac ati). Ma na arddangsofeydd yn cael i cynal yn Nghanolfan Dylan Thomas 'fyd - os nag ych chi di bod ma'r arddangsofa barhaol am y dyn i hun yn werth i'w gweld, a'r caffi/siôp lyfrau yn le bach cyfeillgar. Does dim canolfan debyg i Chapter i gael yn Abertawe gwaetha'r modd, yr agosa yw Canolfan Taliesin ar gampws y Brifysgol ynghanol Bae Abertawe - ma'n dangos dewis o ffilmie reit dda a dramau. Un lle bach arall sydd werth mynd am dro yw Amgueddfa Abertawe (Amgueddfa hyna Cymru), ma'r adeilad faux Rhufeinig yn hyfryd, does dim rhyw lawer i'w weld, ma fe'n debyg iawn i'r amgueddfa o'r gyfres Framley, ma na gasgliad o'r ffotograffiaeth gynhara i'w dynnu yng Nghymru lawr llawr, ac i fyny llofft ma na 'fummy' a chasgliad o drugareddau sydd di cael i ffeindio gan bobol yn defnyddio 'chwilwyr metal' (edrychwch mas am y trugareddau sydd di labeli 'interesting item').

O ran siopa, y lle gorau yw'r Mwmbwls, parciwch lawr wrth y pier a cerddwch nôl at y pentre, ma fe'n wac fach neis ar hyd y bae. Llwyth o siope difyr, siop gegin, cwpwl o siope llyfre, deli's, siope dillad. Ma na gwpwl o lefydd da i fwyta 'na fyd - 698, Patrick's a'r Mermaid (sydd cwpwl o ddrwse lawr o 698). Neu os ych chi moyn bwyd yng nghanol y ddinas ma'r Chelsea Cafe a Gwesty Morgans. Flin os i fi di colli rhywle mas ond dwi di bod i'r rhain a ma nhw'n lefydd bach da. Un siop fach arall sy'n werth mynd i yw siop lyfre Dylans, mi oedd hi'n arfer bod yn Salubrious Passage wrth Wind St on ma hi bellach draw rhwng Cae St Helens a'r Guildhall (ma'r Guildhall werth mynd iddi 'fyd - ma na gasgliad gwych o lunie Ceri Richards yn y cordiore wrth y brif fynedfa). Cyn i fi anghofio ma na archfarchnad Tseiniaidd fach dda iawn yn agos i cyn glwb nôs y Palas (jyst i fyny'r ffordd o'r orsaf drên) - ma'r siôp yn fach ond ma'r dewis yn eang.

Un o'm hoff lefydd i yw siôp lyfre Borders (odw dwi'n teimlo'n euog, dwi'n gwbod bod e'n gwmni mawr rhyngwladol sy'n lladd ar siope bach ond ma'r lle'n ffab). Dwi'm yn meddwl bod un yng Nghaerdydd (yn ôl y wefan ma un ar i ffordd), sied anferth yn gwerthu llyfre, dvd's, cd's ac ati yw hi, ma'r dewis jyst yn wych (yn enwedig gan taw yr unig beth sydd gen i gymharu da fe yn y cyffunie yw WH Smith Caerfyrddin).

Reit to, na ddigon am nawr, os gai gyfle wnai bostio rhyw bwt bach arall am 'the sights' yn Abertawe.

6 comments:

Dwlwen said...

Iei - wy'n dwli ar y Mission 'fyd, er i mi erioed brynu unrhywbeth yno! Canolfan Taliesyn yn wych 'fyd - weles i gwpwl o ffilmie tramor fan'na gydag amblell assistant yn y chweched.

Fues i am dro rownd Abertawe ddoe, a cherdded lawr at y dwr heibio canolfan Dylan Thomas (ac adeilad chwedegau-tastic yr Evening Post.) Braf dros ben, rhaid dweud, er mai rhyfeddu at y diffyg llwyr o synnwyr pensaerniol o'n i (sylwer cyfuniad yr hen gastell a'r twr BT, ganol dre) - ond ma rhywbeth 'endearing' am hynny.

Cwpwl o lefydd i ychwanegi at dy restr: ma yn wych hefyd, Fatbob - digon o bethau difyr i bico mewn a mas o'nhw.

Hefyd, am goffi ganol dre, y
Kardomah. Er nad yw'r caffi presennol ar yr un safle ag oedd hi adeg Dylan Thomas a'r Kardomah set, me dal yn deyrnged lyfli i'r pumdegau, a dyw'r coffi ddim yn bad ;)

DanProject76 said...

Hello. I wish I could read your stuff but I don't know Welsh. Thanks for leaving a comment on my blog, I won't spoil your Lost finale for you!

Anonymous said...

compare car insurance rate
direct car insurance
best car insurance
young driver car insurance
infinity car insurance
best car insurance
california car insurance
collector car insurance
car insurance for woman
best car insurance quote
aig car insurance
car insurance n
geico car insurance quote
young driver car insurance
aaa car insurance
nationwide car insurance
progressive car insurance
low cost car insurance online
free car insurance quote
churchil
l car insurance

affordable car insurance
car insurance chicago
new york car insurance
aa car insurance
car accident insurance
new jersey car insurance
progressive car insurance
diamond car insurance
teen car insurance
car insurance chicago

http://cheap-car-insurance.quickfreehost.com

Random Keyword: :)
cheap car insurance quote uk

Anonymous said...

Hello, great site, I found a lot of useful information here, thanks a lot for Your work!
With the best regards!
Frank

Anonymous said...

Where can you download the newest 21st century insurance commercial?

Anonymous said...

get facebook likes
buy facebook likes

http://islandora.ca/using_islandora_demo http://www.columbusneighborhoods.org/content/irs-recognizes-columbus-hilltop-neighborhood-vita-program-volunteers
facebook likes get facebook likes buy facebook likes
For the past 2 weeks Kaspersky has told me that I have 2 viruses..... but.... it does not give me the choice to remove them!! I really need help!! they are starting to cause my computer trouble!! ha does anyone know how to work kaspersky to get rid of viruses?? please help!! thanks!

buy facebook likes facebook likes [url=http://1000fbfans.info]facebook likes [/url] buy facebook likes