29/09/2004

Codi pais a dechre pisio.

Diflasu yn siwr y gwnewch chi wrth ddarllen y blog yma. Ma fe'n fwriadol hunanol. Lle bach cymmen i gadw cofnod o'r llyfre a ffilmie dwi'n ddarllen a gwylio yw'r pwrpas. Ar bwy ma'r bai, wel Mr Nwdls a Mr Dafis. Yn gyntaf Nwdls am i flogie niferus difyrus ac yn ail Mr Dafis am gau Maes E am wsnos. Be ffwc o ni fod i wneud am gyfnod mor hir?

2 comments:

Nwdls said...

Shwdibob a chroeso i fyd y blogia!
Dwinna 'di cael hwb bach i neud mwy o flogio gan fod drysau'r maes ar gau, ddylia fi sdopio mynd arno am o leia un wythnos bob mis dwi'n meddwl.

Carl Morris said...

Pryd wyt ti'n dod yn ôl?